TEITL ANRHYDEDDUS I SWYDDOG O ABERYSTWYTH
28 Gorff 2009
Mae merch o Aberystwyth wedi cael ei chydnabod gan Gyngor Chwaraeon Cymru am ei hymdrechion gradd A i gael ieuenctid Ysgol Gyfun Penglais ac Ysgol Gyfun Penweddig i fod yn heini ac yn egnïol.
Mae Catrin Jones, 24, wedi cipio gwobr Swyddog y Mis ar gyfer mis Awst – teitl a gyflwynir gan gynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i weithredu’n lleol gan Gyngor Sir Ceredigion.
Daw’r wobr yn dynn ar sodlau dyfarniad arall a dderbyniodd yn gynharach eleni – dewisodd y Cyngor Chwaraeon Ysgol Penglais fel Ysgol y Mis ar gyfer Ebrill.
Nod 5x60 yw cael disgyblion ysgolion uwchradd nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden gorfforol i fod yn fwy egnïol yn amlach ac mae’r cynllun yn sicr yn sgorio marciau uchel. Yn wir, mae 98% o’r holl ysgolion prif ffrwd yng Nghymru wedi cofrestru ar gyfer y cynllun yn awr.
Ac er bod yr ysgol wedi cau yn awr am yr haf, mae Jones yn brysur yn gweithio, yn cynllunio ac yn paratoi ar gyfer y tymor nesaf:
"Roedd tua 22 o wahanol weithgareddau ar gael i’r plant yn y ddwy ysgol y llynedd ac rwy’n gobeithio cynyddu’r nifer yma y tymor nesaf fel ein bod yn gallu cynnig mwy fyth o gyfleoedd iddynt, a phrofiadau newydd.
"Y chwaraeon 5x60 mwyaf poblogaidd yw pêl mainc, dawnsio hip hop a phêl droed 5-bob-ochr. Heb y cynllun hwn, ni fyddai nifer fawr o’r plant wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel dringo, dawnsio hip hop a beicio mynydd."
Mae Jones wedi gweithio’n agos hefyd gyda’r Ganolfan Cefnogi’r Dysgu i ddarparu sesiynau ioga i ddisgyblion.
Mae Jones wedi denu bron i 40% o’r disgyblion i gymryd rhan yng ngweithgareddau 5x60 yn yr ysgol. Meddai wedyn, "Mae’r disgyblion yn fy stopio’n aml gydag awgrymiadau am sesiynau chwaraeon newydd a syniadau, ac mae hynny’n grêt ac yn gynhyrchiol iawn. Ceir cyffro mawr ynghylch y sesiynau hyn ac mae nifer y plant sy’n cymryd rhan flwyddyn ar ôl blwyddyn yn cynyddu’n sylweddol."
Meddai Deanna, Amy a Megan, disgyblion blwyddyn saith ac wyth yn Ysgol Penglais:
"Y clybiau 5x60 yw’r clybiau gorau rydym wedi’u cael erioed yn yr ysgol. Gallwch chwarae gyda’ch ffrindiau ac mae’n gymaint o hwyl. Rydym yn mwynhau pêl mainc gymaint, mae mor cŵl."
Dim ond un o’r llu o arweinwyr sydd wedi’u recriwtio gan gynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yw Catrin Jones.
Mae’r cynllun, a sefydlwyd fel prosiect peilot i ddechrau yn Ysgol Gyfun Penweddig yn Ionawr 2007, wedi’i ehangu i bob un o’r saith ysgol uwchradd yng Ngheredigion erbyn hyn.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Un o fformiwlâu llwyddiannus 5x60 yw bod y disgyblion yn gallu cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ystod amseroedd cinio ac ar ôl ysgol. Yr her yn awr yw agor drysau’r ysgolion ar gyfer 5x60 ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae llwyddiant ysgolion fel Penglais a Phenweddig yn gosod y sylfeini ar gyfer nod hirdymor Cyngor Chwaraeon Cymru o sicrhau bod cymaint ag y bo modd o’r ieuenctid hyn yn symud ymlaen i fod yn oedolion sy’n byw’n iach."
Gwahoddir disgyblion i fynd i www.5x60.org.uk ac enwebu eu swyddog.