CNWD NEWYDD O GRICEDWYR AR YNYS MÔN
1 Ebr 2009
Mae cnwd newydd o gricedwyr ieuainc yn parhau i ddod i’r amlwg ar Ynys Môn ers i lond dwrn o hyfforddwyr adfer criced iau ar yr ynys ugain mlynedd yn ôl – gydag ychydig o help gan gynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru.
Mae’r Gist Gymunedol, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed eleni, yn gynllun grantiau gan y Loteri Genedlaethol a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru, gyda chefnogaeth leol gan Gyngor Sir Ynys Môn. Y nod yw annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn amlach.
Wedi gwerth degawd o fuddsoddiad, yn dod i gyfanswm o fwy na £9 miliwn, mae Cyngor Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol yn dathlu llwyddiannau’r grwpiau cymunedol a’r clybiau chwaraeon sydd wedi ffynnu gan ddefnyddio cyllid y Gist Gymunedol.
Mae Cymdeithas Hyfforddwyr Criced Ynys Môn (CHCYM) yn un enghraifft o’r fath, wedi derbyn saith o grantiau gan y Gist Gymunedol, yn dod i gyfanswm o £3,900, ers ei dyfarniad cyntaf un o £810 nôl yn 1999.
Roedd CHCYM yn bodoli cyn sefydlu unrhyw hyfforddiant clwb trefnus yn yr ardal ac mae wedi datblygu i ffurfio strwythurau hyfforddi yng nghlybiau criced Aliwminiwn Môn, Porthaethwy a Llangefni. Hefyd, mae CHCYM yn cyflwyno sesiynau hyfforddi bob dydd o’r wythnos yn ysgolion Caergybi drwy gyfrwng menter Campau’r Ddraig* a gyllidir gan y Loteri, gyda chefnogaeth gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Mae Ysgrifennydd y Clwb, Selwyn Rees, 69 o Gaergybi, wedi ymwneud â CHCYM ers ugain mlynedd.
Meddai, "Roedd criced wedi diflannu ar Ynys Môn fwy neu lai felly dyma benderfynu sefydlu hyfforddiant i ieuenctid mewn clybiau a dechrau mynd i’r ysgolion cynradd. Ers hynny, rydym wedi bod yn llwyddiannus dros ben."
"Rydym wedi cael tua pump neu chwech o grantiau gan y Gist Gymunedol dros y blynyddoedd a dyma’r peth gorau sydd wedi digwydd i’r gamp. Hir y parhaed.
"Yn 1999, doedd gennym ni ddim offer, dim byd, ac roedd gallu cael arian i brynu offer a chyllido hyfforddiant er mwyn mynd i ganolfannau hamdden yn ffantastig. Roedd raid i ni fegera, benthyg a dwyn yn llythrennol cyn hynny. Yn 2003, cawsom grant arall a dydyn ni ddim wedi edrych yn ôl wedyn."
Sefydlodd hyfforddwr criced cenedlaethol cyntaf Cymru, a Chyfarwyddwr cyntaf Bwrdd Criced Cymru, y diweddar Tom Cartwright MBE, Gymdeithasau Hyfforddi ledled Cymru. Mae Cymdeithasau Hyfforddi’r Byrddau Sirol Lleol yn gyfrifol, ar ran Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (BCLl), am drefnu, cyflwyno ac asesu elfennau allweddol Rhaglen Addysgu a Datblygu Hyfforddwyr BCLl.
Mae system CHCYM wedi cynhyrchu’r cricedwr ifanc talentog, Mathew Jones, 12, sydd wedi chwarae D11, D12 a D13 dros Gymru, ynghyd â dau chwaraewr arall sy’n gysylltiedig â’r Academi Griced Genedlaethol ym Morgannwg, ac wyth chwaraewr sy’n cynrychioli timau amrywiol Eryri (Gogledd Orllewin Cymru) ar hyn o bryd. Maent hefyd wedi sefydlu dosbarthiadau i enethod yn unig mewn ysgolion lleol ac Aliwminiwm Môn oedd un o’r clybiau cyntaf yng Ngogledd Cymru i ehangu cynllun ‘Cyfle i Ddisgleirio’** BCLl a’r Mudiad Criced.
Ers ei sefydlu yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Yn ddiweddar, mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi cynyddu lefel y grant sydd ar gael. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Ynys Môn. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae wedi gwneud byd o wahaniaeth i brosiectau cymunedol bychain ar hyd a lled Cymru a nawr mae’n cynnwys pob math o grwpiau cymunedol, fel Sefydliad y Merched, nid dim ond eich clwb pêl droed lleol."
"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Ynys Môn i fod yn fwy egnïol yn amlach."
Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.
Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.