MERCHED BLAENAU GWENT WRTH EU BODDAU WRTH I’R GIST GYMUNEDOL DDATHLU DEGAWD O GYLLIDO
27 Ebr 2009
Mae chwaraewyr pêl rwyd ym Mlaenau Gwent ar ben eu digon gyda mwy o ferched nag erioed yn camu ar y cwrt, diolch yn bennaf i fuddsoddiad gan Gyngor Chwaraeon Cymru drwy gyfrwng cynllun y Gist Gymunedol.
Cynllun grantiau gan y Loteri Genedlaethol yw’r Gist Gymunedol, sy’n dathlu ei 10fed pen-blwydd eleni. Mae’n cael ei reoli gan Gyngor Chwaraeon Cymru a’i gefnogi yn lleol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Y diben yw annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol yn amlach.
Wedi gwerth degawd o fuddsoddi, yn dod i gyfanswm o fwy na £9 miliwn, mae Cyngor Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol yn dathlu llwyddiannau’r grwpiau cymunedol a’r clybiau chwaraeon sydd wedi ffynnu yn sgil derbyn cyllid gan y Gist Gymunedol.
Mae Clwb Pêl Rwyd Tredegar yn un enghraifft o’r fath, gydag adran y merched a’r adran iau’n derbyn mwy na £5,000 yr un gan y Gist Gymunedol.
Sicrhaodd y Gist Gymunedol bod modd sefydlu pêl rwyd hamdden i ferched yn Nhredegar nôl yn 2002, gyda’r cyllid yn mynd tuag at brynu offer a chostau sefydlu eraill sy’n gysylltiedig â chychwyn clwb pêl rwyd.
Mae Catherine Hares, Prif Hyfforddwr Clwb Pêl Rwyd Tredegar a’r Rheolwr Chwaraeon a Byw’n Egnïol ar gyfer Blaenau Gwent, wedi chwarae rhan allweddol mewn pêl rwyd ledled y sir ac mae’n egluro’r effaith mae’r Gist Gymunedol wedi’i gael ar bêl rwyd yn yr ardal:
"Mae gwneud ceisiadau cyson am grantiau’r Gist Gymunedol wedi sicrhau bod Clwb Pêl Rwyd Tredegar yn mynd o nerth i nerth yn ystod y saith mlynedd diwethaf. Mae’r cyllid wedi mynd tuag at ehangu’r sesiynau a gynigir i gynnwys ystod oedran ehangach ac amrywiaeth ehangach o weithgareddau."
Mae pêl rwyd hamdden a chystadleuol hŷn, pêl rwyd iau, pêl rwyd dŵr, pêl rwyd mini a phêl rwyd cymysg i gyd ar gael, ymhlith gweithgareddau eraill, drwy gyfrwng y clwb, i chwaraewyr addawol Tredegar ac maent wedi’u cyllido’n bennaf gan y Loteri Genedlaethol.
Gyda dau dîm ym mhob grŵp oedran o D10 drwodd i’r rhai hŷn, sy’n cystadlu yng nghynghrair De Ddwyrain Cymru, mae gan y clwb fwy na 100 o aelodau’n chwarae’n gystadleuol a 30 o aelodau pellach sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau hamdden a gynigir.
Nid dim ond Tredegar sy’n elwa o gyllid y Gist Gymunedol, fel yr eglura Cath:
"Mae Merched Abertileri wedi ffynnu hefyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ehangu o ddim ond dau dîm yn 2002 i fod â phump tîm yn chwarae’n gystadleuol yn awr, yn ogystal â thimau ar y lefel D17, D14, D12 a D11. Drwy gyfrwng y Gist Gymunedol, mae clybiau pêl rwyd ar gyfer ieuenctid ac aelodau hŷn wedi’u sefydlu yn Nantyglo ac yng Nglynebwy hefyd, gyda thimau’n cael eu sefydlu hefyd i weithredu fel llwybr cynnydd ac i ddarparu ar gyfer y rhai sydd eisiau dal ati i chwarae yn y cynghreiriau cystadleuol."
Mewn ymgais i ddarparu ar gyfer y tri chlwb yn ehangu ym Mlaenau Gwent, sefydlwyd ‘Cynghrair Bêl Rwyd Gymdeithasol’ i gynnwys timau o Gaerffili hefyd yn 2003, ar gyfer y rhai a oedd eisiau chwarae mewn gemau ond heb yr ymroddiad i chwarae mewn cynghrair gystadleuol bob dydd Sul.
Meddai Cath wedyn:
"Pan sefydlwyd y gynghrair, gwnaeth pob clwb gais am gyllid gan y Gist Gymunedol fel bod yr aelodau’n gallu cael eu gyrru ar gyrsiau dyfarnu ac fel bod modd prynu cit iddyn nhw allu cystadlu."
Mae mwy na 150 o ferched yn cymryd rhan yn y gynghrair yn awr gyda 14 o dimau. Mae’r gemau’n cael eu chwarae bob pythefnos gartref ac oddi cartref yn ystod eu hamseroedd ymarfer arferol, gyda’r aelodau’n dyfarnu eu gemau eu hunain.
Ers sefydlu’r Gist Gymunedol yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Yn ddiweddar, mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi cynyddu lefel y grant sydd ar gael. Bellach, gall sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.
Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.
Meddair Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Blaenau Gwent. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i brosiectau cymunedol bychain ledled Cymru a nawr mae’n croesawu ceisiadau gan bob math o grwpiau cymunedol, fel Sefydliad y Merched, nid dim ond y clwb pêl droed lleol."
"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Blaenau Gwent i fod yn fwy egnïol yn amlach."
Mae clybiau chwaraeon yn rhan hanfodol o ffabrig bywyd cymunedol. Maen nhw, a’r bobl y tu ôl i’r llenni, yn cael cyfle i ganfod a mowldio talent ifanc i fod yn sêr y dyfodol, gan feithrin ynddynt werthoedd craidd fel gwaith caled, hunan-gred ac – yn fwy na dim – mwynhad o gymryd rhan mewn chwaraeon.