ARWEINYDD AWYDDUS SIR Y FFLINT YN DERBYN TEITL PWYSIG
26 Chwef 2009
Mae Gordon Rodger, y Swyddog 5x60 ar gyfer Ysgol Argoed ac Ysgol Elfed, wedi cael ei enwi fel Swyddog y Mis am ei ymdrechion i gael pobl ieuainc i fod yn heini ac yn egnïol.
Yn derbyn y teitl anrhydeddus ar gyfer mis Mawrth, dim ond un yw Rodger o blith y llu o arweinwyr sydd wedi’u recriwtio gan gynllun 5x60 Llywodraeth Cynulliad Cymru, a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru ac a gefnogir yn lleol gan Gyngor Sir y Fflint. Ei ddiben yw cael mwy o ddisgyblion uwchradd i gymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.
Mae’r gŵr 22 oed o Benarlâg, sydd â gradd mewn Astudiaethau Chwaraeon a Datblygiad Chwaraeon o Brifysgol Lancaster, wedi bod yn y swydd ers mis Medi 2008 ac mae’n amlwg ei fod wedi cael effaith aruthrol mewn cyfnod byr.
Mae wedi llwyddo i gynyddu’r lefelau cymryd rhan ymhlith y bechgyn a’r genethod yn y ddwy ysgol drwy ddarparu amrywiaeth o weithgareddau, gyda phêl osgoi, dawnsio stryd a badminton yn profi fwyaf poblogaidd. Ymhlith ei lwyddiannau mae datblygu rhaglen arweinwyr iau, yn annog disgyblion hŷn i helpu gyda’r hyfforddi, a chynnwys yr ysgolion cynradd sy’n bwydo mewn nifer o brosiectau, fel criced a thenis.
Nod sylfaenol 5x60 yw annog y rhai nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon i fod yn egnïol. Pan mae disgyblion yn amharod i gymryd rhan, mae Swyddogion 5x60 wrth law i wrando ar eu pryderon ac i’w helpu i oresgyn unrhyw rwystrau.
Meddai Rodger, "Fy nghyflawniadau gyda 5x60 hyd yma yw’r nifer fawr o weithgareddau sy’n weithredol yn y ddwy ysgol, a mwy o blant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
"Rwyf wedi creu mwy o ymwybyddiaeth o’r cynllun ac o weithgareddau llai traddodiadol, ac wedi gweld cynnydd yn y gweithgarwch corfforol oddi mewn i amgylchedd yr ysgol a’r tu allan iddo.
"Yr hyn rwy’n ei fwynhau fwyaf am fod yn Swyddog 5x60 yw cynnal gweithgareddau newydd ar gyfer y plant a’u gweld i gyd yn mynychu! Mae’n rhoi llawer o foddhad i mi, gallu diwallu anghenion y bobl ieuainc yn yr ysgolion."
Meddai Pennaeth AG Ysgol Uwchradd Argoed, Mr Smith, "Mae’r amrywiaeth o weithgareddau a gynigir gan 5x60 yn wych; mae’r plant wrth eu boddau ac yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd. Mae’n gwbl ardderchog bod 5x60 yn cynnig cymysgedd o weithgareddau traddodiadol a’r rhai llai traddodiadol."
Meddai Matthew Davies, disgybl ym mlwyddyn 9 yn Ysgol Argoed, "Mae Mr Rodger wedi darparu llu o weithgareddau, ac wedi eu gwneud yn hwyl hefyd."
Meddai Pennaeth AG Ysgol Uwchradd Elfed, Mrs Woolgar, "Ymunodd Gordon â’r staff AG ac mae wedi bod yn gweithio’n galed er mwyn cynnig gweithgareddau newydd ac eisoes mae ganddo berthynas dda gyda’r ysgol gyfan ac mae pawb yn gefnogol i 5x60."
Meddai gwirfoddolwr yn y chweched dosbarth yn Ysgol Elfed, Alicia Evans, ''Mae Mr Rodger yn Swyddog 5x60 gwych ac yn frwdfrydig tu hwnt. Rwyf wedi bod yn helpu gyda’r clybiau chwaraeon yn Elfed ers mis Medi ac mae hynny wedi rhoi llawer o foddhad i mi. Mae Mr Rodger wedi rhoi llawer o gymorth i mi!''
Mae’r ffigyrau diweddaraf yn datgelu bod niferoedd cynyddol o ieuenctid ledled Cymru’n estyn am eu hesgidiau ymarfer er mwyn cymryd rhan yn 5x60. Mae’r rhaglen wedi cael ei hyrwyddo gan un a enillodd fedal arian Olympaidd, David Davies, gan Stuart Cable a chan gyflwynydd Hip Neu Sgip, Alex Jones.
Gwahoddir disgyblion i fynd i www.5x60.org.uk ac enwebu eu swyddog.