Allech chi fod yn seren triathlon?
3 Awst 2009
Mae 'trigold' yn gyfle rhagorol i redwr gyda chefndir o nofio drosglwyddo i fyd triathlon ac ennill medal aur yn Llundain 2012. Mae ymgyrch ar y gweill i gael hyd i athletwyr calibr uchel sydd â’r dyfalbarhad a’r penderfyniad i symud i fyd triathlon ac ennill y medal triathlon Olympaidd cyntaf i Brydain.
Mae’n rhaglen gyflym gyda chefnogaeth lawn sy’n cael ei rhedeg yn broffesiynol a’i nod yw datblygu rhedwyr i fod yn driathletwyr Olympaidd. Ydych chi’n gweddu i’r disgrifiad?
Dim ond un cyfle gewch chi i gipio’r aur yn y Gemau Olympaidd gartref, o flaen eich cynulleidfa eich hun, felly manteisiwch ar y cyfle i fod ar binacl camp fwyaf cyffrous Prydain.
Beth mae 'trigold' yn ei olygu?
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn gwahoddiad i asesiad yn para tridiau yn y Ganolfan Berfformio Genedlaethol yn Loughborough ac yno byddwch yn cael eich blas cyntaf ar driathlon ac yn cyfarfod y tîm perfformio elitaidd.
Bydd y rhai ohonoch a fydd yn llwyddiannus yn dechrau ar eich siwrnai fis Hydref wedyn, gyda rhaglen am dri mis yn canolbwyntio ar y tair disgyblaeth graidd - nofio, beicio a rhedeg. Wedi hyn, byddwch yn symud ymlaen at raglen ysgoloriaeth yn para naw mis gyda’r nod o ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn i chi ymuno â’n Rhaglen o Safon Byd ar ddiwedd tymor 2010.
Bydd y triathletwyr a ddewisir yn derbyn hyfforddiant perfformiad uchel a gwasanaethau gwyddonol a meddygol llawn, dan oruchwyliaeth Prif Hyfforddwr Triathlon Prydain, Joel Filliol.
Bydd mentor hyfforddi personol yn rhoi cefnogaeth o ddydd i ddydd i chi, gan sicrhau trosglwyddo llwyddiannus i’r gamp.
Bydd Triathlon Prydain yn darparu sesiynau rheolaidd gydag enillydd medal arian y Gemau Cymanwlad a llysgennad ar ran 'trigold', Andrea Whitcombe, sydd wedi trosglwyddo’n llwyddiannus o’r byd athletau i fyd triathlon. Mae Andrea wedi dod yn aelod hynod lwyddiannus o dîm triathlon Prydain Fawr ac mae’n credu y bydd 'trigold' yn darparu’r system gefnogi o Safon Byd sydd ei hangen i ennill yr aur yn y Gemau Olympaidd.
Hefyd, bydd 'trigold' yn cynnig triniaeth o’r safon uchaf gyda’r triathletwyr yn derbyn gwahoddiad i ras yng Nghyfres Pencampwriaethau Triathlon ITU y Byd Dextro Energy ym Mharc Hyde yn Llundain ar 15 Awst. Hwn fydd eich cyfle cyntaf chi i weld ble allech chi fod yn rasio wrth gynrychioli Prydain Fawr yn Llundain 2012.
Bydd yr holl driathletwyr a dderbynnir yn rhan o 'trigold' yn derbyn cefnogaeth ariannol lawn, offer perfformiad uchel a llety er mwyn sicrhau eich bod yn gallu gwireddu eich breuddwyd o gipio aur Olympaidd.
Ar ddiwedd yr ysgoloriaeth o naw mis, os byddwch yn dangos y potensial i wneud cynnydd i lefel ryngwladol hŷn, byddwch yn derbyn gwahoddiad i fod yn aelod llawn o Raglen Safon Byd Triathlon Prydain. Os yn llwyddiannus, byddwch yn elwa o’r amrywiaeth llawn o wasanaethau ariannol a chefnogol a ddarperir gan y rhaglen, er mwyn eich helpu i fod yn ennill medal aur yn y triathlon yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012.
Lawrlwytho gwybodaeth y rhaglen neu taflen wybodaeth trigold.
Pa feini prawf sydd raid i mi eu bodloni?
- Ymroddedig i fod yn rhan o Sgwad Podiwm Olympaidd Triathlon Prydain
- Ymroddedig i ennill yr aur yn y triathlon yn Llundain 2012
- Rhwng 18 a 30 oed
- Gyda chefndir rhedeg
- Hanes o nofio mewn clwb nofio cystadleuol ar lefel sirol
- Mae’n rhaid i’r athletwyr fod â goreuon personol fel a fanylir isod:
|
Pellter |
Gwryw |
Benyw |
|
3km |
8:15 |
9:35 |
|
5km |
14:00 |
16:20 |
|
10km |
29:45 |
34:00 |
|
Neu berfformiad cyfatebol | ||
Gwnewch Gais Yn Awr
Os ydych yn teimlo eich bod yn bodloni’r meini prawf, yna GWNEWCH GAIS YN AWR a lawrlwythwch y ffurflen gais a’i dychwelyd at Simon Mills, Rheolwr Datblygu Perfformiad Triathlon Prydain.
Dychwelwch y ffurflenni cais wedi’u cwblhau, cyn 4ydd Awst os gwelwch yn dda, at:
Simon Mills
Ffederasiwn Triathlon Prydain,
Prifysgol Loughborough,
Blwch Post 25,
Adeilad Syr John Beckwith,
Loughborough,
Sir Gaerlŷr,
LE11 3WX
Gyda phwy allaf i gysylltu am wybodaeth bellach?
Am fanylion pellach am y rhaglen, y gamp a beth mae’r cyfan yn ei gynnwys, cysylltwch â Simon am sgwrs anffurfiol ar:
simonmills@britishtriathlon.org
Swyddfa: 01509 226 157
Ffôn Symudol: 078 6069 5187