CERDDWN YMLAEN GYDA MERCHED Y WAWR

8 Ebr 2009

Wedi diwrnod o waith caled a cherdded dygn, mae saith o aelodau Clybiau Gwawr a Merched y Wawr wedi cymhwyso i fod yn arweinwyr cerdded. (Cymryd gan Mantell Gwynedd)

Cynhaliwyd y cwrs hyfforddiant yng Nghanolfan Cywain Y Bala ar Ebrill y 4ydd pan ddaeth saith o aelodau ynghyd i ddysgu am bwysicrwydd cerdded ac beth oedd ei hangen i fod yn arweinydd cerdded safonol.

Cafwyd diwrnod arbennig gyda’r tiwtoriaid Cartrin Roberts ac Emma Quaek, ac yn dilyn y diwrnod mae’r aelodau wedi ei cymhwyso ac yn teimlo’n hyderus iawn i fynd a grŵp allan i gerdded.

Dywedodd Mim Roberts, Swyddog Datblygu Merched y Wawr i’r diwrnod fod yn fuddiol iawn, ac yn dilyn y cwrs a’r cyngor ei bod yn awr yn benderfynol o fynd allan i gerdded yn ddyddiol.

"Roedd y cwrs yn wych a’r wybodaeth yn cael ei drosglwyddo i’r aelodau mewn ffordd hwyliog a hawddgar. Yn bendant roedd y cwrs yn fuddiol iawn ac yn agoriad llygad i rhywun fel minnau oedd yn gyndyn iawn o fynd allan i gerdded cyn hynny."

Er mwyn cynnal y cwrs fe dderbyniwyd grant o gynllun Ewch Amdani (nawdd Cyngor Chwaraeon Cymru) dan ofal Mantell Gwynedd ac yn sgil y diwrnod mae’r aelodau sydd wedi eu cymhwyso yn gobeithio cynnal sesiynau o gerdded yn eu hardaloedd.

Ychwanegodd Lowri Rees-Roberts "Roedd y cwrs yn llwyddiant ysgubol. Diolch yn fawr i’r tiwtoriaid, i Mantell Gwynedd am yr arian i gynnal y cwrs ac i Ganolfan Cywain am y cinio blasus ac ei gwaith yn ein cynorthwyo gyda rhediad y diwrnod."