IEUENCTID TREFYNWY’N MYND YR AIL FILLTIR
12 Maw 2009
Mae disgyblion Ysgol Gyfun Trefynwy’n cymryd yr awennau gydag ychydig o gymorth gan ddau reidiwr byd-enwog, Matt a Marie Ryan, a Chanolfan Farchogaeth Redbrook.
Mae Academi Farchogaeth wedi cael ei sefydlu yn yr ysgol ar y cyd â chynllun 5x60 Llywodraeth Cynulliad Cymru, a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru ac a weithredir yn lleol gan Gyngor Sir Fynwy, mewn ymgais i gael disgyblion uwchradd i gymryd rhan mewn hamdden gorfforol yn amlach.
Fel rhan o strwythur academi’r ysgol, sy’n darparu dysgu o safon ar ôl ysgol i fyfyrwyr yr ysgol, mae’r reidwyr ieuainc yn cael cynnig cyfle i gymryd rhan mewn gwersi marchogaeth bob yn ail wythnos, neu hyfforddiant ar eu ceffylau eu hunain gyda Matt a Marie Ryan, gyda’r wythnosau yn y canol yn cael eu treulio yn yr ystafell ddosbarth yn dysgu am sylfeini gofalu am geffyl gan ddefnyddio siaradwyr gwadd a gweithgareddau.
Meddai Hayley Howells o Ysgol Farchogaeth Redbrook:
"Nod yr academi farchogaeth yw cefnogi a datblygu myfyrwyr sy’n ceisio ennill mwy o brofiad marchogol neu adeiladu ar yrfa tra’n parhau gyda’u haddysg. Ceir amrywiaeth o geffylau a merlod yn yr ysgol farchogaeth, yn addas i bob gallu, a darperir system resymegol a chynyddol o hyfforddiant i roi cerrig camu realistig i’r myfyrwyr, i gyflawni eu nodau marchogaeth yn y cyfrwy ac ar y tir."
Credir mai hwn yw’r cynllun cyntaf o’i fath mewn ysgol wladwriaeth yn y DG ac mae’r academi hefyd yn cynnig cyfle i’r myfyrwyr ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol mewn marchogaeth a gofalu am stablau, i wella eu cyfleoedd i ddilyn gyrfaoedd yn y byd marchogaeth neu mewn meysydd cysylltiedig wedi gadael yr ysgol.
Yn Hyfforddwyr Ymgynghorol yn yr academi, mae Matt a Marie Ryan yn helpu i ddatblygu’r academi’n sylweddol drwy ddarparu i’r myfyrwyr hyfforddiant, darlithoedd ac ymweliadau â’u canolfan i’w gwylio’n hyfforddi, a cheir cyfleoedd i gwrdd â’u noddwyr ac i ddatblygu cysylltiadau.
Mae Matt Ryan yn reidiwr cystadleuaeth o safon byd sydd, ymhlith ei gyflawniadau eraill, wedi ennill tri Medal Aur Olympaidd ar gyfer Tîm Cystadlu Awstralia yn Barcelona ac yn Sydney. Mae Marie yn reidiwr cystadleuaeth rhyngwladol ac mae wedi cystadlu ar lefel 3 a 4 * mewn badminton a burghley. Maent yn byw yn awr, ac yn cystadlu o’u canolfan ger Y Fenni.
Meddai Matt Ryan:
"Rydym yn hynod falch o allu cefnogi’r fenter gyffrous hon. Rydym wrth ein boddau’n byw ac yn gweithio yn Sir Fynwy ac mae’n rhoi cyfle i ni roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned drwy gyfrwng ein camp."
Mae’r Swyddog 5x60, Adrian Sully, wedi gweithio gyda’r ysgol er mwyn darparu hyfforddiant ac addysg o’r safon uchaf drwy gyfrwng academïau fel hon ac mae’n cynnig sylwadau am ei llwyddiant hyd yma:
"Mae’r rhaglen 5x60 wedi ein galluogi i ddarparu cyfleoedd mentrus a chyffrous ar gyfer y myfyrwyr, i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol y tu hwnt i ffiniau arferol chwaraeon ysgol ac mae’r Academi Farchogaeth eisoes wedi profi’n llwyddiant mawr. Mae gennym nifer o fyfyrwyr yn mynychu sesiynau rheolaidd eisoes ac rwy’n rhagweld y bydd y galw’n cynyddu wrth i’r academi ddatblygu."
Mae 5x60 yn darparu cymysgedd o gyfleoedd i’r disgyblion ac ers lansio’r cynllun gwerth £7.6 miliwn fis Hydref 2006, mae wedi trawsnewid y caeau chwarae a’r neuaddau chwaraeon mewn 98% o ysgolion uwchradd ledled y wlad yn fwrlwm o weithgarwch.
Meddai Philip Carling, Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru:
"Y nod sylfaenol yw annog y rhai nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon i fod yn egnïol. Pan mae disgyblion yn amharod i gymryd rhan, mae Swyddogion 5x60 wrth law i wrando ar eu pryderon ac i’w helpu i oresgyn unrhyw rwystrau.
"Mae’r gweithgareddau’n flaengar ac maent yn cael croeso brwd gan y bobl ieuainc eu hunain. Mae hyn yn braf iawn gan mai’r nod hirdymor yw eu hannog i ddal ati i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol fel oedolion."
Meddai aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy dros chwaraeon, y Cynghorydd Liz Hacket Pain:
"Mae hyn yn newyddion da. Mae’n gyfle arbennig o dda i bobl ieuainc gadw’n heini a dysgu sgiliau a phrofiad gwerthfawr tra’n mwynhau eu hunain."
Dywedodd Sue Pritchard, rhieni i dri o blant yn Ysgol Gyfun Trefynwy sydd i gyd yn frwd ynghylch marchogaeth ac a fu’n gyfrifol am sefydlu’r academi gyda Hayley Howells yn Redbrook ac sy’n parhau i’w gweithredu gyda hi:
"Ein nod yma oedd darparu rhaglen a oedd yn gyffrous ac yn fuddiol, ar gyfer y rhai sy’n awyddus i ddechrau marchogaeth a’r rhai sydd eisoes yn ymarfer a chystadlu yn y maes. Gyda’r gwersi yn Redbrook a’r hyfforddiant gyda’r reidwyr o safon byd, Matt a Marie, rydym yn teimlo ein bod wedi llwyddo i gyflawni hynny."