CAERFYRDDIN – YN LLAWN SÊR Y BYD SAETHU
17 Maw 2009
Ers ei ffurfio naw mlynedd yn ôl, mae Clwb Targed Aer y Tair Sir yng Nghaerfyrddin wedi bod yn gwneud cynnydd sylweddol o ran cystadlaethau i’r anabl ac i bobl abl ac mae eisoes â’i lygad ar Gemau’r Gymanwlad y flwyddyn nesaf.
Mae gan y clwb, sy’n gartref enwog i saethwyr talentog, dri athletwr addawol tu hwnt – gyda’u llygaid ar y Gemau yn Delhi yn 2010.
Mae Danielle Jones, 18 oed o Lanllwni, wedi bod yn y clwb er pan oedd yn 10 oed ac mae eisoes wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad.
Meddai’r Hyfforddwr, John Kelman, "Mae gennym nifer fawr o unigolion talentog yma yn y clwb ac mae Danielle yn un o’n gobeithion mawr. Mae eisoes wedi ennill y sgôr cymhwyso y mae hi ei angen er mwyn mynd drwodd i gael ei dewis ar gyfer y Gemau Cymanwlad y flwyddyn nesaf a nawr y cyfan allwn ni ei wneud yw aros a disgwyl i weld a gaiff hi ei dewis."
Mae Jones yn derbyn cymorth gan gynllun Cefnogi Talent Cyngor Chwaraeon Cymru, a sefydlwyd er mwyn darparu cefnogaeth ariannol i ddynion a merched addawol y byd chwaraeon gyda chostau cystadlu, hyfforddi, offer a theithio.
Y ddwy arall y mae gobeithion mawr yn eu cylch ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yw Rachel Gravelle, 21 oed, o Drimsaran, sef Pencampwr Iau Cymru, yr Alban a Phrydain, a Nicola Wilson, 27 oed, o Gwmtwll, a enillodd fedal aur yng nghystadleuaeth Ffederasiwn Saethu’r Gymanwlad y llynedd.
Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, mae’r clwb wedi derbyn dau grant gan y Gist Gymunedol – cynllun grantiau’r Loteri Genedlaethol a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru, sy’n dathlu ei ben blwydd yn 10 oed eleni. Yn gyfanswm o £1,750, maent wedi bod o gymorth i gyllido datblygiad y clwb a’r offer angenrheidiol.
Mae’r clwb, sydd wedi’i leoli ar Faes y Sioe yng Nghaerfyrddin, wedi cael ei wobrwyo hefyd am ei ymdrechion yng Ngwobrau Chwaraeon Sir Gaerfyrddin, gan ennill gwobrau hyfforddwr a chwaraewr anabl y flwyddyn a dod yn ail yn nheitl chwaraewraig y flwyddyn – cyflawniad arbennig iawn gan un clwb. Hefyd mae gan y clwb ddyfarniad Clubmark Chwaraeon Anabledd Cymru.
Aeth gwobr y chwaraewr anabl i Eirian Griffiths, 50, o Feidrim. Meddai Kelman, "Dydi Eirian ddim yn gallu cerdded na siarad, mae ei ben yn symud yn barhaol ac nid oes ganddo reolaeth ar ei fraich dde. Fe wnes i addasu a chreu dyfais sy’n ei alluogi i weithredu’r offer gan ddefnyddio ei draed ac mae’n ysbrydoliaeth i bawb yma yn y clwb."
Un o’r sêr saethu eraill yw Vic Morris, 48, sy’n athletwr anabl o Lanbedr Pont Steffan wedi’i barlysu o’r gwddw i lawr. Dychwelodd yn ddiweddar o gystadleuaeth Rowndiau Terfynol Ysgol Bisley, Trelái, gyda medal aur.
Os oes gennych chi syniad ar gyfer cael mwy o bobl yn fwy egnïol yn amlach – fe allech sicrhau cymorth grant gan Gyngor Chwaraeon Cymru.
Mae prosiectau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn elwa o gynllun y Gist Gymunedol ers 1999.
O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.
Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.
Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.
Meddair Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Sir Gaerfyrddin. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.
""Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Sir Gaerfyrddin i fod yn fwy egnïol yn amlach."