YSGOLION CYNRADD SIR Y FFLINT YN GWNEUD YN DDA MEWN CYSTADLEUAETH ATHLETAU DAN DO DERFYNOL

26 Chwef 2009

Bu ysgolion cynradd Sir y Fflint yn rheoli yn ystod Cystadleuaeth Derfynol Campau’r Ddraig yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, a gynhaliwyd yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy ddydd Gwener 30 Ionawr.

Roedd dwy ysgol yn cynrychioli Sir y Fflint yn y rownd derfynol; Ewloe Green, a aeth ymlaen i ennill rownd derfynol yr ysgolion mawr, ac Ysgol Derwenfa, Leeswood, a ddaeth yn ail parchus yn rownd derfynol yr ysgolion bach.

Roedd y ddwy ysgol wedi cymhwyso o rowndiau rhanbarthol, cyn cynrychioli eu hardaloedd yn Rownd Derfynol Sir y Fflint i sicrhau’r hawl i gystadlu’n erbyn timau o Wrecsam, Sir Ddinbych a Gogledd Powys yng Nghystadleuaeth Derfynol Gogledd Ddwyrain Cymru.

Yn ôl Sportshall Athletics, Gogledd Ddwyrain Cymru yw’r unig ardal yng Nghymru i gynnal y math yma o achlysur, sy’n galw ar i ysgolion gymhwyso drwy rowndiau sirol.

Meddai’r Swyddog Pobl Ieuainc Egnïol, Ceri Shakespeare,

"Roedd Cystadleuaeth Derfynol Athletau Dan Do Campau’r Ddraig eleni yn Sir y Fflint yn un rhagorol. O’r dechrau un, roedd 40 ysgol gynradd yn cymryd rhan, o bob cwr o’r sir, gan gystadlu yn y gwyliau rhanbarthol a gynhaliwyd fis Tachwedd. Yna cynhaliwyd Cystadleuaeth Derfynol Sirol i benderfynu pa dimau fyddai’n cynrychioli Sir y Fflint yn Rownd Derfynol Gogledd Ddwyrain Cymru.

"Mae’r holl ysgolion sydd wedi cystadlu yn y digwyddiadau wedi croesawu ethos Campau’r Ddraig o chwarae teg a mwynhad ac mae’r plant i gyd wedi gweithio’n galed er mwyn gwella eu perfformiad ym mhob cystadleuaeth. Mae canlyniadau Rownd Derfynol Gogledd Ddwyrain Cymru’n gyflawniad nodedig iawn i ysgolion Sir y Fflint ac rydym yn gobeithio y bydd y brwdfrydedd ynghylch Athletau Dan Do’n parhau am flynyddoedd i ddod."

Mae cynllun Campau’r Ddraig, a ariennir gan y Loteri – ymgyrch fwyaf Cymru i gael plant ysgolion cynradd i fwynhau chwaraeon y tu allan i oriau ysgol – yn helpu i ddenu mwy o blant at chwaraeon a chynyddu lefelau gweithgarwch.

Yn ei lansiad fis Hydref 2000, dywedwyd mai’r cynllun oedd yr ymgyrch recriwtio fwyaf erioed i chwaraeon Cymru – ac mae wedi gwneud yn llawer gwell na’r disgwyl, gyda 93% o ysgolion cynradd yng Ngogledd Cymru’n cymryd rhan yn awr yn y cynllun, sy’n cyfateb i bron i 46,000 o blant yn bod yn egnïol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae 16,000 o blant ychwanegol wedi cymryd rhan yng Nghampau’r Ddraig, diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol.

Un o brif amcanion Campau’r Ddraig yw recriwtio a hyfforddi trefnyddion, arweinwyr a hyfforddwyr chwaraeon gwirfoddol i dreulio amser yn cyflwyno ieuenctid i chwaraeon fel rygbi, tenis a hoci – yn enwedig rhieni ac athrawon, sef y gwir arbenigwyr ar gael plant i gamu ar gae chwarae.

Os ydych eisiau gwybod mwy am Gampau’r Ddraig yn eich ardal chi, cysylltwch â’ch awdurdod lleol, holwch Gydlynydd Campau’r Ddraig yn eich ardal chi neu ewch i www.campau-draig.co.uk.