CLWB BOWLIO’R FENNI’N SICRHAU HWB ARIANNOL GAN Y LOTERI DRWY GYFRWNG Y CYNGOR CHWARAEON
3 Awst 2009
Mae ieuenctid Y Fenni ar fin elwa o fanteision hwb ariannol gan y Loteri Genedlaethol.
Mae cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru wedi cyfrannu £904 tuag at y Rhaglen Datblygu Ieuenctid yng Nghlwb Bowlio’r Fenni.
Mae’r clwb wedi ymuno ag Ysgol Gyfun King Henry III mewn ymgais i annog pobl ieuainc yr ardal i gymryd rhan mewn chwaraeon a bydd yn cyfrannu’r arian at saith set o fowls sy’n addas ar gyfer chwaraewyr iau.
Mae cynllun y Gist Gymunedol, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed eleni, yn gynllun grantiau gan y Loteri Genedlaethol a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru, gyda chefnogaeth leol gan Gyngor Sir Fynwy. Y diben yw annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol yn amlach.
Ers ei sefydlu yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac mae Clwb Bowlio’r Fenni yn un o’r sefydliadau diweddaraf i elwa.
Mae cyllid y Gist Gymunedol yn helpu i greu a chefnogi cyfleoedd chwaraeon newydd ar gyfer pobl ieuainc ledled Cymru.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Sir Fynwy. Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn amlach."