IEUENCTID YN SGLEFRIO GYDA’R DIAFOL!
2 Maw 2009
Wrth i Gymru weld yr eira mwyaf ers 20 mlynedd, bydd ieuenctid Caerdydd wedi’u paratoi’n dda ar gyfer y tywydd rhewllyd gwaethaf, gyda menter newydd, ‘Devils yn y Gymuned’, yn cynyddu’r cyfleoedd iddynt roi cynnig ar sglefrio.
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru a HSBC wedi ymuno â’i gilydd drwy gyfrwng Sportsmatch Cymru – cynllun denu nawdd gan fusnes Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer chwaraeon yng Nghymru – i gyfrannu £20,000 tuag at Glwb Hoci Iâ Devils Caerdydd.
Bydd y pecyn cyllido ar y cyd, £10,000 gan bob sefydliad, yn cael ei roi tuag at gyflwyno cwrs 20 wythnos o sesiynau blasu hoci mewnlinell / pêl gyda naw ysgol uwchradd ledled y ddinas, gyda’r bwriad o greu digon o ddiddordeb yn y gamp ymhlith yr ieuenctid er mwyn sefydlu hyd at naw clwb hoci newydd.
Bydd ail gam y prosiect yn ehangu’r cynnig ymhellach gyda sesiynau hyfforddi wythnosol yn cael eu cynnal mewn cyfleusterau hamdden lleol amrywiol – i gyd yn agos at yr ysgolion – gyda’r bwriad o’u defnyddio fel sylfaen ar gyfer clybiau yn y dyfodol.
Meddai Brent Pope, cyn-chwaraewr gyda Devils Caerdydd a Phennaeth Rhaglen Gymunedol y Devils:
"Drwy gyfrwng Mudiad Cymunedol y Devils, rydym yn gweithio’n galed i adeiladu ar y poblogrwydd presennol a’r diddordeb mewn hoci iâ yng Nghaerdydd. Ceir nifer o glybiau Hoci Mewnlinell wedi’u sefydlu eisoes ac yn bodoli ledled De Cymru ac rydym yn hyderus y bydd ein rhaglen Devils yn y Gymuned yn parhau i godi proffil a chynyddu cyfranogiad yn ein camp yng Nghaerdydd yn ddramatig."
Nod y rhaglen 5x60, a weinyddir gan Gyngor Chwaraeon Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru ac a reolir yn lleol gan Chwaraeon Caerdydd, yw cael disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru i fod yn fwy egnïol yn amlach a bydd yn hwyluso’r fenter drwy gyfrwng yr Adran Pobl Ieuainc Egnïol a’r Swyddogion 5x60 sy’n gweithio yn yr ysgolion a dargedir.
Meddai’r Cynghorydd Howells, Aelod Gweithredol dros Chwaraeon, Diwylliant a’r Parciau:
"Mae’r rhaglen hon yn rhan gyffrous o’n statws fel Dinas Ewropeaidd i Chwaraeon yn 2009 ac rydym wrth ein bodd yn cael cyfle i weithio mewn partneriaeth â’r Devils er mwyn mynd â hoci allan o’r rinc iâ ac i’n hysgolion a’n cymunedau lleol. Bydd ein partneriaeth yn helpu gobeithio i godi proffil y Devils, a chynyddu nifer eu chwaraewyr, wrth iddynt wneud eu ffordd yn ôl i rengoedd uchaf hoci iâ yn y DG."
Meddai John Lloyd-Jones, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus Rhanbarthol yr HSBC yng Nghymru, am eu cyfraniad:
"Rydym yn hynod falch o allu cyfrannu at fenter mor bwysig. Mae HSBC yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o gefnogi’r gymuned – yn enwedig pan mae’n cynnwys annog pobl ieuainc i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol."
Diben Sportsmatch Cymru yw annog mwy o gefnogaeth gan fusnesau i chwaraeon ar lefel gyffredin drwy gyfateb nawdd newydd neu ychwanegol. Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Gyda chyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Loteri Genedlaethol, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n helpu i drawsnewid y tirlun chwaraeon yng Nghymru. Mae’r buddsoddiad sylweddol mewn chwaraeon, cyfleusterau, offer a hyfforddwyr cymunedol wedi cael effaith ar gymunedau ledled y wlad hon ac mae’n helpu i gynyddu cyfranogiad yn gyffredinol.
"Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau dusglair a fydd o gymorth i ni gyflawni ein nod o gael mwy o bobl yng Nghymru’n fwy egnïol yn amlach."