FITZALAN YN CYNHYRFU’R DYFROEDD
12 Maw 2009
Mae nofwyr a’r rhai sy’n mwynhau gweithgareddau ffitrwydd yng Nghaerdydd ar fin elwa o waith adnewyddu gwerth £300,000 ar gyfleusterau Ysgol Uwchradd Fitzalan.
Mae Pwll Nofio Peter Perkin, sydd wedi’i enwi er cof am gyn-gadeirydd y llywodraethwyr, wedi agor ei ddrysau’n swyddogol, ac nid dim ond i’r disgyblion. Anogir aelodau’r gymuned i fanteisio ar y cyfleuster ar garreg eu drws hefyd – unwaith mae’r gloch yn canu ar ddiwedd y diwrnod ysgol.
Yn ogystal â’r pwll nofio 20m, mae’r fenter ar y cyd rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru, tîm Cymunedau Egnïol Cyngor Sir Caerdydd ac Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi trawsnewid ystafell ddosbarth segur i fod yn ystafell ffirtrwydd ac yn gyfleuster aml-gymnasteg, mewn ymgais i ddarparu cyfleoedd gweithgarwch corfforol i’r boblogaeth aml-ddiwylliannol o ddisgyblion ysgol, sydd dros 1500 mewn nifer, gan weithio gyda phobl ieuainc anystywallt yn yr ardal, annog Cymunedau Duon a Lleiafrifoedd Ethnig a’r genhedlaeth hŷn i ddefnyddio’r cyfleusterau ffitrwydd a chynyddu’r cyfleoedd nofio i grwpiau anabl.
Mae’r ystafell ffitrwydd a’r gym yn cynnwys offer fel melinau cerdded, peiriannau croes-ymarfer, beiciau ymarfer a man pwysau rhydd.
Meddai Mrs Bradshaw, Pennaeth Ysgol Uwchradd Fitzalan, am fanteision y cyfleusterau newydd:
"Mae agor y pwll nofio newydd yn achlysur pwysig i’r ysgol. Nid yn unig bydd yn darparu adnodd gwerthfawr i ddisgyblion yr ysgol, ond hefyd i ddisgyblion yr ysgolion cynradd lleol a grwpiau o’r gymuned leol, a all elwa o’r gwaith adnewyddu. Hefyd, bydd y cyfleuster newydd yn cefnogi’r rhaglen 5x60 yn yr ysgol ac yn galluogi i amrywiaeth cynyddol o weithgareddau gael eu cynnal, fel caiacio a pholo dŵr."
5x60 yw rhaglen Llywodraeth Cynulliad Cymru – a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru ac a weithredir yn lleol gan Gyngor Sir Caerdydd – a’i nod yw cael y disgyblion uwchradd nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden gorfforol i fod yn fwy egnïol yn amlach.
Ers lansio’r cynllun yn Ysgol Uwchradd Fitzalan ym mis Medi 2007, mae mwy na 940 o fechgyn a genethod wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau 5x60 allgyrsiol, yn cynnwys pêl droed, hoci a gweithgareddau llai traddodiadol fel dawnsio stryd a phêl fâs.
Roedd llu o wahoddedigion, yn cynnwys Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Kate Lloyd, a Chadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling, yn bresennol i fod yn dyst i agoriad yr ychwanegiad diweddaraf at dirlun chwaraeon Caerdydd.
Meddai Philip Carling am fuddsoddiad gwerth £100,000 y Loteri Genedlaethol gan Gyngor Chwaraeon Cymru:
"Bydd y datblygiad hwn o fudd enfawr i’r gymuned leol ac i’r ddinas yn gyffredinol. Dylai pob person ifanc gael cyfle i nofio ac rwy’n hyderus y bydd cael cyfleuster newydd ar garreg eu drws yn cymell yr hen a’r ifanc.
"Pwll Nofio Peter Perkin yw’r diweddaraf mewn cyfres hir o brosiectau sydd wedi’u datblygu ledled y ddinas ac mae’n rhaid i ni ddal ati i gydweithio gyda Chyngor Sir Caerdydd a Chwaraeon Caerdydd er mwyn gwneud yn fawr o botensial y ddinas i greu cenedl iachach."
Yn ystod y tair blynedd diwethaf, gwelwyd newid mawr yn y byd chwaraeon yn Ysgol Uwchradd Fitzalan gyda Chanolfan Gôl, canolfan gwerth £1.25m, yn cael ei hadeiladu ar draws y ffordd ym mis Ionawr 2006 – y cyfleuster pêl droed pwrpasol cyntaf yng Nghymru. Yn fuan wedyn, ym mis Hydref 2006, codwyd neuadd chwaraeon tri chwrt a chyfleusterau newid gyda chyllid gan NoF a chafodd wal ddringo dan do 8x7m ei chynnwys hefyd.
Am wybodaeth bellach am ddefnyddio cyfleusterau Ysgol Uwchradd Fitzalan, cysylltwch â’r ysgol ar 029 2023 2850.