JEHU YN DECHRAU GWEITHIO AR DOJO O SAFON BYD

11 Maw 2009

Mae’r cwmni adeiladu o Dde Cymru, Gwasanaethau Prosiect Jehu, yn mynd i ddarparu arena chwaraeon o safon y byd ar gyfer y rhai sy’n gobeithio ennill medalau yn y byd jiwdo.

Pan fydd wedi’i orffen, bydd Dojo Jiwdo Cenedlaethol AChC yn Athrofa Chwaraeon Cymru, Caerdydd, yn darparu cyfleusterau modern ar gyfer athletwyr elitaidd yn ystod y cyfnod yn arwain at Gemau Olympaidd 2012.

Mae’r gair dojo’n derm Siapaneaidd sy’n cyfeirio at ganolfan ymarfer a chystadlu ffurfiol ar gyfer chwaraeon ymladd.

Fel rhan o’r prosiect gwerth £1.1m, bydd Dojo Jiwdo Cenedlaethol yn cael ei adeiladu, yn ogystal â chanolfan gwyddoniaeth chwaraeon a meddygaeth chwaraeon cynhwysfawr ar yr ail lawr, o fudd i athletwyr mewn nifer o chwaraeon.

Meddai Ken Evans, rheolwr cytundebau Gwasanaethau Prosiect Jehu: "Mae hwn yn gytundeb pwysig i ni yma yn Jehu a bydd yn darparu cartref newydd sbon y gallant fod yn falch ohono i’r athletwyr sy’n gobeithio cipio medalau.

"Bydd yn gyfleuster cenedlaethol ar gyfer ymarfer a chystadlu a gyda’r Gemau Olympaidd ar y gorwel ymhen tair blynedd, bydd yn denu athletwyr elitaidd o bob cwr o Brydain."

Gobeithir cwblhau’r dojo fis Awst.

Meddai Philip Carling, Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru: "Mae’r datblygiadau hyn yn rhan o raglen hirdymor i sicrhau bod Athrofa Chwaraeon Cymru’n cael ei chydnabod fel canolfan perfformiad uchel yng Nghymru."

Meddai Hyfforddwr Jiwdo Cenedlaethol Cymru, Neil Adams MBE: "Er mwyn dod â thalent drwodd yn effeithiol, mae’n gwbl hanfodol bod gennym gyfleuster penodol ar gyfer jiwdo yng Nghymru. Hyn fydd yn gwneud y gwahaniaeth rhwng adran un ac adran dau ac rydym angen y cyfleusterau i’n helpu i gyrraedd y llwyfan uwch.

"Bydd cael dojo yng Nghymru’n darparu i Jiwdo Cymru a’i aelodau hunaniaeth a’r gallu i lwyddo. Rwy’n hynod falch bod y gwaith ar droed – bydd y cyfleuster newydd yn rhoi cyfle i dalent ifanc newydd wneud defnydd priodol o’r strwythur hyfforddi rhagorol sydd gennym eisoes yma yng Nghymru."

Mae gan Jehu fwy na 70 mlynedd o brofiad yn adeiladu yng Nghymru, mewn sectorau amrywiol, o adwerthu a hamdden, preswyl, gofal iechyd ac addysg i’r sector masnachol a diwydiannol. Gyda swyddfeydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Hwlffordd, mae Jehu yn rhagweld trosiant o fwy na £40m yn 2008-9 tra bo’r Cyfarwyddwr Rheoli, Marc Jehu, wedi’i gyhoeddi’n enillydd Contractwr Adeiladu y Flwyddyn yng Ngwobrau 2008 People in Property Cymru.

Meddai Marc Jehu, Cyfarwyddwr Rheoli a chyd-sylfaenydd Gwasanaethau Prosiect Jehu: "Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus i Wasanaethau Prosiect Jehu. Er gwaetha’r amodau anodd yn y farchnad, mae gennym lyfr archebion cryf gyda nifer o gytundebau newydd wedi’u dyfarnu i ni ac rydym yn dechrau gweithio ar sawl safle newydd ymhen ychydig fisoedd.

"Mae ein maes arbenigedd yn amrywiol ar draws amrediad o sectorau ac rydym yn credu mai dyma un o’r rhesymau dros ein llwyddiant. Rydym yn gwmni gyda gwreiddiau cryf yng Nghymru ers saith degawd ac edrychwn ymlaen at ddal ati i dyfu yn ystod y flwyddyn sydd i ddod."