Y GANOLFAN DDŴR GWYN GENEDLAETHOL AR FRIG Y DON YN ÔL Y GWEINIDOG TREFTADAETH

1 Mai 2009

Ymwelodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, â Chanolfan Tryweryn, y Ganolfan Ddŵr Gwyn Genedlaethol ar Dydd Sadwrn 25 Ebrill i ddathlu cyfraniad y ganolfan at gynhyrchu pencampwyr canŵio o’r safon uchaf yng Ngogledd Cymru.

Dadorchuddiodd y Gweinidog blac yn dynodi rôl y Ganolfan oddi mewn i rwydwaith Athrofa Chwaraeon Ranbarthol Gogledd Cymru (AChRGC) Cyngor Chwaraeon Cymru, sy’n helpu athletwyr talentog y rhanbarth i gyflawni eu potensial ar y llwyfan rhyngwladol.

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n dod ag arbenigwyr chwaraeon gorau’r rhanbarth at ei gilydd i gyfrannu eu harbenigedd a’u gwybodaeth at strwythur cefnogi o safon uchaf yr Athrofa Chwaraeon. Mae’r athletwyr wedyn yn derbyn gwasanaethau hanfodol fel ffisiotherapi, seicoleg chwaraeon, maeth chwaraeon a chryfder a siapio.

Meddai’r Gweinidog, "Mae’r Ganolfan Ddŵr Gwyn Genedlaethol yn Nhryweryn yn esiampl ragorol o ragoriaeth mewn chwaraeon sydd o fudd i gystadleuwyr elitaidd o bob cwr o Ogledd Cymru a gweddill Cymru.

"Gall Canŵio Cymru a staff y ganolfan fod yn falch iawn o dderbyn y gydnabyddiaeth hon gan Gyngor Chwaraeon Cymru a hir y parhaed eu gwaith yn chwifio’r faner dros lwyddiant yn y byd chwaraeon yng Ngogledd Cymru."

Rhys Davies of Bala CC negotiates the slalom race at the National Whitewater CentreI gyd-fynd â seremoni dadorchuddio’r plac, cynhaliodd Canolfan Tryweryn – a reolir gan Ganŵio Cymru – ddiwrnod o Rasio Slalom yr Uwch-Gynghrair, gyda wynebau fel David Florence, a enillodd fedal arian yng Ngemau Olympaidd Beijing yr haf diwethaf.

Bu rhwyfwyr addawol Cymru’n cystadlu’n erbyn cystadleuwyr elitaidd y DG, gan wthio am gael eu dewis i dîm iau Prydain Fawr. Un wyneb arbennig yn yr achlysur oedd Rhys Davies o’r Bala, a enillodd yr aur fis Ionawr eleni yng Ngŵyl Olympaidd yr Ieuenctid yn Awstralia. Dywedodd y Gweinidog bod Davies yn gynnyrch llwyddiant Canŵio Cymru:

"Mae canlyniadau’r talentau sy’n cael eu meithrin gartref, fel Rhys, yn brawf amlwg o bwysigrwydd y ganolfan i feithrin talent Cymru, gan eu bod yn gallu gwneud defnydd o amodau dŵr gwyn o safon byd a gwybodaeth a chyfarwyddyd arbenigol," meddai.

Ymhelaethodd Prif Weithredwr Canŵio Cymru, Richard Harvey, ar y strwythur cefnogi sy’n elfen mor bwysig yn eu llwyddiant.

Meddai, "Mae rhwyfwyr gorau Cymru’n derbyn cefnogaeth hyfforddi dan raglen Coach Cymru Cyngor Chwaraeon Cymru. Mae’r Ganolfan Ddŵr Gwyn Genedlaethol yn gweithredu fel canolfan ar gyfer y gwersylloedd hyfforddi, y sesiynau i baratoi ar gyfer rasys ac i brofi’r rhwyfwyr medrus hyn yn gorfforol. Mae’r rhwyfwyr a hyfforddir dan y cynllun hwn yn derbyn nid yn unig hyfforddiant ond hefyd cefnogaeth gyda chryfder a siapio, ffordd o fyw a seicoleg chwaraeon.

"Y ganolfan yw un o’r ychydig leoedd yng Nghymru sy’n cynnig mynediad drwy gydol y flwyddyn i ddŵr o safon ryngwladol. Mae’r ffaith hon, ynghyd â sylfaen hyfforddi a strwythur clwb da yn y rhanbarth, yn galluogi i rwyfwyr lleol, fel Rhys Davies, ddatblygu i fod yn rhai y dylid cadw llygad amdanynt yn y dyfodol."