GOLFFWYR CYMRU’N CIPIO SAFLEOEDD AR DAITH YR HER

18 Maw 2009

Gyda llai na dwy flynedd i fynd tan gystadleuaeth Cwpan Ryder 2010, mae Cwpan Ryder Cymru’n helpu i sicrhau bod chwaraewyr ifanc proffesiynol mwyaf dawnus Cymru’n cael budd, a heddiw mae wedi cyhoeddi’r 5 golffiwr a fydd yn cael chwarae ar Daith yr Her yn 2009, gan roi’r cyfle iddyn nhw gymhwyso ar gyfer y brif Daith.

2009 yw'r seithfed tymor yn olynol i Gwpan Ryder Cymru allu sicrhau gwahoddiadau i chwaraewyr Cymru gystadlu ar Daith yr Her mewn digwyddiadau ledled Ewrop, a dyfarnwyd gwahoddiadau i Rhys Davies, Tim Dykes, Mark Laskey, Matthew Griffiths a Craig Smith.RHYS DAVIES PRESS SHOT 2

Ers ennill y cais i groesawu Cwpan Ryder, mae rhaglen élite Cymru Cyngor Chwaraeon Cymru wedi cefnogi chwaraewyr proffesiynol ifanc dawnus yng Nghymru, ac mae llwyddo ar Daith yr Her wedi helpu nifer ohonyn nhw i ennill eu cardiau chwarae ar gyfer y Daith Ewropeaidd lawn, gan gynnwys Kyron Sullivan yn 2007 ac, yn fwyaf diweddar, Stuart Manley, a enillodd ei gerdyn llawn ar gyfer 2009.

Meddai John Jermine, Cadeirydd Cwpan Ryder Cymru: "Bydd hwn yn gyfle gwych i’n golffwyr ifanc mwyaf dawnus brofi eu hunain yn erbyn goreuon Ewrop, ac rydyn ni’n dymuno pob lwc iddyn nhw. Bydd llwyddiant yn agor y drysau iddyn nhw chwarae ar y brif Daith a dilyn ôl troed Ian Woosnam, Phil Price, Stephen Dodd a Bradley Dredge, sydd oll wedi bod yn llysgenhadon gwych i Gymru".

Dyfarnwyd y nifer fwyaf o wahoddiadau noddwyr i Rhys Davies o Ben-y-bont ar Ogwr a Tim Dykes o Wrecsam ar gyfer digwyddiadau Taith yr Her, yn ogystal â chystadleuaeth Her SWALEC Cymru a fydd yn cael ei chynnal yng Ngwesty a Chyrchfan Golff y Vale.

Chwaraeodd Davies, a gafodd yrfa amatur hynod lwyddiannus cyn troi’n chwaraewr proffesiynol ddiwedd 2007, ei dwrnamaint proffesiynol cyntaf yng Nghymru fis Mai diwethaf yng Nghystadleuaeth Agored Cymru y Celtic Manor, ac yna Her SWALEC Cymru lle cafodd y ffefryn lleol sgôr a oedd yn gyfartal â record y cwrs ar ail ddiwrnod y digwyddiad.

Yn ddiweddar, daeth y Cymro 23 oed yn boenus o agos at gipio’i bencampwriaeth broffesiynol gyntaf, ond disgynnodd dwy ergyd ar ei hôl hi yng Nghystadleuaeth Agored Singha Gwlad Thai. Fel rheol, byddai rowndiau rhyfeddol â sgoriau o 65-64-69-67 yn ddigon i ennill y twrnamaint oni bai am allu anhygoel Jyoti Randhawa o India, a orffennodd â sgôr o 65 i orffen ar 17 dan pâr am yr wythnos. Ar ôl i Davies orffen yn yr ail safle, gwnaeth y dyn o Ben-y-bont ar Ogwr symud i'r wythfed safle yn Nhrefn Teilyngdod y Daith Asiaidd gan ennill US$69,030.

Meddai Tim Dykes, chwaraewr rheolaidd ar dîm Rhyngwladol Cymru: "Mae gallu manteisio ar wahoddiadau i chwarae ar Daith yr Her o fudd mawr i golffwyr ifanc Cymru, ac yn gam pwysig ymlaen ar y ffordd i’r brig. Rydw i’n ddiolchgar i Gwpan Ryder Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru am eu cefnogaeth barhaus a’r cyfle gwych hwn i gystadlu ochr yn ochr â chwaraewyr o’r radd flaenaf mewn digwyddiadau Taith yr Her ledled Ewrop."

Mae Rhaglen élite Cymru hefyd yn cefnogi nifer o’r chwaraewyr sydd wedi cael gwahoddiad i gystadlu ar Daith yr Her. Rhaglen yw hon sy’n cael ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol ac sy’n cefnogi pum chwaraewr proffesiynol a phum chwaraewr amatur trwy ddarparu cefnogaeth gwyddor chwaraeon, cefnogaeth feddygol, cyngor ar yrfaoedd ac addysg, hyfforddiant, cymorth ariannol yn ogystal â mynediad at gyfleusterau hyfforddi o’r radd flaenaf.

Ymhlith y rhai sydd wedi cael budd o hyn yn y gorffennol mae’r Cymry Bradley Dredge, Stephen Dodd a Becky Brewerton. Mae Undeb Golff Cymru hefyd yn rhoi cefnogaeth i wyth chwaraewr golff ychwanegol trwy raglen Talent Cymru, a byddan nhw’n anelu at raddio i Élite Cymru.

Meddai Philip Carling, Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru: "Mae’r bartneriaeth rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru a Chwpan Ryder Cymru’n sicrhau bod golffwyr ifanc Cymru’n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gyrraedd y rhengoedd proffesiynol. Mae gan Gymru dras gref mewn golff a bydd y safleoedd hyn ar Daith yr Her yn datblygu uchelgeisiau sêr addawol y genedl."

Yn 2008, dyfarnwyd 24 gwahoddiad i 7 golffiwr proffesiynol o Gymru a chwaraeodd mewn 13 twrnamaint ledled Ewrop, gan ennill profiad hynod werthfawr o gystadlu'n rhyngwladol. Cafodd 20 chwaraewr golff arall o Gymru y cyfle i gystadlu yn nigwyddiad Her SWALEC Cymru yng Ngwesty a Chyrchfan Golff y Vale, ynghyd â 6 Amatur o Gymru a gafodd wahoddiad i’r digwyddiad hefyd.