CChC YN CAMU I’R CYLCH GYDA CHYLLID
19 Maw 2009
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi datgelu ei fod wedi dyfarnu grant o £35,000 gan y Loteri Genedlaethol i Glwb Bocsio Amatur Penyrheol yng Ngorseinon tuag at gostau codi adeilad newydd sbon.
Mae’r clwb yn ceisio cael hyd i £105,000 i gyd ar gyfer codi adeilad newydd yn ogystal â thalu am gyfleusterau ac offer. Credir y bydd yr eiddo ddwywaith maint y clwb presennol ac yn gallu denu a rhoi lle i fwy o aelodau.
Y cyn-bencampwr bocsio Ewropeaidd, Colin Jones, yw’r prif hyfforddwr yn y clwb. Meddai, "Bydd y grant hwn yn cyfrannu llawer iawn at droi breuddwyd y clwb yn realiti ac rydym yn hynod ddiolchgar i Gyngor Chwaraeon Cymru am ddyfarnu’r arian yma i ni.
"Ar hyn o bryd mae’r clwb yn orlawn. Mae rhai aelodau wedi gorfod cael eu gwrthod yn ddiweddar am nad oes lle iddyn nhw ond gyda’r adeilad newydd, byddwn nid yn unig yn gallu cynyddu nifer yr aelodau ond hefyd datblygu a gwella eu sgiliau a’u galluoedd."
Dim ond newydd ddychwelyd o Lithuania yr wythnos hon mae Jones, wedi bod yno ar daith gyda sgwad datblygu bocsio PF. Roedd pedwar bachgen yn cystadlu mewn twrnament dwyrain Ewrop rhyngwladol yn y wlad a dychwelodd Fred Evans gartref i Gymru gyda medal aur. Bydd yn un i gadw llygad amdano yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012.
Dynion yn bennaf yw aelodau’r clwb ar hyn o bryd ond gyda gwell cyfleusterau, bydd y clwb yn gobeithio cynnal dosbarthiadau bocsarfer er mwyn annog mwy o ferched a genethod i fynychu’r clwb.
Mae unrhyw sefydliad sy’n ceisio cael mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn amlach – naill ai drwy sefydlu gweithgareddau newydd neu drwy godi’r safonau presennol – yn gymwys i wneud cais am gyllid gan CChC.
Meddai Pennaeth Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Gyda chyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Loteri Genedlaethol, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n helpu i drawsnewyd y tirlun chwaraeon yng Nghymru. Mae’r buddsoddiad sylweddol mewn chwaraeon, cyfleusterau, offer a hyfforddwyr cymunedol wedi cael effaith ar ein cymunedau ledled y wlad ac mae’n helpu i godi cyfraddau cymryd rhan yn gyffredinol."