CYFFRO CRICED YN CYRRAEDD CAERDYDD

19 Mehef 2009

Gyda llai nag 20 diwrnod i fynd nes cynhelir Cyfres y Lludw, mae cyffro criced wedi cyrraedd Caerdydd gyda thri o glybiau criced y ddinas yn dathlu derbyn hwb ariannol gan Gyngor Chwaraeon Cymru.

Wedi gorfod rhannu rhwydi a chyfleusterau hyfforddi gyda Chlwb Criced Sirol Morgannwg hyd yma, mae Clwb Criced Caerdydd yn dathlu wedi sicrhau hwb ariannol o £43,000 gan y Cyngor Chwaraeon er mwyn darparu rhwydi ymarfer pedwar-bae newydd.

Gyda chwe thîm hŷn a phedwar tîm iau’n cystadlu, bydd y clwb yn sicr yn gwneud yn fawr o’r rhwydi newydd ac maent yn newid braf o orfod cario eu hunig rwyd ar olwynion i’r cae y tu allan.

Meddai Matt Phillips, Cadeirydd Clwb Criced Caerdydd, am yr effaith y mae’r cyfleuster newydd eisoes yn ei gael ar y clwb:

"Rydym ar ben ein digon gyda’r cyfleuster newydd ac mae eisoes wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i safon a lefel yr hyfforddi rydym yn gallu ei gynnal yn y clwb. Mae gennym bedair noson yr wythnos o ymarferion i’r plant ac rydym eisoes wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y rhai sy’n cymryd rhan ac yng nghynnydd y chwaraewyr ieuainc ers codi’r rhwydi."

Ac nid dim ond chwaraewyr Clwb Criced Caerdydd fydd yn elwa o’r cyfleuster newydd. Bydd hefyd yn cefnogi criced yng Nghaerdydd yn ehangach gydag ail dîm Clwb Criced Sirol Morgannwg, APPC a Phrifysgol Caerdydd yn ei ddefnyddio.

Hefyd mae Clybiau Criced Creigiau a Llysfaen yn elwa o fanteision cyllid y Cyngor Chwaraeon.

Ag yntau’n dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed, mae cynllun y Gist Gymunedol – sy’n cynnig hyd at £1000 o gyllid y Loteri Genedlaethol i sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru – wedi cyfrannu arian at ddatblygu criced ar lefel gyffredin ledled y brifddinas er mwyn sicrhau bod cnwd newydd o gricedwyr medrus yn dod i fyny drwy’r rhengoedd.

Fel un elfen allweddol o’r trefniadau yng Nghreigiau, bydd yr adran iau’n parhau i ehangu diolch i grant gwerth £750. Hyfforddi a chynyddu nifer yr hyfforddwyr cymwys yn y clwb fydd y flaenoriaeth gyntaf a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio hefyd i ddarparu offer penodol ar gyfer criced iau.

Meddai Dr Graham Taylor, Trysorydd Anrhydeddus Clwb Criced Creigiau,

"Mae grantiau’r Gist Gymunedol yn hynod bwysig er mwyn cynnal ein datblygiad. Mae’r grant eleni’n golygu ein bod yn dechrau’r tymor gyda chwota llawn o hyfforddwyr i ymdopi â nifer y cricedwyr sy’n chwarae yn y clwb, gan ein galluogi i fuddsoddi amser mewn datblygu’r ieuenctid i gyrraedd criced lefel hŷn."

Mae Clwb Criced Llysfaen hefyd yn canolbwyntio ar ei ieuenctid ac wedi derbyn £1000 er mwyn sefydlu tîm newydd D11 ac i gynnal sesiynau hyfforddi i ferched yn unig am gyfnod o naw wythnos.

Bydd arian y Gist Gymunedol yn mynd tuag at offer – fel batiau, peli a helmedau – yn ogystal â hyfforddiant ar gyfer pedwar hyfforddwr i ymdopi â’r galw o’r adran iau.

Mae’r clwb, sy’n 32 mlwydd oed, yn chwarae ar Gae Criced Llwynarthen ac eisoes mae ganddo saith hyfforddwr yn gofalu am dimau D10, D11, D13 a D15 ac yma mae’r adran ieuenctid fwyaf, sy’n tyfu gyflymaf, yng Nghaerdydd.

Meddai Ian Morgan, y Cydlynydd Ieuenctid yn y clwb,

"Rydym yn dal i geisio darparu cymaint o griced cystadleuol ag y gallwn i gefnogi’r galw ledled yr ardal i’r dwyrain o Gaerdydd. Fel yr unig glwb yn y rhan hon o’r ddinas, mae gennym gyfrifoldeb mawr i gynnal cymaint o garfannau â sy’n ymarferol. Mae grant y Gist Gymunedol yn ein galluogi i adfer ein hadnoddau hyfforddi a ffurfio carfannau newydd."

I sefydlu eich prosiect, cysylltwch â swyddfa ranbarthol Cyngor Chwaraeon Cymru:

De Ddwyrain Cymru: 0845 045 0904

De Orllewin Cymru: 0845 045 0906

Gogledd Cymru: 0845 045 0908

Neu ewch i www.cyngor-chwaraeon-cymru.org.uk