Y GWEINIDOG YN EI MORIO HI YM MHLAS MENAI

17 Ebr 2009

Pan ymwelodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, â’r Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Dŵr ym Mhlas Menai ger Caernarfon yn ddiweddar, yn ogystal â chael gweld cyfleusterau rhagorol y ganolfan â’i lygaid ei hun, cafodd weld hefyd blant lleol yn mentro mewn caiac, canw a chwch hwylio am bris gostyngol.

Mon and HumphriesMae 1000 o bobl ifanc wedi cyfrannu £5 yr un i’r prosiect "Campau Dŵr am £5" i fwynhau campau dŵr yn y ganolfan. Derbyniodd y prosiect £20,000 hefyd gan Sblash - cronfa her gweithgareddau hamdden dŵr Cymru, ac o gyfuno hynny â £5,000 y plant a chyfraniad o £5,000 ar ffurf amser gan staff y Ganolfan, mae £30,000 y prosiect wedi rhoi profiadau i’r bobl ifanc na fydden nhw wedi’u cael fel arall.

Meddai’r Gweinidog: "Er nad oedd y tywydd yn dda ar ddiwrnod fy ymweliad, doedd hynny ddim yn rhwystr rhag mwynhau’r dŵr! Gyda’r plant yn eu morio hi, roedd yn amlwg bod y Gronfa Sblash yn cefnogi ymrwymiad ehangach Llywodraeth y Cynulliad i’w gwneud hi’n haws i bobl gadw’n heini ac yn iach yn eu bywydau pob dydd."

Partneriaeth yw’r gronfa Sblash rhwng Llywodraeth y Cynulliad, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru. Ei hamcan yw rhoi cyfle i bawb fynd allan a mwynhau’r afonydd, llynnoedd a’r arfordiroedd gwych sydd gennym yng Nghymru. Mae arian y gronfa wedi talu am wella cyfleusterau ac am gyfleusterau newydd gan roi cyfle i bobl leol fwynhau eu glan-môr a’u hafonydd a’u llynnoedd lleol. Mae’r cyfleusterau gwell hyn yn atyniad ychwanegol i bobl sy’n ymweld â Chymru, gan ychwanegu rhywbeth at ddiwydiant sy’n bwysig i’n heconomi. rounding the mark L

Ychwanegodd Jane Davidson, Gweinidog yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai:

"Fis Gorffennaf ddiwethaf, lansiais y gronfa Sblash gan mod i’n teimlo nad oedd digon o bobl yn defnyddio afonydd a llynnoedd i gael hwyl ac i hamddena. Mae cymunedau lleol a busnesau hefyd yn colli cyfleoedd yn hyn o beth.

"Mae gwella cyfleoedd i hamddena ar ddŵr yn dod â manteision aruthrol i dwristiaeth ac i iechyd pobl. Nod y cynllun yw annog pobl ifanc i wneud y gorau o’u hamgylchedd naturiol"