“LLINELL FYWYD” MENTRO ALLAN I GWPWL O ABERTAWE
28 Gorff 2009
Er bo’r Tour de France drosodd yn Ne Ffrainc, mae cwpwl sydd wedi ymddeol o Abertawe hefyd yn mentro ar gefn eu beic ac yn newid gêr yr wythnos hon mewn ymgais i fod yn iachach ac yn fwy egnïol.
Nod rhaglen Mentro Allan Cyngor Chwaraeon Cymru yw targedu grwpiau penodol sy’n llai egnïol yn gyffredinol na’r boblogaeth ehangach gan sicrhau eu bod yn cymryd rhan yn fwy rheolaidd mewn gweithgareddau chwaraeon. Yn Abertawe, gwnaed penderfyniad i dargedu gofalwyr.
Mae Cyril Gardner, sy’n 70 oed ac yn dod o Ddynfant, wedi goresgyn cancr y prostrad fwy na deng mlynedd yn ôl, cafodd drawiad ar y galon yn 2004, mae ganddo broblemau gyda’i goes dde oherwydd thrombosis dwfn y wythïen a hefyd mae ganddo osteoarthritis a phroblemau gydag asgwrn ei gefn.
Cyflwynwyd Cyril a’i ofalwr a’i bartner, Haulwen Lumsdaine, i’r cynllun eleni ac maent wedi bod yn mynychu sesiynau gweithgarwch yn rheolaidd yn Abertawe, yn cael eu cynnal gan Gyngor Dinas Abertawe.
Meddai Cyril, "Ymunodd Haulwen a mi â’r grŵp eleni ac rydym yn mynd i gerdded a beicio ac yn cymryd rhan mewn sesiynau blasu chwaraeon, y mae’r ddau ohonom yn eu mwynhau. Y peth da sydd wedi deillio o fynychu’r sesiynau hyn yw cael cwrdd â phobl eraill sydd yn yr un cwch â ni a hefyd cael ein cyflwyno i wahanol weithgareddau chwaraeon.
"Drwy gyfrwng y cynllun hwn, fe ddysgodd Haulwen sut i reidio beic. Er ei bod wedi rhoi cynnig arni sawl gwaith dros y blynyddoedd, dim ond nawr mae hi wedi llwyddo, o gael defnyddio beic tair olwyn.
"Nawr mae gennym weithgaredd y gallwn ei fwynhau gyda’n gilydd, sy’n grêt, oherwydd mae’n llawer haws cymryd rhan mewn gweithgaredd pan fo dau ohonoch."
O ganlyniad i’r sesiynau hyn, mae Haulwen wedi prynu ei beic tair olwyn ei hun ac mae’n beicio’n rheolaidd ar lwybrau a thraciau o amgylch Abertawe. Meddai, "Mae sesiynau beicio Mentro Allan wedi bod yn llinell fywyd wych i mi ac wedi agor byd newydd sbon i mi.
"Rydym wedi bod yn egnïol iawn erioed ond oherwydd anableddau Cyril, roeddem yn gwneud llai gyda’n gilydd nag oeddem yn arfer ei wneud. Dyna’r peth gwych am feicio – gallwn wneud mwy gyda’n gilydd yn awr a chodi allan yn amlach."
Gweithiodd Haulwen i’r GIG, yn Abertawe yn bennaf, am 40 mlynedd cyn ymddeol bum mlynedd yn ôl a nawr mae’n mynychu’r dosbarthiadau beicio’n rheolaidd drwy gyfrwng y cynllun Mentro Allan ac mae’n mynd i feicio gyda Cyril ddwy neu dair gwaith yr wythnos.
Dylai oedolion fod yn cymryd rhan mewn 30 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos. Mae’r targed hwn yn adlewyrchu’r gweithgarwch corfforol a argymhellir gan y Llywodraeth i oedolion gymryd rhan ynddo bob wythnos er budd eu hiechyd a’u lles.
Yn amlinellu pwysigrwydd y rhaglen i Gymru, meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Phil Carling:
"Mae’r rhaglen Mentro Allan yn gwneud cyfraniad pwysig at darged Llywodraeth Cynulliad Cymru o gynyddu’n sylweddol yr ymarfer a wneir gennym erbyn 2025.
"Mae pobl o bob oedran a gallu’n cael cyfle i ddatblygu dull positif o weithredu am oes mewn perthynas ag iechyd a ffitrwydd drwy ddim ond camu allan ar garreg eu drws a mwynhau’r amgylchedd naturiol o’u cwmpas. Gyda thiroedd gwyrdd eang a chopaon mynyddig, mae’r cyfleoedd sydd ar gael yn yr awyr agored yng Nghymru’n ddiddiwedd."
Am wybodaeth bellach am y rhaglen Mentro Allan, anfonwch eich ymholiad at info@mentroallan.co.uk neu logiwch i mewn i www.mentroallan.co.uk