AM BÊL DROED SAMBA, ANGHOFIWCH AM SAO PAULO, DEWCH I SHOTTON

20 Ebr 2009

Mae ieuenctid Sir y Fflint sydd wedi gwirioni ar bêl droed yn dilyn yn ôl troed samba sêr byd enwog o Frasil fel Pele a Ronaldinho drwy ddysgu’r gêm bump-bob-ochr dan do, futsal.

Mae Chwaraeon Sir y Fflint ac Ymddiriedolaeth Bêl Droed Cymru wedi bod yn cyflwyno hyfforddiant futsal mewn 14 ysgol yn y sir. Y nod yn y pen draw yw cofrestru timau mewn cystadleuaeth gornest gron yng Ngŵyl Chwaraeon Ieuenctid Sir y Fflint, a gefnogir gan Airbus UK a Chyngor Chwaraeon Cymru, drwy gyfrwng ei gynllun denu nawdd gan fusnes - Sportsmatch Cymru. Cynhelir yr ŵyl ddydd Iau 30 Ebrill ac mae’r trefnyddion yn gobeithio hybu cynaladwyedd hirdymor futsal yn y rhanbarth, gyda chynlluniau ar droed i sefydlu sawl cynghrair iau.

Chwaraeir futsal gyda goliau maint hoci a phêl lai gyda llai o fowns iddi, sy’n rhoi mwy o bwyslais ar waith byrfyfyr, creadigrwydd a thechneg, yn ogystal â rheolaeth ar bêl a phasio i ofod bychan. Daw’r enw 'futsal' o’r ymadrodd Portiwgëeg, futebol de salão, a’r Sbaeneg, fútbol sala, sy’n cyfieithu’n fras i ‘neuadd bêl droed’ neu 'bêl droed dan do'.

Mae’r gamp yn dod yn eithriadol boblogaidd yn y byd pêl droed, gyda chynghreiriau proffesiynol yn cael eu sefydlu yn Rwsia, Portiwgal, Yr Eidal, Yr Ariannin, Iran, Sbaen a Brasil, y Pencampwyr Byd presennol. Mae gwreiddiau’r gamp yn strydoedd a chaeau chwarae De America, ble dyfeisiwyd y gêm am y tro cyntaf ryw 80 mlynedd yn ôl, wedi tarddu o Uruguay a Brasil.

Yn wir, mae llawer iawn o sêr byd-enwog Brasil wedi dechrau cicio pêl drwy chwarae’r gêm dan do, yn cynnwys enwau mawr fel Pele, Rivelino, Zico, Denilson, Ronaldo a Roberto Carlos.

Meddai Gareth Owen, y Swyddog Datblygu Pêl Droed ar gyfer Chwaraeon Sir y Fflint ac Ymddiriedolaeth Bêl Droed Cymru:

"Mae futsal yn rhoi cyfle i’r ieuenctid ddangos eu hunain a phrofi’r hyn maen nhw’n gallu ei wneud. Rwyf bob amser yn dweud wrthyn nhw eu bod nhw’n arbennig o dda os ydyn nhw’n gallu gwneud degfed o’r hyn mae Ronaldo’n gallu ei wneud. Mae’r hyfforddi wedi bod yn rhagorol oherwydd mae’n ymwneud ag ymosod i gyd ac yn annog yr ymosodwyr i roi eu sgiliau ar waith a’u mynegi eu hunain."

Mae’r sesiynau hyfforddi mewn futsal yn rhan o’r cyfnod yn arwain at y drydedd Ŵyl Chwaraeon flynyddol i Ieuenctid Sir y Fflint. Cynhelir yr achlysur undydd yma yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy ac ynddo bydd rhyw 1,500 o ieuenctid yn cymryd rhan mewn campau fel pêl fasged, codi hwyl mewn gemau, dawnsio stryd, tri-golff, beicio mynydd, rygbi, hoci a gymnasteg. Mae’r trefnyddion yn disgwyl y bydd 242 o blant yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth futsal yn unig.

Mae Chwaraeon Sir y Fflint wedi cynnig cyfle i ysgolion cynradd, arbennig ac uwchradd yn Sir y Fflint i wneud defnydd o sesiynau hyfforddi mewn nifer o gampau a gyflwynir gan hyfforddwyr cymwys sydd wedi’u recriwtio drwy gyfrwng rhaglenni Campau’r Ddraig*, 5x60** ac AGChY*** (AG a Chwaraeon Ysgol) gan Gyngor Chwaraeon Cymru, a mentrau partneriaeth gwirfoddol gyda Choleg Glannau Dyfrdwy a Phrifysgol Glyndŵr.

Gall yr ysgolion gofrestru hyd at dri o dimau i gymryd rhan ym mhob gweithgaredd yn yr ŵyl, gyda’r bwriad o’u hannog i ddal ati i ddatblygu eu sgiliau newydd drwy gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn dyfodol, er mwyn bod yn oedolion iach.

Meddai Rheolwr Datblygu Chwaraeon Sir y Fflint, Sian Williams:

"Rydym yn eithriadol gyffrous am yr achlysur eleni a’r amrywiaeth eang iawn o chwaraeon a gweithgareddau sydd gennym i’w cynnig. Rydym yn gobeithio y bydd y bobl ieuainc i gyd yn mwynhau eu dewis gampau ac yn dal ati i’w chwarae unwaith y bydd yr ŵyl wedi dod i ben.

"Fe hoffem ddiolch hefyd i Airbus UK ac i Gyngor Chwaraeon Cymru am eu cegnogaeth ddiflino."

Mae’r ŵyl eleni’n cael ei chymeradwyo a’i chefnogi gan enwogion, gydag ymweliadau gan FLAVA, y criw dawns cysylltiedig â Britain’s Got Talent, a BB o Britannia High ar ITV. Hefyd, rydym yn cael cefnogaeth tîm pêl fasged y BiG Storage Cheshire Jets a’r cyn-bêl droediwr rhyngwladol a serennodd wrth chwarae dros Lerpwl a Chymru, Ian Rush.