GŴYL CHWARAEON IEUENCTID SIR Y FFLINT 2009
7 Ebr 2009
Mae ieuenctid ledled Sir y Fflint yn mynd yn waltgof – yn dawnsio, plymio a driblo eu ffordd drwy amrywiaeth eang o chwaraeon – yn y cyfnod yn arwain at drydedd Gŵyl Chwaraeon Ieuenctid flynyddol yr ardal. (Cymryd gan Cynfor Sir y Fflint)
Mae’r achlysur undydd, a gefnogir gan Airbus a Chyngor Chwaraeon Cymru, yn cael ei gynnal ddydd Iau 30 Ebrill yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy ac ynddo bydd tua 1,500 o ieuenctid yn cymryd rhan. O ganlyniad i boblogrwydd cynyddol yr achlysur, mae mwy o chwaraeon nag erioed yn cael eu cynnig eleni, yn cynnwys pêl fasged, codi hwyl mewn gemau, dawnsio stryd, tri-golff, beicio mynydd, rygbi, hoci, gymnasteg a futsal, sef gêm bump bob ochr dan do a chwaraeir mewn safle cyfyngedig ac yn cyfuno gallu technegol gyda chreadigrwydd a rheolaeth ar bêl.
Mae Chwaraeon Sir y Fflint wedi cynnig cyfle i bob ysgol gynradd, arbenigol ac uwchradd yn Sir y Fflint dderbyn sesiynau hyfforddi mewn nifer o chwaraeon, yn cael eu cyflwyno drwy gyfrwng cynlluniau Campau’r Ddraig*, 5x60** ac AGChY*** (AG a Chwaraeon Ysgol) Cyngor Chwaraeon Cymru.
Gall ysgolion gofrestru hyd at dri o dimau ar gyfer pob gweithgaredd yn yr ŵyl, gyda’r bwriad o’u hannog i ddal ati i ddatblygu eu sgiliau newydd ymhell i’r dyfodol, i sicrhau oedolion iach.
Mae’r achlysur eleni’n cael ei gefnogi gan sêr y sgrîn, gydag ymweliad gan FLAVA, y criw dawnsio ar Britain’s Got Talent, a BB o Britannia High ar ITV. Ceir cefnogaeth hefyd gan dîm pêl fasged Jets Sir Gaer BiG Storage a chyn-chwaraewr Lerpwl a Chymru, Ian Rush.
Meddai Swyddog Datblygu Chwaraeon Sir y Fflint, Sian Williams:
"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at yr achlysur eleni ac at yr amrywiaeth eang o chwaraeon a gweithgareddau sydd gennym i’w cynnig. Rydym yn gobeithio y bydd y bobl ieuainc i gyd yn mwynhau eu dewis gamp ac yn dal ati i gymryd rhan ynddi wedi i’r ŵyl ddod i ben.
"Fe hoffem ddiolch hefyd i Airbus ac i Gyngor Chwaraeon Cymru am eu cefnogaeth barhaus."
Mae Airbus yn y DG, sydd â safle gweithgynhyrchu ym Mrychdyn, Sir y Fflint, yn cefnogi’r achlysur unwaith eto eleni, ac felly hefyd Gyngor Chwaraeon Cymru, drwy gyfrwng ei gynllun denu nawdd gan fusnes - Sportsmatch Cymru – gan gyfateb buddsoddiad Airbus bunt am bunt.
Meddai Jeremy Cieslik, Is-Lywydd Gweithrediadau Diwydiannol Canolfan Ragoriaeth Adain a Pheilon Airbus:
"Mae’r Ŵyl Chwaraeon i Ieuenctid yn gyfle rhagorol i bobl ieuainc ddysgu sgiliau newydd tra hefyd yn cael hwyl yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o chwaraeon a gweithgareddau. Fel cyflogwr pwysig yn Sir y Fflint, mae Airbus yn falch unwaith eto o fod yn rhan o’r achlysur rhagorol hwn yn ein cymuned leol".
Meddai Aelod o Gyngor Chwaraeon Cymru, Hywel Meredydd:
"Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n hynod falch unwaith eto o allu cefnogi Airbus a Gŵyl Chwaraeon Ieuenctid Sir y Fflint. Dyma ein trydedd blwyddyn yn ymwneud â’r digwyddiad rhagorol hwn, sydd wedi cyfrannu’n aruthrol at annog ieuenctid o bob gallu i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o chwaraeon.
"Mae’r Ŵyl Chwaraeon i Ieuenctid yn fwy na dim ond diwrnod o hwyl. Mae Chwaraeon Sir y Fflint wedi creu sylfeini ar gyfer oes o hwyl drwy gyfrwng ffitrwydd ar gyfer plant ac mae’r dull blaengar ac arloesol hwn o weithredu’n haeddu cryn gydnabyddiaeth".
Mae’r achlysur yn rhan bwysig yn awr o galendr yr ysgolion a’r clybiau chwaraeon yn Sir y Fflint a nod yr ŵyl eleni yw bod yn ddiwrnod o ddathliad; lle gall pobl ieuainc lleol gymryd rhan mewn chwaraeon a mwynhau’r sgiliau sydd wedi’u datblygu a’u meithrin gan y rhaglen hyfforddi. Mae ffocws ar gysylltiadau ysgol a chlwb a llwybrau cynnydd cynaladwy i glybiau chwaraeon cymunedol yn egwyddor sylfaenol yng ngwaith Chwaraeon Sir y Fflint hefyd ac mae’r trefnyddion yn gobeithio y gall yr ŵyl fod yn sail i gysylltiadau clwb ystyrlon a’u cadarnhau.