WOOSNAM YN CEFNOGI IEUENCTID Y DDRAIG

24 Mehef 2009

Wrth i Gasnewydd edrych ymlaen at groesawu Cwpan Ryder mewn ychydig dros 12 mis, mae un o enwogion y byd golff yng Nghymru, Ian Woosnam, wedi bod yn dangos ei gefnogaeth i’r genhedlaeth nesaf o olffwyr sy’n camu ar y cwrs.

Gyda phedwar o glybiau golff y ddinas wedi ymuno ag ymgyrch Campau’r Ddraig Cyngor Chwaraeon Cymru, mae cyn-gapten Cwpan Ryder yn gobeithio y bydd y rhaglen o gymorth i berffeithio sgiliau rhai o olffwyr llwyddiannus Cymru yn y dyfodol:

"Mae Campau’r Ddraig yn gyfle rhagorol i blant ddysgu chwarae golff mewn ffordd hwyliog, syml a diogel. Bydd yn galluogi’r rhai sy’n newydd i’r gamp gymryd rhan yn y gêm ffantastig hon wrth i ni edrych ymlaen at groesawu Cwpan Ryder y flwyddyn nesaf a chael ein hysbrydoli gan sêr golffio Cymru yn y dyfodol sy’n dod i fyny drwy’r rhengoedd."

Mae rhaglen Campau’r Ddraig, a gyllidir gan y loteri – ymgyrch fwyaf Cymru i gael plant ysgolion cynradd i fwynhau chwaraeon y tu allan i oriau ysgol – yn helpu i ddenu mwy o blant at chwaraeon a nawr mae’n weithredol yn 96% o’r holl ysgolion cynradd yn y wlad.

Yn ogystal â golff, mae Campau’r Ddraig hefyd yn cyflwyno ieuenctid i rygbi, athletau, criced, pêl droed, hoci, pêl rwyd a thenis.

Clybiau Golff Llanwern, Parc Tredegar a Chaerllion – ynghyd â’r safle fydd yn rhoi cartref i Gwpan Ryder 2010, sef y Celtic Manor – yw’r clybiau diweddaraf yng Nghymru i ymuno â Chyngor Chwaraeon Cymru a chynnig cyfle i blant 7 – 11 oed yng Nghasnewydd ddysgu sgiliau chwarae golff a defnyddio eu cyfleusterau safonol.

Mae mwy na 550 o ieuenctid yn yr ardal eisoes wedi cydio yn eu ffyn golffio ac wedi cymryd rhan yn y rhaglen ac mae Jo Pritchard o Gymru – sy’n teithio’r byd ar hyn o bryd ar Daith Ewropeaidd y Merched – yn chwarae ei rhan mewn annog mwy fyth i roi cynnig ar y gamp.

Meddai’r chwaraewraig golff broffesiynol, sy’n cynnal sesiynau Campau’r Ddraig yng Nghlwb Golff Caerllion:

"Mae Golff y Ddraig yn ffordd ffantastig o gyflwyno plant i’r gamp oherwydd gellir cynnal y sesiynau yn unrhyw le. Mae gallu mynd â sesiwn mor lliwgar, cyflym a hwyliog i mewn i ysgol yn ffordd lwyddiannus o ddangos i blant faint o hwyl allant ei gael wrth chwarae golff."

Mae’r clybiau’n trefnu sesiynau blasu am bump wythnos mewn ysgolion cynradd, lle mae hyfforddwyr a chwaraewyr golff proffesiynol lleol, fel Pritchard, yn dysgu’r sgiliau sylfaenol maent eu hangen i chwarae i’r plant.

Yna mae’r golffwyr ieuainc yn rhoi cynnig ar chwarae ar gwrs go iawn, yn y gobaith y byddant yn dal ati i berffeithio’r sgiliau maent eisoes wedi’u dysgu a chymryd gwersi rheolaidd yn y clwb.

Meddai Pritchard wedyn:

"Rydym yn cynnal rhaglen Campau’r Ddraig lwyddiannus iawn yn Caerllion ac mae hynny wedi cynnwys gweithio ochr yn ochr ag wyth ysgol gynradd wahanol yn yr ardal. Ym mhob ysgol rydym yn treulio awr yr wythnos gyda disgyblion am gyfnod o bump wythnos ac yn ystod y cyfnod hwn rydym yn dysgu’r holl agweddau amrywiol ar golff iddynt, mewn sesiynau hwyliog sy’n cynnwys gemau. Cymerodd 69 o blant ran yn ein gŵyl ddiweddaraf."

Mae mwy na 35 o ysgolion cynradd Casnewydd wedi cael sesiynau blasu mewn golff yn awr drwy gyfrwng y rhaglen gan Gyngor Chwaraeon Cymru, a weithredir ar lefel leol gan dîm datblygu chwaraeon Cyngor Dinas Casnewydd.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Wrth i Gwpan Ryder nesáu, rydym yn gobeithio y bydd bechgyn a merched o bob cwr o Gymru’n mwynhau’r cyfleoedd niferus i gamu ar y cwrs. Mae Campau’r Ddraig yn rhagori ar yr holl ddisgwyliadau ac rwy’n eithriadol falch bod cymaint o ysgolion a chlybiau’n darparu sesiynau chwaraeon hwyliog a diogel i blant ysgolion cynradd."