IEUENCTID BWCLE’N POENI DIM AM SYMUD I’R YSGOL UWCHRADD

26 Chwef 2009

Nid yw disgyblion o ysgolion cynradd ym Mwcle’n poeni dim am symud i’r ysgol uwchradd, diolch i fenter griced arbennig iawn.

Bu hanner cant o blant rhwng saith a naw oed o ysgolion cynradd Mountain Lane, Southdown, Westwood a Drury yn cymryd rhan mewn gemau criced yn Ysgol Uwchradd Elfed, i’w helpu i ddysgu mwy am eu hysgol newydd cyn symud i fyny i dderbyn addysg uwchradd. Dywedodd yr ysgolion cynradd ym Mwcle mai criced oedd y gamp yr hoffent ei datblygu fwyaf ymhlith y disgyblion a chafwyd syniad gwerth chweil o roi hwb i hyder y rhai’n symud i fyny i’r ysgol uwchradd ar yr un pryd.

Dan arweiniad rhaglen 5x60* Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r fenter a ariennir gan y loteri, Campau’r Ddraig**, arweinir y gemau gan wirfoddolwyr o’r chweched dosbarth sy’n dysgu’r disgyblion i ddal, maesu a batio – elfennau allweddol o’r gamp. Amcan y sesiynau yw annog plant i fod yn fwy egnïol yn gorfforol a phrofi gweithgareddau newydd mewn amgylchedd dysgu hwyliog a diogel, yn ogystal â helpu i ddatblygu’r adran Dan 9 oed yng Nghlwb Criced Bwcle.

Datblygwyd y sesiynau, a arweiniwyd gan y Swyddog 5x60, Gordon Rodger, o Uned Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth â Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (BCCLl), gwirfoddolwyr o Brifysgol Glyndŵr a myfyrwyr Chweched Dosbarth a staff Ysgol Uwchradd Elfed.

Meddai Gordon: "Gellir gweld manteision y prosiect yn yr holl sesiynau, gan fod y plant yn egnïol yn gorfforol, yn rhyngweithio gyda phlant o ysgolion eraill ac yn ehangu lefel eu medrusrwydd mewn chwaraeon. Hefyd, mae’r profiad mae’r gwirfoddolwyr yn ei gael yn amhrisiadwy a gwerthfawrogir eu gwaith yn fawr gan staff yr ysgol uwchradd a chan yr Uned Datblygu Chwaraeon."

Meddai Alicia Evans, gwirfoddolwraig o’r chweched dosbarth: "Rwyf wir wedi mwynhau gweithio gyda’r disgyblion cynradd. Mae wedi bod yn her newydd i mi ac rwyf wrth fy modd yn cael profiad o weithio gyda phlant."

Meddai Adam Wosey, 7, o Ysgol Mountain Lane: "Rwyf wedi mwynhau chwarae criced yn Elfed yn fawr iawn. Rwyf wedi dysgu sut i fowlio, batio a maesu. Mae’r hyfforddwyr wedi gwneud y sesiynau’n llawer o hwyl."

Nod y rhaglen 5x60 yw cael disgyblion uwchradd yng Nghymru – yn enwedig y disgyblion nad ydynt yn cymryd rhan fel rheol – i fod yn fwy egnïol yn amlach. Mae wedi profi’n eithriadol boblogaidd gyda 99% o ysgolion Gogledd Cymru’n cynnig 34 o wahanol weithgareddau, yn cynnwys dawns, pêl osgoi a chodi hwyl mewn gemau, i fwy na 10,000 o ieuenctid ar draws y rhanbarth.

Mae’r rhaglen wedi cael ei hyrwyddo gan un a enillodd fedal arian Olympaidd, David Davies, gan Stuart Cable a chan gyflwynydd Hip Neu Sgip, Alex Jones.

Am wybodaeth bellach, ewch i’r wefan yn www.5x60.org.uk.