CYFFRO’R LLUDW’N LLOSGI’N LLACHAR YNG NGOGLEDD CYMRU

2 Gorff 2009

Mae cyffro’r Lludw’n llosgi ymhellach i ffwrdd o lawer na Chaerdydd wrth i ddisgyblion o chwe ysgol gynradd yng Ngogledd Cymru ennill cyfle bythgofiadwy ac unigryw i fynd ar daith i wylio’r gêm brawf agoriadol yn Stadiwm SWALEC.

Drwy gyfrwng cynllun Campau’r Ddraig1 Cyngor Chwaraeon Cymru, cynhaliwyd gwyliau Criced Kwik ledled y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cyumru er mwyn cael hyd i’r tîm gorau o blith ysgolion cynradd pob sir. Ledled y rhanbarth, cofrestrodd 84 o ysgolion dimau cymysg o wyth o blant, gyda mwy na 1,000 o blant yn camu ar y llain ac yn rhoi cyfle ar y cod criced iau.

A nawr mae’r ieuenctid o’r chwech o ysgolion buddugol yn dyheu am hawlio eu gwobr, sef ymweliad â diwrnod agoriadol cyfres brawf gyntaf y Lludw npower yng Nghaerdydd ar 8 Gorffennaf. Byddant hefyd yn dod yn rhan o Griw Criced Trefol npower, sy’n golygu y byddant yn gwylio’r ornest o seddau cadw arbennig ac yn derbyn bagiau llawn nwyddau a chrysau-T.

A bydd un ysgol hyd yn oed yn cael ei dewis i gymryd rhan mewn ymarferion criced a gêm ar gae’r Lludw yn ystod yr egwyl.

Bu Swyddogion Campau’r Ddraig o bob cwr o’r rhanbarth yn helpu Swyddogion Datblygu Criced Gogledd Ddwyrain a Gogledd Orllewin Cymru gyda threfnu’r gwyliau Criced Kwik. Hefyd, fe wnaethant ffurfio cyswllt rhwng y clybiau a’r ysgolion lleol, fel bod y cricedwyr ieuainc addawol yn cael cyfle i ddal ati i chwarae criced ymhell wedi i gols coch y Lludw oeri.

Meddai Cadeiryddd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling: "Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud yn fawr o botensial cynnal Cyfres y Lludw ar garreg ein drws. Wrth adael argraff, yr her yw ysbrydoli pobl ieuainc nid dim ond i wylio ond hefyd i chwarae.

"Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n chwarae ei ran mewn annog ieuenctid i gymryd rhan yn y gamp o oed cynnar drwy gyfrwng ei raglen i ysgolion cynradd, Campau’r Ddraig. Mae 94% o ysgolion cynradd Cymru’n ymwneud â’r cynllun bellach a chynigir cyfleoedd pellach gan ryw 800 o glybiau y tu allan i ysgolion.

"Mae mwy na 148,000 o blant wedi ymwneud ac mae mwy na 2000 o oedolion – ar wahân i athrawon – yn helpu i weithredu clybiau Campau’r Ddraig."

Meddai Swyddog Datblygu Bwrdd Criced Cymru yn Eryri, Gerallt Jones: "Mae Criced Kwik wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda phlant Gogledd Cymru. Criced ar lefel gyffredin yw’r ffordd ymlaen a dyna pam ein bod yn ceisio gwthio i’r clybiau.

"Mae’n rhaid i ni gyflwyno criced i’r plant ac mae Campau’r Ddraig wedi bod o gymorth mawr gyda chyrraedd y nod yma."

Nod rhaglen Campau’r Ddraig y Cyngor Chwaraeon yw annog mwy o blant o ysgolion cynradd nag erioed o’r blaen i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae’n canolbwyntio ar wyth camp sy’n helpu i ddysgu sgiliau sylfaenol fel rhedeg, neidio a thaflu.

Yn ystod tymor yr haf 2008 yn unig, cymerodd bron i 6000 o blant ran yng nghriced Campau’r Ddraig ledled Cymru. Criced yw’r drydedd gamp allgyrsiol fwyaf poblogaidd yn y wlad ar ôl pêl droed a rygbi ar gyfer bechgyn 7-11 oed. I ferched yr un oedran, dyma’r 7fed camp mwyaf poblogaidd.

Y chwe ysgol o Ogledd Cymru a fydd yn teithio i Gyfres y Lludw gyntaf npower ddydd Mercher 8 Gorffennaf yw:

- Ysgol Pen Y Bryn, Bethesda (Gwynedd)

- Ysgol Llan Siôr, Llandudno (Conwy)

- Ysgol Rhoscolyn, Caergybi (Ynys Môn)

- Penyffordd, ger Caer (Sir y Fflint)

- Ysgol Stryd Rhos, Rhuthun (Sir Ddinbych)

- All Saints, Gresffordd (Wrecsam)