CODI CALON ELUSEN

31 Maw 2009

Gydag ychydig dros mis i fynd nes bydd y rhuban ar linell gychwyn ail Daith Feicio Gogledd Cymru Mudiad Calon Prydain yn cael ei dorri ar ddydd Sul 10 Mai, mae’n amser cofrestru ar gyfer cyfle gwych i wasgu i mewn i’ch lycra a llosgi dipyn bach o rwber er budd elusen.

Cycling - view 2Mae’r cofrestru’n agored ac eisoes mae cyfranogwyr brwd wedi bod yn cofrestru er mwyn codi arian ar gyfer Mudiad Calon Prydain yng Ngogledd Cymru.

Meddai Hannah Townsend, Trefnydd Digwyddiadau Cymru ar ran MCP, "Dyma’r ail waith i MCP gynnal taith feicio fawr yng Ngogledd Cymru ac rydym yn gobeithio cael ymateb gwych yn lleol eto eleni. Dyma’r amser i gofrestru ac ymuno yn yr hwyl ym mis Mai - y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw mynd i www.bhf.org.uk/northwales i gael yr holl wybodaeth rydych ei hangen."

Unwaith eto mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cefnogi’r digwyddiad ac yn annog pobl i wneud yn fawr o’r cyfle i ymuno yn y frwydr yn erbyn afiechyd y galon ac i helpu i drawsnewid y boblogaeth i fod yn genedl fwy heini ac egnïol.

Mae Taith Feicio Gogledd Cymru’n weithgaredd rhagorol i bob oedran a gallu. Bydd y cyfranogwyr yn mwynhau golygfeydd o arfordir a chefn gwlad Gogledd Cymru a bydd mwyafrif y daith yn dilyn llwybrau beicio, yn ddiogel oddi wrth traffig.

Mae’r daith 15 milltir yn dechrau rhwng 09:00am a 10:00am o Arena’r Rhyl ar lan y môr. Gan ddilyn y llwybr arfordirol, byddwch yn beicio i Brestatyn lle mae’r llwybr yn ymuno â llwybr beicio Ffordd Dyserth ac yn arwain ymlaen i Ruddlan, cyn dychwelyd i’r llwybr arfordirol a mynd ymlaen i’r llinell derfyn.

Eleni, cyflwynir llwybr 30 milltir mwy heriol a fydd yn dilyn y ffyrdd gwledig o amgylch cefn gwlad hardd Gogledd Cymru. Ar hyd traciau sengl, bydd yn cynnwys popeth sydd gan Ogledd Cymru i’w gynnig.

Nod y daith feicio yw cael mwy na 400 o bobl i gymryd rhan a bydd yr arian a godir yn helpu MCP i frwydro’n erbyn afiechyd y galon – yr afiechyd sy’n lladd y nifer mwyaf o bobl yng Nghymru.

Nid oes angen bod yn eithriadol heini ar gyfer cymryd rhan. Diben y daith yw denu pobl o bob cwr o’r rhanbarth i ddangos nad oes raid i chi fod yn enillydd medalau na hyd yn oed yn feiciwr brwd i gael diwrnod gwych allan yn yr awyr agored ar gefn eich beic.

Gellir cofrestru ar gyfer y daith yn awr ar-lein yn www.bhf.org.uk/northwales

neu drwy gysylltu â Thîm Digwyddiadau MCP ar 0800 169 3672.

Dim ond £10 yw cofrestru i oedolion a £5 i ieuenctid 12 i 16 oed.


Gofynnodd y Cyngor Chwaraeon i Sustrans, prif elusen y DG ar gyfer cludiant cynaladwy, pam ei bod yn amser arbennig o dda i werthfawrogi cymaint o gynnydd y mae’r beic wedi’i wneud i fod yn un o’r ffurfiau gwyrddaf, rhataf a mwyaf effeithlon o deithio heddiw:

Pam defnyddio beic ymarfer sy’n aros yn yr unfan?

Mae mynd ar gefn eich beic yn un o’r ffyrdd hawsaf o gadw’n heini. Mae’n llawer rhatach na bod yn aelod o gym ac yn llawer mwy defnyddiol.

Felly beth am ryddhau eich beic a llosgi dipyn o galorïau? Mae beicio’n ymarfer aerobig arbennig o dda ond yn wahanol i ddosbarth aerobics, mae’n gallu eich cludo o A i B a gwneud llawer mwy:

· Ar gyfartaledd, mae beicwyr yn byw dwy flynedd yn hwy na’r rhai nad ydynt yn beicio

· Mae beicwyr rheolaidd mor heini ar gyfartaledd â pherson sydd 10 mlynedd yn iau na hwy

· Mae beicwyr yn anadlu llai o lygredd o draffig na gyrwyr ceir

Cyrraedd yn ffasiynol gynnar

Does dim rhaid ciwio ar gefn eich beic. Beicio yw’r ffordd gyflymaf o fynd o amgylch ein trefi a’n dinasoedd, ac os byddwch yn cyrraedd ar gefn beic, does dim rhaid i linellau melyn dwbl na wardeniaid traffig eich poeni. Yn amlach na pheidio, gallwch barcio yn union y tu allan i’ch cyrchfan.

Gwariwch eich arian arnoch chi eich hun

Yn wahanol i gar, does dim angen treth ffordd, MOT nac yswiriant ar eich beic ac, yn fwy na dim, does dim biliau tanwydd. Ryw £75 fydd beic eithaf da yn ei gostio i chi bob blwyddyn i’w gynnal a’i gadw a llai fyth os byddwch yn cydio yn y sbaner eich hun.

Llosgi calorïau nid carbon

· Beicio yw’r ffordd lanaf o deithio ar ôl cerdded, gan greu llai o lygredd

· Gellir parcio deg beic yn y gofod sydd ei angen ar gyfer un car

· Mae 2kg o garbon yn cael ei arbed ar bob siwrnai fer a wneir gan ddefnyddio beic yn lle car.