IEUENCTID CYMRU’N BAROD AM RYGBI CAMPAU’R DDRAIG

25 Chwef 2009

Wrth i sgwad rygbi Cymru ruo ymlaen yn llwyddiannus i amddiffyn eu teitl yng Ngornest y Chwe Gwlad, mae plant ysgolion cynradd ledled Cymru’n paratoi i efelychu arwyr y crysau coch mewn cystadlaethau Campau’r Ddraig.

Mae gwyliau rygbi tag yn cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad, o Fae Colwyn i Grymych, mewn ymgais i gymell plant ysgolion cynradd i fod yn fwy egnïol yn gorfforol drwy gymryd rhan yn y gêm genedlaethol.

Mae ysbrydoliaeth o’r safon uchaf ar gael i Gampau’r Ddraig gyda sêr y byd rygbi yng Nghymru, fel Shane Williams, Gavin Henson, James Hook a Nicky Robinson, i gyd yn llysgenhadon ar gyfer y cynllun.

Mae prif sgoriwr ceisiau Cymru a Chwaraewr Rhyngwladol y Flwyddyn y BRRh, Shane Williams, wedi dangos ei gefnogaeth i ymgyrch Campau’r Ddraig i gyflwyno ieuenctid i’r gamp.

Meddai Williams, "Rwyf wedi bod yn chwarae rygbi ar hyd fy oes ac rwy’n gwbl gefnogol i’r syniad o gael plant i gymryd rhan mewn rygbi ac unrhyw weithgaredd chwaraeon a fydd yn eu cadw’n heini ac yn egnïol pan yn ifanc. Mae’n wych gweld bod Campau’r Ddraig yn rhoi cyfleoedd i blant yng Nghymru ac efallai y bydd rhai ohonynt, rhyw ddiwrnod, yn cael eu hysbrydoli i gynyrchioli ein gwlad ar y lefel uchaf, gyda chymaint o gyfleoedd amrywiol i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae’n wych bod rhieni a gwirfoddolwyr yn cael eu hannog i hyfforddi ieuenctid hefyd ac mae’n dangos bod chwaraeon yn gallu dwyn teuluoedd a chymunedau at ei gilydd mewn ffordd arbennig iawn."

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Gyda Gornest y Chwe Gwlad yn mynd rhagddi, rydym yn gobeithio y bydd bechgyn a genethod ledled Cymru’n cymryd rhan yn y cyfleoedd niferus sydd ar gael i gamu ar y cae. Mae Campau’r Ddraig yn rhagori ar yr holl ddisgwyliadau ac rwyf mor falch bod cymaint o ysgolion a chlybiau’n darparu sesiynau chwaraeon hwyliog a diogel i blant cynradd."

Mae’r cynllun a ariennir gan y Loteri – ymgyrch fwyaf Cymru i gael plant ysgolion cynradd i fwynhau chwaraeon y tu allan i oriau ysgol – yn helpu i ddenu mwy o blant at chwaraeon a chynyddu lefelau gweithgarwch.

Yn ei lansiad yn Hydref 2000, dywedwyd mai’r cynllun oedd ymgyrch recriwtio fwyaf erioed y byd chwaraeon yng Nghymru – ac mae wedi rhagori ar ei holl ddisgwyliadau, gyda 94% o’r ysgolion cynradd yng Nghymru’n ymwneud â’r cynllun yn awr.

Un o brif amcanion Campau’r Ddraig yw recriwtio a hyfforddi trefnyddion, arweinwyr a hyfforddwyr chwaraeon gwirfoddol i dreulio amser yn cyflwyno ieuenctid i gampau fel rygbi, tenis a hoci – yn enwedig rhieni ac athrawon, sef y gwir arbenigwyr ar gael plant allan ar y cae.

Os am wybod mwy am Gampau’r Ddraig yn eich ardal, cysylltwch â’ch awdurdod lleol a gofynnwch am Gydlynydd Campau’r Ddraig neu ewch i www.campau-draig.co.uk.