WOOSNAM YN EDRYCH YMLAEN AT DDIGWYDDIAD Y CHWARAEWYR HŶN YNG NGHYMRU
1 Mai 2009
Mae Ian Woosnam, arwr golff Cymru, yn bwriadu dychwelyd i’w famwlad fis Mehefin ar gyfer ei unig dwrnamaint golff cystadleuol ar dir cartref, sef Cystadleuaeth Agored Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru. Cwrs twyni rhagorol Clwb Golff Brenhinol Porthcawl fydd yn croesawu’r digwyddiad, am y tro cyntaf, rhwng 19eg a 21ain Mehefin.
Chwaraeodd Woosie ar Daith Chwaraewyr Hŷn Ewrop am y tro cyntaf y llynedd, ynghyd â Sandy Lyle, ac mae’n edrych ymlaen at y digwyddiad a fydd, yn ôl pob golwg, yn un o’r uchafbwyntiau ar galendr golff 2009 yn union fel y llynedd, pan groesawyd y gystadleuaeth i Gonwy, sef cwrs twyni heriol arall.
"Mae’r holl gynhwysion yma i greu digwyddiad rhagorol," meddai Woosnam. "Mae bob amser yn bleser chwarae yn erbyn y bois hyn, a pha le gwell na Chlwb Brenhinol Porthcawl?
"Mae’n wirioneddol haeddu ei enw da fel un o’r cyrsiau twyni gorau yn y byd. Mae’n bosibl ei fod yn unigryw oherwydd bod y môr i’w weld yn glir o bob twll, a phan mae’r gwynt yn codi, mae’n her go iawn.
"Yn ogystal â bod yn gwrs gwych i chwarae arno, mae’r golygfeydd yn ei wneud yn lleoliad anhygoel i wylwyr hefyd, felly byddwn i’n annog pawb i achub y cyfle i wylio golff proffesiynol ar y cwrs twyni hwn o’r radd flaenaf."
Mae Clwb Brenhinol Porthcawl wedi croesawu digwyddiad arall ‘Haf Llawn Golff’ Cwpan Ryder Cymru, sef Pencampwriaeth Merched Ewrop Cymru rhwng 2001 a 2004, a hynny’n llwyddiannus iawn. Hefyd, fe groesawodd y Clwb gystadleuaeth Cwpan Walker 1995 gyda Tiger Woods yn chwarae dros UDA a Padraig Harrington yn chwarae dros Brydain Fawr ac Iwerddon pan gafwyd buddugoliaeth enwog i dîm y Gwyddel.
Meddai John Jermine, Cadeirydd Cwpan Ryder Cymru 2010 Cyf: "Rydyn ni’n hynod falch ein bod wedi gallu denu chwaraewyr mor uchel eu bri i Gymru, ac rydyn ni’n siŵr y caiff y chwaraewyr a’r gynulleidfa i gyd wythnos i’w mwynhau ac i’w chofio. Rydyn ni’n gobeithio gweld tyrfaoedd mwy nag erioed, gan gychwyn gyda’r Pro-Am ar y dydd Mercher a gorffen gyda’r uchafbwynt ddydd Sul pan, yn ddiamau, fe welwn ni enillydd teilwng ar y cwrs gwirioneddol ragorol hwn."
Cystadleuaeth Agored Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru yw un o'r twrnameintiau mwyaf mawreddog ar Daith Chwaraewyr Hŷn Ewrop. Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae wedi denu rhai o bencampwyr mawr byd golff. Nid yw 2009 yn wahanol, gyda rhestr drawiadol o chwaraewyr. Disgwylir y bydd yn cynnwys Gordon J Brand, Tony Johnstone, Carl Mason, sêr Cwpan Ryder Costantino Rocca a Mark James a’r pencampwr sy’n amddiffyn ei deitl, Peter Mitchell.
Sandy Lyle, Capten Cynorthwyol Woosie ym mhencampwriaeth Cwpan Ryder 2006, oedd yn arwain wedi’r rownd gyntaf yng Nghonwy y llynedd, gyda sgôr o 69, ond Mitchell o Loegr a ddaeth i’r brig yn hytrach na Woosnam, gan orffen dwy ergyd ar y blaen. Byddai buddugoliaeth gartref i’r Cymro wedi bod yn boblogaidd dros ben, ond trechodd Mitchell ef i ennill siec fwyaf ei yrfa a’i deitl cyntaf ar Daith Chwaraewyr Hŷn Ewrop.
Roedd sgôr o 71 ar gerdyn Mitchell am y rownd olaf, sef un dan par. Roedd yn chwarae yn ei ail ddigwyddiad yn unig ar Daith Chwaraewyr Hŷn Ewrop, wedi ei ymddangosiad cyntaf ar y Daith yn Jersey yr wythnos flaenorol. Ei gyfanswm felly oedd 213, sef tri dan par, dwy ergyd ar y blaen i Woosnam. Mewn heulwen fendigedig, cafodd Mitchell par ar y ddau dwll olaf a chadarnhau buddugoliaeth.
"Roedd gornest y llynedd yn agos iawn," cofiai Woosnam. "Ond rydw i’n awyddus i fynd un cam ymhellach eleni ac ennill y teitl."
 chronfa gwobrau ariannol o £500,000 a gwobr gyntaf o £75,000, Cystadleuaeth Agored Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru yw’r digwyddiad mwyaf proffidiol ond un ar Daith Chwaraewyr Hŷn Ewrop.
Meddai Andy Stubbs, Rheolwr Gyfarwyddwr Taith Chwaraewyr Hŷn Ewrop: "Yn dilyn ail safle Ian yng Nghonwy yn 2008, a’i helpodd i ennill Tlws John Jacobs fel chwaraewr mwyaf blaengar Taith y Chwaraewyr Hŷn, rwy’n siŵr y bydd yn awyddus i ychwanegu teitl Cystadleuaeth Agored Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru at ei ddwy fuddugoliaeth y llynedd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at dwrnamaint gwych arall yng Nghlwb Brenhinol Porthcawl fis Mehefin."
I gael mwy o wybodaeth am Gystadleuaeth Agored Chwaraewyr Hŷn Cwpan Ryder Cymru, ewch i www.rydercupwales2010.com neu ffoniwch 029 2092 3951.