GYMNASTWYR YN LLAMU AT LWYDDIANT WRTH I’R GIST GYMUNEDOL DDATHLU DEGAWD O GYLLIDO
28 Ebr 2009
Mae clwb gymnasteg ym Mro Morgannwg wedi cael hyd i fformiwla llwyddiannus, diolch i gyllid parhaus y Gist Gymunedol gan Gyngor Chwaraeon Cymru, sy’n sicrhau bod ei gymnastwyr yn llamu at lwyddiant.
Cynllun grantiau gan y Loteri Genedlaethol yw’r Gist Gymunedol, sy’n dathlu ei 10fed pen-blwydd eleni. Mae’n cael ei reoli gan Gyngor Chwaraeon Cymru a’i gefnogi yn lleol gan Gyngor Bro Morgannwg. Y diben yw annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol yn amlach.
Wedi gwerth degawd o fuddsoddi, yn dod i gyfanswm o fwy na £9 miliwn, mae Cyngor Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol yn dathlu llwyddiannau’r grwpiau cymunedol a’r clybiau chwaraeon sydd wedi ffynnu yn sgil derbyn cyllid gan y Gist Gymunedol.
Mae Clwb Gymnasteg YMCA Y Barri yn un enghraifft o’r fath, wedi derbyn pedwar grant gan y Gist Gymunedol ers ei ddyfarniad cyntaf erioed o £750 gan y cynllun ym mis Mai 2005.
Mae’r clwb, a enwyd yn Glwb Gymnasteg y Flwyddyn Cymru yn 2006, wedi defnyddio’r arian gan y Loteri Genedlaethol er mwyn sefydlu llwybr datblygu o lefel cyn-ysgol drwodd i berfformiad uchel ar gyfer disgyblaethau gymnasteg y bechgyn, y genethod a rhythmig, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i gymnastwyr ieuainc addawol gymryd rhan.
Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, mae’r clwb wedi buddsoddi bron i £3,500 gan y Gist Gymunedol mewn sicrhau bod ei 650 o aelodau rheolaidd yn cael cyfle i ffynnu dan oruchwyliaeth hyfforddwyr hynod gymwys a gyda’r offer a’r cyfleusterau gorau posibl.
Meddai Anthea Clements, PSG Clwb Gymnasteg YMCA Y Barri:
"Mae cynllun y Gist Gymunedol wedi profi’n allweddol yn natblygiad a llwyddiant y clwb a’i gymnastwyr dros y blynyddoedd. Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn cyllid ar sawl achlysur, i’w gyfrannu at wahanol brosiectau ac ehangu’r cyfleoedd a gynigir yma."
Fis Mai 2005, derbyniodd y clwb ei ddyfarniad cyntaf er mwyn sefydlu adran gymnasteg rhythmig, sydd wedi ffynnu a datblygu i gynnwys cyfleoedd cystadleuol.
Meddai Anthea Clements wedyn:
"Gymnasteg rhythmig yw un o’n disgyblaethau mwyaf llwyddiannus ac fe’i sefydlwyd yn bennaf gan ddefnyddio cyllid y Gist Gymunedol. Fe wnaethom ni ddefnyddio’r arian ar gyfer y costau sefydlu cychwynnol, sef prynu’r offer oedd ei angen a datblygu hyfforddwyr ymhellach, i ganolbwyntio ar yr adran hon. O ganlyniad, mae dwy o’n merched, Lorelei Westcott, 16 a Megan McIntyre, 9, wedi mynd ymlaen i gynrychioli Cymru."
Ac nid Lorelei a Megan yw’r unig dalentau i lamu ymlaen drwy rengoedd y clwb yn y Y Barri; mae dau o’r bechgyn wedi llwyddo i gyrraedd sgwad Gemau Cymanwlad 2010 a sgwad Prydain, gyda saith o’r gymnastwyr benywaidd yn symud ymlaen i Academi Gymnasteg Cymru a thair yn sgwad Prydain hefyd; heb sôn am y llu o gymnastwyr sydd hefyd yn cystadlu dros Gymru’n rheolaidd.
Gyda darpariaeth wedi’i sicrhau ar gyfer cenhedlaeth hŷn y gymnastwyr ieuainc yn Y Barri – mae hyd yn oed y rhai ar y rhestr aros yn cael cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau towlu a llamu – bu’n rhaid troi’r sylw wedyn at sicrhau dyfodol disglair i gymnasteg yn Y Barri ac yng Nghymru.
Nid yn unig y gwelwyd y Gist Gymunedol yn cyfrannu £1000 yn 2008 tuag at brynu offer cyn-ysgol ond hefyd defnyddiwyd y cyllid i sicrhau dyfodol cynaladwy i’r clwb drwy ddatblygu’r hyfforddwyr presennol a hyfforddi a sicrhau cymwysterau ar gyfer hyfforddwyr a gwirfoddolwyr newydd, gan arwain at gael 38 o hyfforddwyr yn gysylltiedig â’r clwb.
Ac mae’r clwb yn profi cryn lwyddiant. Nid yn unig mae ei gymnastwyr yn perfformio ar y llwyfan cenedlaethol ond hefyd mae ei gyfraniad at y gamp ac at lwyddiannau ei gymnastwyr yn cael eu cydnabod ar lefel leol.
Meddai Anthea:
"Derbyniodd nifer o’n gymnastwyr a’n hyfforddwyr wobrau am eu cyfraniad i’r gamp yng Ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Bro Morgannwg 2008. Aeth gwobr chwaraewr y flwyddyn a gwobr chwaraewraig y flwyddyn i gymnastwyr Clwb YMCA Y Barri a derbyniodd un o’n hyfforddwyr, Pete Haysham, wobr Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn."
Aeth Chwaraewr Hŷn y Flwyddyn, Nathan Mullett, ymlaen i ennill ‘Gwobr Gymnast y Flwyddyn’ Gymnasteg Cymru ar gyfer gymnasteg artistig y dynion yng Ngwobrau Cenedlaethol Gymnasteg Cymru’n ddiweddar.
Ers sefydlu’r Gist Gymunedol yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Yn ddiweddar, mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi cynyddu lefel y grant sydd ar gael. Bellach, gall sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.
Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.
Meddair Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Bro Morgannwg. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i brosiectau cymunedol bychain ledled Cymru a nawr mae’n croesawu ceisiadau gan bob math o grwpiau cymunedol, fel Sefydliad y Merched, nid dim ond y clwb pêl droed lleol."
"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Bro Morgannwg i fod yn fwy egnïol yn amlach."
Mae clybiau chwaraeon yn rhan hanfodol o ffabrig bywyd cymunedol. Maen nhw, a’r bobl y tu ôl i’r llenni, yn cael cyfle i ganfod a mowldio talent ifanc i fod yn sêr y dyfodol, gan feithrin ynddynt werthoedd craidd fel gwaith caled, hunan-gred ac – yn fwy na dim – mwynhad o gymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae cyllid y Gist Gymunedol yn helpu i greu a chefnogi cyfleoedd chwaraeon newydd i bobl ieuainc ledled Cymru. Gellir defnyddio’r cyllid i hyfforddi hyfforddwyr a gweinyddwyr, fel grantiau offer bychain ar gyfer datblygiad iau, i sefydlu strwythurau cystadlu ar gyfer plant yn y gymuned, i dalu costau sefydlu clybiau iau ac i gefnogi digwyddiadau a gwyliau chwaraeon.