SEREN NOFIO’N CYFFROI PLANT LLEOL
5 Mai 2009
Mae mwy na chant o blant o glybiau nofio ledled Caerdydd wedi treulio diwrnod yn dysgu sut i ragori yn y pwll gan seren y byd nofio, David Davies.
Arweiniodd y pencampwr Olympaidd wersyll nofio yng Nghanolfan Hamdden Western ddydd Sadwrn a dysgwyd y plant am bwysigrwydd maeth ac ymarfer er mwyn osgoi anaf.
Hefyd, cafodd cynulleidfa David gyfle i glywed am y medalau y mae wedi’u hennill ac i holi cwestiynau iddo, cyn ymuno â’u harwr yn y pwll nofio wedyn, i’w weld ar waith.
Cynhaliwyd y diwrnod datblygu ar y cyd â Menter Nofio Am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru a dyna sut y dysgodd llawer o’r plant a oedd yn bresennol i nofio, drwy gyfrwng y cynllun hwn, a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru. 
Fel aelodau o glybiau nofio Gweithgareddau Dŵr Egnïol Cyngor Caerdydd, anogir y plant i ddal ati i wneud cynnydd a’r nod yn y pen draw yw cael eu dethol ar gyfer clwb nofio Dinas Caerdydd.
Meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones: "Mae nofio’n ffordd wych o gael hwyl, cymdeithasu a bod yn egnïol. A chan ei fod am ddim, mae’n dda i rieni; mae’n golygu y gall plant a phobl ieuainc nofio’n rheolaidd drwy gydol yr haf. Ers ei sefydlu, mae Menter Nofio Am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn eithriadol boblogaidd ac edrychaf ymlaen yn y dyfodol at gael gwared ar fwy o rwystrau er mwyn creu Cymru iachach, fwy heini."
Hon yw’r chweched blwyddyn i bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru weithredu’r fenter ac mae’r ffigyrau’n dangos bod mwy a mwy o bobl ieuainc, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn mynd i’w canolfan hamdden leol i fwynhau hobi sydd nid yn unig yn eu hannog i fod yn heini ac yn iach ond sydd hefyd yn gallu achub eu bywydau.
Menter gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw’r Fenter Nofio Am Ddim, ar gyfer pobl hŷn sy’n 60 oed a throsodd a phlant a phobl ieuainc 16 oed ac iau.
Am wybodaeth bellach, ewch i www.free-swimming-wales.org.uk neu cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol.