LLWYDDIANT DEIFIO SGWBA YN ABERDÂR

24 Gorff 2009

Bydd criw o ieuenctid o Aberdâr yn cymryd rhan yn eu sesiwn deifio cyntaf yn y môr agored yng Ngorllewin Cymru ddiwedd Gorffennaf, wedi cymhwyso o oed ieuanc iawn i ddeifio yn unrhyw le yn y byd.

Bydd y pedwar ifanc yn plymio i’r dŵr yn Sain Ffraid wedi derbyn hyfforddiant arbenigol mewn deifio fel rhan o gwrs deifio sgwba newydd, ‘Darganfod Sgwba’, ym Mhwll Aberdâr.Aberdare Discover Scuba 006_edited-1

Datblygwyd y cwrs deifio sgwba o raglen ehangach o Weithgareddau Dŵr a gyflwynwyd yn Aberdâr y Pasg hwn fel rhan o Fenter Nofio Am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn cael ei gynnal gan hyfforddwyr cymwys CBHD (Cymdeithas Broffesiynol yr Hyfforddwyr Deifio) o A1 Unisex Divers, mae ‘Darganfod Sgwba’ wedi cael ei greu ar gyfer ieuenctid 10 i 16 oed ac mae ‘Bubblemaker’ ar gyfer plant wyth oed a hŷn.

Meddai Jean Davies, Rheolwr Datblygu Nofio Rhondda Cynon Taf: "Rydym yn hapus iawn gyda llwyddiant y rhaglen o Weithgareddau Dŵr, yn enwedig y cyfle i blant iau roi cynnig ar ddeifio sgwba, a oedd yn llwyddiant ar unwaith."

"Mae’r cwrs yn cynnwys sesiynau theori ac ymarferol ac mae’n meithrin ffitrwydd ac yn gwella gallu yn y dŵr. Mae hefyd yn datblygu hyder ac mae’n llawer iawn o hwyl."

"Roedd cymaint o blant yn mynychu ac rydym yn gobeithio y bydd deifio sgwba’n datblygu i fod yn glwb rheolaidd yn ystod y tymor, y cyntaf o’i fath yn Ne Cymru," ychwanegodd Jean.

Meddai’r hyfforddwraig, Sue Fryer, sydd wedi trefnu’r sesiwn deifio yn y môr: "Mae llawer o fanteision i’r plant sy’n cymryd rhan. Maent yn cael hwyl ac yn cael cymryd rhan mewn gemau wrth hyfforddi, a dyna’r ffordd orau i ddysgu; maen nhw’n gwneud ffrindiau ac yn goresgyn unrhyw bryderon sydd ganddynt am gymryd eu hanadl cyntaf dan y dŵr."

"Byddant yn treulio’r diwrnod cyfan yn deifio, yn cael picnic ac yn mwynhau’r byd tanddwr sydd o’u blaenau, gan wybod yn byddant wedyn yn gymwys o oedran ifanc iawn i ddeifio yn unrhyw le yn y byd fel deifiwr CBHD," ychwanegodd.

Yn dilyn y sesiynau llwyddiannus ym Mhwll Aberdâr yn ystod gwyliau’r Pasg a’r Sulgwyn, bydd y Gweithgareddau Dŵr yn cael eu cynnal eto yn ystod gwyliau’r haf.

Am wybodaeth bellach, ewch i www.free-swimming-wales.org neu ffoniwch eich canolfan hamdden leol.