EHANGU’R DDARPARIAETH BÊL DROED YNG NGHAERDYDD

27 Ebr 2009

Mae brwdfrydedd cynyddol ynghylch pêl droed 5-bob-ochr yng Nghaerdydd wedi arwain at ehangu cyfleuster pêl droed cyntaf Cymru i gael ei adeiladu i bwrpas, a hynny wedi dim ond tair blynedd.

Mae Canolfan Gôl, a godwyd gan wario swm o £1.25 miliwn, wedi derbyn cefnogaeth gan Gyngor Chwaraeon Cymru wrth iddo ddal ati i greu perthnasoedd oddi mewn i’r sector preifat, drwy ehangu’r cyfleusterau presennol gan ychwanegu dau gwrt 5-bob-ochr awyr agored ac unig gae 7-bob-ochr Caerdydd at y ddarpariaeth a geir eisoes.

Mae mwy na 300 o dimau yr wythnos yn manteisio ar y cyfleuster pêl droed, sydd â 10 cae 5-bob-ochr bellach, un cae 7-bob-ochr, clwb gyda chyfleusterau newid a chawodydd poeth a bydd y prosiect diweddaraf hwn, sy’n werth £250,000, yn sicrhau bod hyd yn oed mwy o bêl droedwyr addawol Caerdydd yn cymryd rhan.

Meddai Gwilym Boore o Ganolfan Gôl am y datblygiadau yn y cyfleuster:

"Mae’r cymorth rydym wedi’i dderbyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru wedi bod yn allweddol wrth i Gôl ehangu ei safle chwarae 25%. Roedd gwir angen am hyn gan fod y ganolfan yn orlawn yn ystod oriau brig ac roedd raid i ni siomi cwsmeriaid oedd eisiau defnyddio ein cyfleusterau.

"Ers agor y caeau ychwanegol, rydym unwaith eto’n gweithredu’n llawn bron ac mae’r cae 7-bob-ochr yn arbennig yn cael ei ganmol yn fawr iawn gan ein cwsmeriaid. Mae’r caeau ychwanegol wedi bod o gymorth i ni sefydlu’r cynghreiriau 5-bob-ochr mwyaf yng Nghymru a nawr, yn ôl yr hyn rydym yn ei ddeall, rydym yn gweithredu un o gynghreiriau gweithle mwyaf y DG."

Daeth y cyfleuster pêl droed chwyldroadol ag ychydig o Sbaen i brifddinas Cymru nôl ym mis Ionawr 2006, gyda chaeau replica gan un o dimau mwyaf Ewrop, Real Madrid – mae’r caeau’n edrych ac yn teimlo fel tyweirch naturiol ond heb yr anfantais o fod yn rhy wlyb pan mae’n bwrw glaw neu’n rhy sych pan mae’n braf – yn sicrhau ei fod yn gyfleuster y gellir ei ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn.

Meddai Philip Carling, Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru:

"Mae’r prosiect hwn o fudd aruthrol i’r gymuned leol ac mae eisoes wedi darparu cyfleoedd cynyddol i bobl o bob math o gefndiroedd gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol – dim ond gweithio tuag at gynyddu’r niferoedd hynny fwy fyth all y gwaith ehangu yma.

"Gyda chyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Loteri Genedlaethol, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n helpu i drawsnewid y tirlun chwaraeon yng Nghymru. Mae’r buddsoddiad sylweddol mewn chwaraeon cymunedol, cyfleusterau, offer a hyfforddwyr wedi cael effaith ar gymunedau ledled y wlad ac mae’n helpu i gynyddu’r cyfraddau cymryd rhan yn gyffredinol."

Mae Ysgol Uwchradd Fitzalan gerllaw hefyd yn elwa o’r cyfleuster, gan allu defnyddio’r caeau yn ystod y diwrnod ysgol ac yna mae’n gweithredu fel cyfleuster busnes a chymunedol yn ystod y gyda’r nosau, y penwythnosau a’r gwyliau.

Sefydlwyd cynghreiriau er mwyn i dimau allu chwarae gemau cystadleuol yn rheolaidd ond os mai dim ond cicio pêl ydych chi am ei wneud, mae archebion bloc a llogi achlysurol ar gael gyda thwrnamentau a chystadlaethau undydd ar yr agenda hefyd.

Ar gyfer y pêl droedwyr addawol hynny sydd eisiau gwella eu gêm, mae ysgolion pêl droed yn cael eu cynnal ar fore Sadwrn, yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda hyfforddwyr cymwys CBDC wrth law i gyflwyno hyfforddiant a chyfarwyddyd arbenigol i blant rhwng 4 a 12 oed.

Am wybodaeth bellach am y cyfleusterau sydd ar gael yng Nghanolfan Gôl, cysylltwch ar 0870 168 8989.