CYLLID YN NEWYDD DA I GLWB HOCI MEWNLINELL

21 Mai 2009

Mae clwb hoci mewnlinell yn Sir Ddinbych wedi cael hyd i’r darn olaf ar gyfer jig-sô ei dîm – golgeidwad – wedi i Gyngor Chwaraeon Cymru neidio i’w amddiffyn gyda chyllid gan y Gist Gymunedol.

Mae Clwb Hoci Mewnlinell Cysgodion Llanelwy – y St Asaph Shadows fel maent yn cael eu galw’n lleol - newydd gipio ychydig dros £900 gan gynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru ar gyfer prynu’r casgliad eang o offer gwarchodol sydd ei angen ar gyfer golgeidwad.

Deeside 16's (2)Mae wynebu pyc cyflym yn waith peryglus, felly does dim rhyfedd bod y clwb yn ddiolchgar i’r Cyngor Chwaraeon am ei gymorth i brynu gwarchodwyr gwddw, brest a chrimog yn ogystal â menig, ffon a helmed golgeidwad arbenigol, a siorts gwarchodol.

Meddai Cadeirydd y Clwb, Shaun Underwood: "Roeddem wir angen cit golgeidwad llawn ar gyfer un o’r ieuenctid sydd wedi gwirfoddoli i chwarae’r rôl. Wrth gwrs, hebddynt, ni all y tîm gystadlu! Mae cost y cit yn creu rhwystr yn aml a gall rhieni gilio rhag gorfod talu’r gost.

"Rydym yn bwriadu canolbwyntio llawer o’n hymdrechion ar y grŵp oedran newydd, iau, sydd wedi ffurfio’r tymor yma. Rydym eisiau rhoi iddynt yr hyfforddiant sydd ei angen i’w sefydlu eu hunain fel tîm cystadleuol oherwydd rydym wedi gweld bod chwaraewyr yn datblygu’n well o ddechrau o oedran iau."

Bachgen ifanc lleol, Jonah Armstrong, yw’r gwirfoddolwr dewr a fydd yn sefyll yn y gôl ar gyfer y garfan Dan 10, gan ddilyn yn ôl troed ei frawd mawr, Ethan, sy’n chwarae i’r tîm Dan 12. Mae Ethan wedi cael ei ddewis i chwarae dros Brydain Fawr mewn twrnament yn Hong Kong yn ddiweddarach eleni. Y llynedd, bu mab y Cadeirydd, Andrew Underwood, yn chwarae yn yr un twrnament wedi iddo gael ei weld yn chwarae gan sgowt talent y Gogledd Orllewin.

Cynllun grantiau gan y Loteri Genedlaethol a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru yw’r Gist Gymunedol, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed eleni. Fe’i cefnogir yn lleol hefyd gan Gyngor Sir Ddinbych. Ei ddiben yw annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol yn amlach.

Deeside 16's (3)Wedi degawd o fuddsoddi’n dod i gyfanswm o fwy na £9 miliwn, mae Cyngor Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol yn dathlu llwyddiannau grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon sydd wedi ffynnu drwy ddefnyddio cyllid y Gist Gymunedol.

Ers sefydlu’r Gist Gymunedol yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Gall sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Sir Ddinbych. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i brosiectau cymunedol bychain ar hyd a lled Cymru a nawr mae’n cynnwys pob math o grwpiau cymunedol, fel Sefydliad y Merched, nid dim ond eich clwb pêl droed lleol."

"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Sir Ddinbych i fod yn fwy egnïol yn amlach."

Mae’r Cysgodion yn ymarfer bob dydd Mercher rhwng 7 a 9pm yng Nghanolfan Hamdden Llanelwy. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â Shaun Underwood ar 07771 604464.