ST JOSEPH YN CIPIO BUDDUGOLIAETH
17 Maw 2009
Derbyniodd Ysgol Gyfun St Joseph ym Mhort Talbot, a ddawnsiodd ei ffordd i fuddugoliaeth ym Mhencampwriaethau Dawnsio Stryd Ysgolion Uwchradd Cymru, ei gwobr am ennill – bws mini ar gyfer yr ysgol am 12 mis.
Allan o 54 o dimau’n cystadlu yn rownd derfynol y pencampwriaethau, o bob cwr o Gymru, cafodd St Joseph ei dewis fel yr enillydd cyffredinol yn y gystadleuaeth a gynhaliwyd yng Nghaerdydd fis Ionawr.
Ymunodd y Sefydliad Dawns Unedig gyda rhaglen 5x60 Llywodraeth Cynulliad Cymru – cynllun a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac sy’n ceisio cael disgyblion ysgolion uwchradd Cymru i fod yn fwy egnïol yn amlach – i weithredu cystadleuaeth ddawns broffesiynol ar gyfer y dawnswyr ifanc, dawnus.
Meddai Michelle Lewis, Swyddog 5x60 St Joseph a Swyddog y Gwasanaeth Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon (GGCCh) yn y Cyngor, "Rydym yn hynod falch o dderbyn y wobr hon. Bydd y bws mini o gymorth mawr gyda’r gweithgareddau allgyrsiol yn ogystal â’r cystadlaethau a’r gemau’n erbyn ysgolion eraill yn yr ardal.
"Mae’r gystadleuaeth hon ac ennill y pencampwriaethau wedi gwneud byd o wahaniaeth i hyder a hunan-gred y plant. Gweithiodd y criw dawnsio’n eithriadol galed ar eu dawns ac mae’r gwaith caled hwnnw wedi talu ar ei ganfed. Rydym eisoes yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf!"
Cynhaliwyd rowndiau rhanbarthol yn Abertawe, Caerdydd, Wrecsam a Chaerfyrddin fis Tachwedd a fis Rhagfyr a’r rownd derfynol fawreddog yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ddydd Sul 18 Ionawr. Roedd dau gategori oedran ar gyfer y timau, gyda blynyddoedd ysgol 7, 8 a 9 yn cystadlu mewn un grŵp oedran a blynyddoedd 10 ac 11 mewn un arall, ynghyd â chystadlaethau’r pedwarawdau hefyd ar gyfer pob categori oedran.
Meddai Cynghorydd yng Nghastell-nedd Port Talbot, Mike James, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol a Hamdden, "Mae’r Awdurdod Lleol yn hynod falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Chwaraeon Cymru ar y cynllun 5 x 60, gan ei fod yn darparu cyfle i’r plant i gyd ddatblygu eu hystwythder, eu cydbwysedd, eu cydsymudiad a’u sgiliau mewn amrywiaeth o weithgareddau o’u dewis hwy."
Meddai wedyn, "Mae’r Cyngor yn ymroddedig i wella iechyd a lles ledled y Fwrdeistref Sirol drwy ddarparu cyfleoedd i bobl o bob oedran fod yn fwy egnïol yn gorfforol."
Meddai Simon Dibley, PSG y Sefydliad Dawns Unedig, "Mae dawnsio stryd yn dod yn fwy a mwy poblogaidd, yn enwedig yn y byd addysg, felly dyma benderfynu cynnig cystadleuaeth ddawnsio gyffrous a phroffesiynol i fyfyrwyr ledled y wlad, er mwyn iddynt allu arddangos eu talentau. Rhagorodd St Joseph ar y diwrnod ac mae’n haeddu’r wobr ragorol."
Mae 5x60 yn darparu cymysgedd o weithgareddau i ddisgyblion. Y mwyaf poblogaidd ymhlith y merched yw dawns, sydd ar frig y tabl, ac mae pêl droed, ffitrwydd a chodi hwyl mewn gemau’n cael eu ffafrio hefyd. Yn y cyfamser, mae’r bechgyn yn tueddu i wyro tuag at bêl osgoi ond maent hefyd yn mwynhau camu ar y cae pêl droed a’r cwrt pêl fasged.
Meddai Philip Carling, Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru:
"Y nod sylfaenol yw annog y rhai nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon i fod yn egnïol. Pan mae disgyblion yn amharod i gymryd rhan, mae Swyddogion 5x60 wrth law i wrando ar eu pryderon ac i’w helpu i oresgyn unrhyw rwystrau.
Bydd y Sefydliad Dawns Unedig yn cynnal gweithdy dawns yn Abertawe ddydd Sadwrn 14 Mawrth ar gampws LC2 yn Abertawe rhwng 11am a 2pm. Bydd seren Britannia High ar y teledu, Marcquelle Ward, sy’n chwarae rhan ‘BB’ yn y sioe, yn bresennol ar y diwrnod hefyd.