CANOLFAN FARCHOGAETH ARBENNIG YN DATBLYGU AR GARLAM

6 Mai 2009

Mae elusen yn Wrecsam yn helpu plant gydag anghenion arbennig i ddringo i’r cyfrwy a mwynhau marchogaeth, gydag ychydig o gymorth gan reidiwr dressage Paralympaidd lleol a chyllid gan Gyngor Chwaraeon Cymru.

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi cefnogi Canolfan Farchogaeth Arbennig Clwyd (CSRC) gyda grant gwerth £3,250 gan Sportsmatch Cymru, sydd wedi galluogi i’r ganolfan yn Llanfynydd, hyfforddi naw hyfforddwr ychwanegol a chyflwyno sesiynau mentora a hyfforddi ar gyfer gwirfoddolwyr.

Meddai Rheolwr CSRC, Tess Chew: "Diolch i’r Gyngor Chwaraeon Cymru a’r bres Sportsmatch Cymru rydym wedi cynyddu nifer yr hyfforddwyr a’r reidwyr ar lefel gyffredin, sef ble rydym gryfaf.

"Rydym yn parhau i fod yn llwyddiannus oherwydd mae gennym adnoddau da, amrywiaeth o hyfforddwyr a cheffylau i ddiwallu’r holl anghenion a llawer iawn o fodelau rôl positif."

Natalie Povey at Clwyd Special Riding Centre 2Un ffigwr ysbrydoledig yw’r reidiwr dressage Paralympaidd, Natalie Povey, 20, o Wrecsam, sy’n mentora ieuenctid yn y ganolfan farchogaeth ac yn cystadlu ar un o’r ceffylau - Westpoint First Lady neu Fizz.

Meddai Povey: "Rwy’n hoffi cefnogi’r reidwyr iau yn y ganolfan a’u gwylio nhw’n marchogaeth. Maen nhw’n fy ngwylio i weithiau, er mwyn dysgu ychydig o driciau."

Meddai Ms Chew wedyn, "Mae Natalie wedi bod yn gefnogol iawn gyda’r athletwyr ieuainc ac mae’n fodel rôl rhagorol."

Wedi’i geni gyda chyflwr spina bifida, mae Povey wedi bod yn marchogaeth ers chwe blynedd, gan gystadlu mewn dressage para-farchogol yn ystod y pedair blynedd diwethaf fel reidiwr gradd 1b, sy’n golygu ei bod yn ofynnol iddi gerdded a throtian.

Mae’r athletwraig, sy’n derbyn cefnogaeth gan Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru (FfChAC), yn aelod o Raglen Datblygu Safon Byd 2009/2010* ar gyfer Dressage Para-Farchogaeth, gan anelu at gystadlu yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012. Mae hefyd wedi cynrychioli Prydain Fawr mewn pedair gornest ryngwladol mewn para-dressage yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Diben Sportsmatch Cymru yw annog mwy o gefnogaeth gan fusnesau ar gyfer chwaraeon ar lefel gyffredin, drwy gyfateb nawdd newydd neu ychwanegol.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Gyda chyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Loteri Genedlaethol, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n helpu i drawsnewid y tirlun chwaraeon yng Nghymru. Mae’r buddsoddi sylweddol mewn chwaraeon cymunedol, cyfleusterau, offer a hyfforddwyr wedi cael effaith ar gymunedau ledled y wlad ac mae’n helpu i gynyddu’r cyfraddau cymryd rhan yn gyffredinol.

"Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau cyffrous a fydd yn ein helpu i ddal ati gyda’n nod o gael mwy o bobl yng Nghymru’n fwy egnïol yn amlach."

Am wybodaeth bellach am Ganolfan Farchogaeth Arbennig Clwyd, cysylltwch â 01352 770446 neu info@clwydspecialridingcentre.org.uk.