MAX BOYCE “WRTH EI FODD” GYDA’R GRANT SYDD WEDI’I DDYFARNU I’R FFATRI HANERWYR

20 Mai 2009

Mae Max Boyce wrth ei fodd yn dilyn y newyddion bod ei glwb rygbi hoff, Clwb Rygbi Glyn-nedd, wedi derbyn cyllid gan Gyngor Chwaraeon Cymru.

Mae’r diddanwr poblogaidd ar ben ei ddigon wedi clywed y newyddion bod ei glwb – y mae’n llywydd arno – a’i dref enedigol yn mynd i elwa o grant o bron i £15,000 gan y loteri.

Mae’r clwb ar fin dechrau yn awr ar y gwaith o wella’r cae ymarfer drwy gyflwyno llifoleuadau a system ddraenio well. Rugby

Meddai Boyce – sydd wedi byw yng Nglyn-nedd erioed, ychydig lathenni o’r clwb rygbi a dweud y gwir, "Rydym wrth ein boddau gyda’r grant hwn gan y Cyngor Chwaraeon. Roedd yn gwbl hanfodol bod y clwb yn gwella ei safle ymarfer oherwydd trwy wneud hyn, bydd yn gwella’r amodau a’r adeiladau ar gyfer timau iau a hŷn y clwb."

Ar hyn o bryd mae gan y clwb saith o dimau plant, tîm ieuenctid a dwy garfan hŷn. Gyda’r buddsoddiad ychwanegol, y nod yn awr yw sefydlu tîm newydd dan 16 oed a thim hŷn i ferched, a hefyd cynyddu nifer yr hyfforddwyr.

Mae unrhyw sefydliad sydd eisiau cael mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn amlach yn gymwys i wneud cais am gyllid gan CChC.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Gyda chyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Loteri Genedlaethol, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n helpu i drawsnewid y tirlun chwaraeon yng Nghymru. Mae’r buddsoddiad sylweddol mewn chwaraeon cymunedol, cyfleusterau, offer a hyfforddwyr wedi cael effaith ar gymunedau ar hyd a lled y wlad."