IEUENCTID TORFAEN YN CAMU AR Y LLAIN WRTH I GYFRES Y LLUDW NESÁU
23 Mehef 2009
Gyda Chyfres y Lludw ddim ond ychydig wythnosau i ffwrdd yn awr, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n buddsoddi yng nghricedwyr y dyfodol yn Nhorfaen gyda chyllid o £1000 gan y Gist Gymunedol i Glwb Criced Panteg.
Mewn ymgais i ehangu’r adran iau a chynnig cyfle i gricedwyr ieuainc ddatblygu drwy’r rhengoedd, mae Clwb Criced Panteg yn Nhreruffydd yn rhoi arian Cyngor Chwaraeon Cymru at ddarparu criced pêl feddal ar gyfer plant dan 9 oed.
Yn gweithredu cyfanswm o 12 o dimau ar hyn o bryd, o lefel D11 drwodd i garfannau Sadwrn a Sul hŷn, bydd y clwb yn cyfrannu’r arian at brynu offer newydd a hyfforddi hyfforddwyr newydd.
Mae’r Gist Gymunedol, sy’n dathlu ei ben blwydd yn 10 oed eleni, yn gynllun grantiau gan y Loteri Genedlaethol a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru, gyda chefnogaeth leol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Ei ddiben yw annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol yn amlach.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Torfaen. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i brosiectau cymunedol bychain ledled Cymru a nawr mae’n cynnwys pob math o grwpiau cymunedol, fel Sefydliad y Merched, nid dim ond eich clwb pêl droed lleol."
"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Torfaen i fod yn fwy egnïol yn amlach."
Wedi gwerth degawd o fuddsoddi’n dod i gyfanswm o fwy na £9 miliwn, mae Cyngor Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol yn dathlu llwyddiannau’r grwpiau a’r clybiau chwaraeon cymunedol sydd wedi ffynnu drwy ddefnyddio cyllid y Gist Gymunedol.
Ers ei sefydlu yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.
Cysylltwch â swyddfa ranbarthol Cyngor Chwaraeon Cymru i sefydlu eich prosiect:
De Ddwyrain Cymru: 0845 045 0904
De Orllewin Cymru: 0845 045 0906
Gogledd Cymru: 0845 045 0908