CYLLID YN RHOI BYWYD NEWYDD I GLWB TANDDWR YN SIR Y FFLINT

3 Mehef 2009

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi rhoi bywyd newydd i Glwb Tanddwr yn Sir y Fflint, gan gyfrannu cyllid allweddol tuag at offer newydd.

Mae’r clwb deifio wedi cipio £1,000 gan gynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru i brynu offer i ferched. Mae’n cynnwys dau Ddyfais Rheoli Arnofiedd – sy’n helpu’r deifwyr i aros ar ddyfnder cyson ac i blymio neu godi mewn ffordd a reolir – a rheolyddion anadlu, sy’n rheoli’r cyflenwad hollbwysig o ocsigen.

Mae’r sesiynau ymarfer wythnosol a gynhelir yn y pwll yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon yn denu mwy na 40 o ddeifwyr brwd o brofiad amrywiol yn rheolaidd. Yn ddiweddar, mae’r hyfforddwyr wedi sylwi bod mwy a mwy o ferched yn dod draw i fentro i’r dŵr ac felly maent wedi penderfynu prynu offer newydd ar eu cyfer, wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer cyrff llai.

Meddai Trysorydd y Clwb, Geoff Kay: "Mae cyllid y Gist Gymunedol yn eithriadol bwysig i glwb bychan fel ein clwb ni oherwydd dydym ni ddim yn cynhyrchu refeniw i’w wario’n rhwydd. Mae’r cit yn costio llawer o arian ac yn mynd â’n harian i gyd pan fyddwn yn ei brynu.

"Ar ddechrau’r flwyddyn ariannol, roeddem yn proffwydo blwyddyn wael ond fe wnaethom gynnal rhai sesiynau ‘rhoi cynnig ar ddeifio’ ble gallai pobl ddod draw a threulio awr yn y pwll yn rhoi cynnig ar y gweithgaredd. Yn sgil hynny, mae gennym chwech o ferched yn dod i’r ymarferion yn awr ac mae dwy arall yn dechrau y mis nesaf.

"Dydym ni erioed wedi derbyn cymaint o ferched yn aelodau gyda’i gilydd o’r blaen a does gen i ddim syniad pam fod y gweithgaredd wedi profi mor boblogaidd!"

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Sir y Fflint. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae wedi gwneud byd o wahaniaeth i brosiectau cymunedol bychain ledled Cymru a nawr mae’n croesawu pob math o grwpiau cymunedol, fel Sefydliad y Merched, nid dim ond eich clwb pêl droed lleol."

"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Sir y Fflint i fod yn fwy egnïol yn amlach."

Mae’r Gist Gymunedol, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed eleni, yn gynllun grantiau gan y Loteri Genedlaethol a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru ac a gefnogir yn lleol gan Gyngor Sir y Fflint. Y diben yw annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol yn amlach.

Wedi gwerth degawd o fuddsoddi’n dod i gyfanswm o fwy na £9 miliwn, mae Cyngor Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol yn dathlu llwyddiannau’r grwpiau cymunedol a’r clybiau chwaraeon sydd wedi ffynnu drwy ddefnyddio cyllid y Gist Gymunedol.

Ers ei sefydlu yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Gall sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.

Mae Clwb Tanddwr Sir y Fflint yn ymarfer bob nos Fercher gyda gwersi yn yr ystafell ddosbarth rhwng 7pm ac 8pm a deifio mewn pwll dŵr cysgodol rhwng 8.30pm a 9.30pm. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Chanolfan Hamdden Treffynnon ar 01352 712027.