TOM JAMES YN CANMOL RHINWEDDAU BEICIO I GEFNOGI TAITH FEICIO MCP

6 Ebr 2009

Mae enillydd medal aur Olympaidd am rwyfo, Tom James, wedi dangos ei gefnogaeth i Daith Feicio Gogledd Cymru Mudiad Calon Prydain drwy annog ei gyd-ogleddwyr yng Nghymru i wisgo eu lycra er budd achos teilwng iawn.

Enillodd Tom James MBE, 25, sy’n wreiddiol o Goedpoeth ger Wrecsam, fedal aur yng Ngemau Olympaidd Beijing yr haf diwethaf ym mhedwarawd y dynion. Enillodd Tom radd mewn peirianneg o Gaergrawnt ac mae’n gyn-Lywydd ar Glwb Cychod y Brifysgol honno, wedi cystadlu yng nghwch glas golau Caergrawnt bedair gwaith, gan ennill ar ei ymgais olaf yn 2007.

Er nad yw’n gallu cymryd rhan ei hun eleni, mae James wedi dangos ei gefnogaeth i Daith Feicio MCP, sy’n cychwyn o Arena’r Rhyl ddydd Sul 10 Mai.

Tom James 2Yn siarad o Ganolfan Ymwelwyr Coedwig Coed Llandegla, ger Wrecsam, meddai: "Mae Taith Feicio Gogledd Cymru Mudiad Calon Prydain yn achlysur ffantastig a all wneud gwahaniaeth mawr i greu ymwybyddiaeth o ofalu am eich calon a bod yn egnïol.

"Mae unrhyw achlysur sy’n annog pobl i gymryd rhan mewn unrhyw fath o ymarfer, tra hefyd yn helpu elusen hynod deilwng, yn haeddu clod. Hoffwn annog pobl i fynd ar gefn eu beic er budd yr achos da yma a chadw’n heini yr un pryd. A ble well nag arfordir hardd Gogledd Cymru i wneud hynny?

"Mae beicio, fel rhwyfo, yn ymarfer effeithiol iawn, yn arbennig ar gyfer y coesau, ac mae’n ffordd bleserus o losgi calorïau. Mae’r ddwy gamp yn debyg hefyd am eu bod yn gallu bod yn weithgareddau unigol neu dîm ac maent yn eithriadol gymdeithasol ac yn hwyl garw. Rwy’n meddwl mai dyna sy’n bwysig mewn unrhyw weithgaredd chwaraeon, ar unrhyw lefel, yn cynnwys Taith Feicio MCP, ac rwy’n siwr y bydd llawer o deuluoedd a ffrindiau’n cael diwrnod gwych yn yr achlysur yma."

Mae modd cofrestru yn awr ac eisoes mae nifer o gyfranogwyr brwd wedi dechrau cyflwyno eu henwau er mwyn codi arian ar gyfer Mudiad Calon Prydain yng Ngogledd Cymru.

Meddai Hannah Townsend, Trefnydd Digwyddiadau Cymru ar ran MCP:

"Rydym yn eithriadol ddiolchgar i Tom am ei gefnogaeth werthfawr i Daith Feicio MCP. Mae’n un o’r athletwyr mwyaf ysbrydoledig ym Mhrydain, heb sôn am yng Ngogledd Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd ei anogaeth yn ysbrydoli llawer o bobl i fynychu ar y diwrnod i godi arian er budd achos da!

"Does dim rhaid i chi fod yn Olympiad i gymryd rhan. Nod Taith Feicio Gogledd Cymru yw cael teuluoedd ar gefn eu beiciau er budd achos da, ac i fwynhau diwrnod hwyliog yn yr awyr agored. Dyma’r amser i gofrestru ac ymuno yn yr hwyl ym mis Mai – ewch i www.bhf.org.uk/northwales am yr holl wybodaeth."

Tom James 3Unwaith eto mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cefnogi’r digwyddiad ac yn annog pobl i wneud yn fawr o’r cyfle i ymuno yn y frwydr yn erbyn afiechyd y galon ac i helpu i drawsnewid y boblogaeth i fod yn genedl fwy heini ac egnïol.

Mae Taith Feicio Gogledd Cymru’n weithgaredd rhagorol i bob oedran a gallu. Bydd y cyfranogwyr yn mwynhau golygfeydd o arfordir a chefn gwlad Gogledd Cymru a bydd mwyafrif y daith yn dilyn llwybrau beicio, yn ddiogel oddi wrth traffig.

Mae’r daith 15 milltir yn dechrau rhwng 09:00am a 10:00am o Arena’r Rhyl ar lan y môr. Gan ddilyn y llwybr arfordirol, byddwch yn beicio i Brestatyn lle mae’r llwybr yn ymuno â llwybr beicio Ffordd Dyserth ac yn arwain ymlaen i Ruddlan, cyn dychwelyd i’r llwybr arfordirol a mynd ymlaen i’r llinell derfyn.

Eleni, cyflwynir llwybr 30 milltir mwy heriol a fydd yn dilyn y ffyrdd gwledig o amgylch cefn gwlad hardd Gogledd Cymru. Ar hyd traciau sengl, bydd yn cynnwys popeth sydd gan Ogledd Cymru i’w gynnig.

Nod y daith feicio yw cael mwy na 400 o bobl i gymryd rhan a bydd yr arian a godir yn helpu MCP i frwydro’n erbyn afiechyd y galon – yr afiechyd sy’n lladd y nifer mwyaf o bobl yng Nghymru.

Nid oes angen bod yn eithriadol heini ar gyfer cymryd rhan. Diben y daith yw denu pobl o bob cwr o’r rhanbarth i ddangos nad oes raid i chi fod yn enillydd medalau na hyd yn oed yn feiciwr brwd i gael diwrnod gwych allan yn yr awyr agored ar gefn eich beic.

Gellir cofrestru ar gyfer y daith yn awr ar-lein yn www.bhf.org.uk/northwales

neu drwy gysylltu â Thîm Digwyddiadau MCP ar 0800 169 3672.

Dim ond £10 yw cofrestru i oedolion a £5 i ieuenctid 12 i 16 oed.