TÎM PÊL RWYD DAN 17 CYMRU AR Y FFORDD I BENCAMPWRIAETHAU EWROP
4 Maw 2009
Mae deuddeg o ferched wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru yn y tîm pêl rwyd dan 17 oed ym Mhencampwriaethau D17 Ewrop yn Gibraltar y penwythnos yma, wedi cael cymorth ar hyd y ffordd – neu’r cledrau o bosibl - gan Drenau Arriva Cymru.
Mae pedair merch o Ogledd Cymru wedi cael eu noddi gan Drenau Arriva Cymru er mwyn eu helpu gyda’u costau teithio i Gaerdydd ar gyfer sesiynau sgwad rheolaidd i baratoi ar gyfer y Pencampwriaethau.
Y mis diwethaf, bu’r tîm yn ymarfer yng Ngogledd Cymru, fel rhan o ymrwymiad Pêl Rwyd Cymru i ddatblygu chwaraeon elitaidd yng Ngogledd Cymru, a daeth Trenau Arriva Cymru i’r adwy unwaith eto, gan ddarparu tocynnau ar gyfer chwaraewyr De Cymru, i deithio i’r Gogledd.
Meddai Geraint Morgan, rheolwr materion cymunedol Trenau Arriva Cymru:
"Gall y merched deimlo’n hynod falch o’u cyflawniad wedi cael eu dewis ar gyfer y tîm cenedlaethol. Rydym yn hynod falch o allu eu cefnogi gyda’u trefniadau teithio a rhoi’r cyfle gorau posibl iddynt gyrraedd eu nod."
Meddai’r Ymosodwr Gôl o’r Wyddgrug, Bethan Barker, sydd wedi bod yn un o gymudwyr rheolaidd Arriva:
"Ni chefais fy newis ar gyfer y sgwad terfynol y llynedd ac felly rwyf wrth fy modd yn cael fy newis eleni. Mae’n anrhydedd chwarae dros fy ngwlad, yn rhywbeth yr wyf wedi bod eisiau ei wneud ers i mi ddechrau chwarae pêl rwyd."
Cynhelir Pencampwriaethau Pêl Rwyd D17 Ewrop 2009 y penwythnos hwn, rhwng dydd Gwener a dydd Sul. Rhennir y gystadleuaeth yn ddwy adran eleni, gyda Chymru wedi’i lleoli yn Adran Un, yn erbyn y gwledydd cartref eraill; Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Y timau yn Adran Dau yw Malta, Gibraltar a Gweriniaeth Iwerddon.
Yn 2008, daeth Cymru’n ail i Loegr, gan drechu Gogledd Iwerddon a chael gêm gyfartal yn erbyn yr Alban ar hyd y ffordd. Felly mae’r tîm yn gobeithio mynd gam ymhellach eleni a dod â’r tlws adref gyda nhw.
Fe aeth y deuddeg chwaraewr, yr hyfforddwyr a’r staff cefnogi allan i Gibraltar mewn awyren ddydd Mercher, i baratoi ar gyfer eu gêm gyntaf yn erbyn Gogledd Iwerddon ddydd Gwener.