CYLLID YN DENU IEUENCTID CWMBRAN AR Y CAE

19 Mehef 2009

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n annog ieuenctid Torfaen i wynebu’r dirwasgiad yn fentrus drwy fuddsoddi mewn prosiect sydd nid yn unig yn eu denu ar y cae ond hefyd ar yr ystol swyddi.

Drwy gyfrwng £1000 gan gynllun Cist Gymunedol y Cyngor Chwaraeon, mae Canolfan Pobl Ieuainc Cwmbran yn sefydlu tîm pêl droed D18 a fydd yn cael ieuenctid Cwmbran i fynd amdani ar y cae tra’n datblygu’r sgiliau hanfodol maent eu hangen er mwyn cael swyddi pan fydd y chwiban yn canu.

Meddai David Schofield, Rheolwr Canolfan Pobl Ieuainc Cwmbran:

"Fe wnaeth y Gist Gymunedol ein galluogi i gynnal prosiect tebyg saith mlynedd yn ôl ac roedd yn llwyddiant mawr. Nid yn unig oedd y grant yn cadw 25 o fechgyn o Gwmbran yn chwarae pêl droed ac yn cadw’n heini ond hefyd roedd o gymorth iddynt feithrin cymhelliant, sgiliau a dyfalbarhad er mwyn cael hyd i swydd a’i chadw, a chadw allan o helynt. Bydd y grant newydd hwn yn cefnogi criw newydd o fechgyn ieuainc sydd mewn sefyllfa debyg."

Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn mynd tuag at hyfforddi tri o aelodau’r timau i fod yn hyfforddwyr cymwys, gyda’r bwriad o’u cael i ofalu am dîm yn y dyfodol.

Bydd offer hanfodol a hyfforddwr yn cael ei ddarparu gydag arian y Gist Gymunedol hefyd.

Meddai Schofield wedyn:

"Mae’r gweithgareddau hyn wedi golygu llawer iawn i’r ganolfan; nid yn unig mae’n gyfle i’r bechgyn gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon ond hefyd mae’n rhoi ffocws iddynt. Mae pobl ieuainc eraill yn dangos diddordeb ac yn eu gwylio’n chwarae ac mae’r bechgyn iau yn eu hedmygu ac yn anelu at chwarae i’r carfannau yn y dyfodol. Nid dim ond tîm pêl droed yw hwn. Mae’n ymwneud ag agwedd, hyfforddiant, ffitrwydd, cymhelliant a chymwysterau i bobl ieuainc na fyddent yn cael y cyfleoedd hyn fel rheol."

Mae’r Gist Gymunedol, sy’n dathlu ei ben blwydd yn 10 oed eleni, yn gynllun grantiau gan y Loteri Genedlaethol a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru, gyda chefnogaeth leol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Ei ddiben yw annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol yn amlach.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Torfaen. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i brosiectau cymunedol bychain ledled Cymru a nawr mae’n cynnwys pob math o grwpiau cymunedol, fel Sefydliad y Merched, nid dim ond eich clwb pêl droed lleol."

"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Torfaen i fod yn fwy egnïol yn amlach."

Wedi gwerth degawd o fuddsoddi’n dod i gyfanswm o fwy na £9 miliwn, mae Cyngor Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol yn dathlu llwyddiannau’r grwpiau a’r clybiau chwaraeon cymunedol sydd wedi ffynnu drwy ddefnyddio cyllid y Gist Gymunedol.

Ers ei sefydlu yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.

Cysylltwch â swyddfa ranbarthol Cyngor Chwaraeon Cymru i sefydlu eich prosiect:

De Ddwyrain Cymru: 0845 045 0904

De Orllewin Cymru: 0845 045 0906

Gogledd Cymru: 0845 045 0908