GOLAU, CAMERA, ACTION! YN YSGOLION RhCT
26 Chwef 2009
Mae disgyblion ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf yn gweithredu fel cyflwynwyr, pobl camera, clepwyr byrddau ac, wrth gwrs, sêr y sioe, diolch i fenter ar y cyd rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru a Media4Schools.
Fel rhan o raglen 5x60 Llywodraeth Cynulliad Cymru – cynllun a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru ac sy’n ceisio cael disgyblion uwchradd yng Nghymru i fod yn fwy egnïol yn amlach – mae ieuenctid o chwe ysgol ar draws y sir wedi cael cyfle i roi cynnig ar weithgareddau cynhyrchu cyfryngol – gyda ffocws ar chwaraeon.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Sefydlwyd y prosiect peilot hwn yn RhCT ddechrau tymor yr hydref ac rydym eisoes wedi gwneud cynnydd mawr gyda gweld rhai o’r erthyglau gorffenedig. Y bwriad drwy ymuno â Media4Schools i weithio ar y cyd yw annog mwy o ddisgyblion ledled Cymru i gymryd rhan yng nghlybiau gweithgarwch 5x60, sy’n cael eu gweithredu mewn ysgolion, drwy gynhyrchu nifer o ffilmiau byr yn tynnu sylw at y manteision o fod yn egnïol yn gorfforol ac o gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon.
"Mae’r ffilmiau byr sy’n cael eu cynhyrchu gan bobl ieuainc RhCT ar gyfer pobl ieuainc ledled Cymru, gyda’r ffilmiau gorffenedig yn darparu cynnwys ar gyfer gwefan 5x60. Mae amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys pêl droed merched, caiacio, polo dŵr, sgïo a beicio mynydd, wedi bod yn bynciau yn y ffilmio. "
Mae Media4Schools, menter gyfryngol alwedigaethol ei ffurf sy’n cyflwyno cyfuniad o gynyrchiadau a mentrau rhaglenni teledu ar gyfer ysgolion, yn arwain y ffordd yn y prosiect ac mae wedi bod yn cefnogi’r ieuenctid sy’n cymryd rhan i wneud eu ffilmiau eu hunain.
Meddai Jenny Harris, Rheolwr Cynhyrchu gyda Media4Schools:
"Mae disgyblion ac athrawon yn cael eu hyfforddi mewn sgiliau a thechnegau cynhyrchu’r cyfryngau ac yna maent yn cael eu cefnogi a’u mentora’n barhaus i gynhyrchu amrywiaeth o’u rhaglenni eu hunain, yn yr achos hwn, ffilmiau byr ar gyfer gwefan 5x60.
"Mae’n bleser gan Media4Schools fod yn gweithio gyda Chyngor Chwaraeon Cymru er mwyn helpu pobl ieuainc i ddefnyddio cyfryngau digidol wrth gyfathrebu amcanion menter 5x60 i’w cyfoedion. Gyda chwe ysgol yn cymryd rhan ar hyn o bryd a chyfanswm o 12 o ffilmiau byrion naill ai wedi’u cwblhau neu wrthi’n cael eu cynhyrchu – rhai drwy gyfrwng y Gymraeg – rydym yn eithriadol falch o lwyddiant y cynllun hyd yma."
Meddai Gethin Smart, Swyddog 5x60 Ysgol Gyfun Llanhari, am y prosiect a’r modd y mae’r disgyblion yn ei ysgol wedi cymryd ato hyd yma:
"Mae dau sesiwn ffilmio llwyddiannus wedi’u cynnal eisoes yn Ysgol Gyfun Llanhari ac mae’r pedwar myfyriwr o’r ysgol a ddewiswyd wedi cymryd at y prosiect yn arbennig o dda. Maent wedi mwynhau’r ffilmio, y sgriptio a’r agweddau cydlynu ar eu gwaith yn arbennig ac maent wedi dangos brwdfrydedd mawr o’r dechrau un.
"Fe wnaethom ddewis ffilmio gêm bêl droed derfynol yn ystod y tymor, a orffennodd gydag ergydion llawn tensiwn o’r smotyn, ynghyd âthwrnament pêl droed i enethod. Ar ran yr ysgol, rwy’n hynod falch o fod yn rhan o’r prosiect Media4Schools a mwy fyth felly oherwydd ei fod wedi bod o gymorth i greu ymwybyddiaeth pellach o’r gweithgareddau 5x60 sy’n cael eu cynnal yn yr ysgol."
Roedd y camerâu wrth law hefyd i ffilmio lansiad y rhaglen 5x60 yn Ysgol Ferched Aberdâr, a oedd yn cynnwys diwrnod llawn o weithgareddau megis pêl osgoi, pêl fasged a dawnsio stryd, sesiwn caiacio yn Ysgol Gyfun Treorci, taith i Ganolfan Sgïo Pontypŵl gydag Ysgol Gyfun Tonyrefail a chiplowg ar y rhaglen Yn Y Parth 2 yn Ysgol Gymunedol Porth.