CYNGHRAIR FUTSAL GYNTAF CYMRU’N DOD I FERTHYR

5 Mai 2009

Mae pêl droedwyr yn Ne Cymru’n chwarae’r gêm yn null Brasil wrth i Ferthyr Tudful gynnig cartref i gynghrair Futsal gyntaf erioed Cymru.

Mae disgwyl i’r gamp o Frasil, sy’n gyfrifol am berffeithio sgiliau Peles a Ronaldinhos y byd pêl droed, brofi twf ffenomenal ac mae wedi cael ei mewnforio i Gymru drwy gyfrwng partneriaeth rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru, Ymddiriedolaeth Bêl Droed Cymru a CPD Merthyr Tudful.

Fel rhan o agenda ehangach i ddatblygu pêl droed ledled Merthyr Tudful, mae £7,000 o Gronfa Sialens Adfywio Cyngor Chwaraeon Cymru wedi cael ei gyfrannu at greu mwy o gyfleoedd i gymunedau yn yr ardal ymarfer eu gwaith troed arbennig.

Mae’r rhaglen, sy’n buddsoddi cyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn datblygu chwaraeon a hamdden gorfforol a chefnogi adfywiad cymunedol yn y cymunedau mwyaf difreintiedig o ran hamdden ac yn gymdeithasol ac economaidd yng Nghymru, wedi arwain at fwy na 300 o chwaraewyr yn cymryd rhan mewn pêl droed cynghrair feteran a gweithle ac mae cynghrair Futsal wedi cael ei sefydlu.

Yn cael ei chwarae gyda pheli maint hoci a phêl lai gyda llai o fowns, mae Futsal yn rhoi pwyslais ar greadigrwydd a thechneg gan wella’r rheolaeth ar y bêl ac ar basio mewn gofod bychan.

Mae cynghrair broffesiynol wedi’i sefydlu eisoes ym Mhortiwgal, Yr Eidal, Yr Ariannin a Sbaen ac mae’n fwriad gan CBDC greu tîm cenedlaethol yng Nghymru erbyn 2011. Meddai David Gough, Swyddog Datblygu gydag Ymddiriedolaeth Bêl Droed Cymru, am ddyfodiad y gamp i’r wlad hon:

"Ym Merthyr Tudful, mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl Droed De Cymru, rydym yn cyflwyno cynghrair Futsal strwythuredig gyntaf erioed Cymru ar ran Cymdeithas Bêl Droed Cymru. Chwaraeir y gêm ei hun dan do ar gwrt wedi’i farcio’n benodol, gyda llinellau ochr a phêl droed gyda 30% yn llai o fowns, fel bod y gêm yn un gyflymach ac yn fwy cyffrous i’r gwyliwr ac i’r chwaraewr."

Gyda phedwar o dimau a 40 o chwaraewyr eisoes yn cymryd rhan, a bwriad i ddyblu’r ffigyrau hyn erbyn diwedd y flwyddyn, mae Futsal eisoes yn profi’n llwyddiant mawr ac yn annog pobl o bob diwylliant a gallu i gamu ar y cae.

Ac nid dim ond y rhai brwd ynghylch y gêm 11 bob ochr draddodiadol sy’n rhoi cynnig ar y gamp chwaith, fel yr eglura Gough:

"Rydym eisoes yn gweld bod gan y fersiwn hon o’r gêm allu unigryw i ennyn diddordeb o bob adran o’r gymuned. Gyda thimau o gymunedau Portiwgeaidd a Bwlgariaidd eisoes yn chwarae, rydym yn gweld bod y gamp yn goresgyn rhai o’r rhwystrau cymdeithasol a diwylliannol sy’n atal cyfranogiad gan adrannau penodol o’r gymuned.

"Mae Futsal yma yng Nghymru, mae ar gyfer pawb ac rydym eisiau gweld pawb yn cymryd rhan. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, bydd Futsal yn cydweithio â’r gêm 11 bob ochr awyr agored draddodiadol ledled Cymru er mwyn cynyddu cyfranogiad mewn pêl droed a chynnwys pobl mewn gweithgarwch corfforol rheolaidd."

Meddai Philip Carling, Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru:

"Mae chwaraeon yn wych am wneud i’ch calon bwmpio ond hefyd gall ddod â chymunedau at ei gilydd. Dim ond un cyfrwng yw’r prosiect hwn i Gyngor Chwaraeon Cymru helpu pobl ledled Cymru i fod yn egnïol. Mae’n galonogol iawn gweld chwaraeon amgen fel futsal yn cael eu cynnig ac fe hoffwn annog pobl Merthyr i gamu ar y cae a rhoi cynnig ar y gamp."

Meddai Neil Ward, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Bêl Droed Cymru: "Cymeradwyir Futsal gan FIFA ac UEFA fel y ffurf a gydnabyddir yn rhyngwladol ar y gêm i dimau bychain. Mae’n llwybr ychwanegol i chwaraewyr ei ddilyn ac unwaith y bydd wedi’i sefydlu yng Nghymru, bydd yn arwain at gystadlu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

"Hefyd bydd Futsal yn arf allweddol er mwyn datblygu cyfranogiad ymhlith y rhai nad ydynt yn chwarae mewn strwythurau pêl droed presennol, yn arbennig ymhlith y grwpiau targed allweddol, fel merched a genethod a chymunedau DLlE."

Yng Nghanolfan Hamdden newydd Merthyr Tudful mae’r gynghrair yn cael ei gweithredu, ble ceir cwrt Futsal dan do, a bydd y safle’n cynnal y gemau rhyngwladol ar gyfer Tîm Futsal cyntaf Cymru yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Am wybodaeth bellach am sut i gymryd rhan, cysylltwch â David Gough ar 01685 725136.