CYMRO GYDA DIM OND UN YSGYFAINT YN NOFIO DROS EI WLAD
19 Chwef 2009
Mae Rob Parry o Abergele’n gobeithio cynhyrfu’r dyfroedd yn Nhwrnament Celtaidd y Tair Gwlad yn nes ymlaen y mis hwn ym Mhwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe (20fed tan 22ain Chwefror 2009).
Er ei fod wedi cael ei eni gyda dim ond un ysgyfaint – a pheint o hylif ble dylai’r ysgyfaint arall fod - Rob, sydd bellach yn 17, yw un o brif nofwyr Cymru erbyn hyn. Bydd yn gobeithio gwneud ei farc y penwythnos yma yn y dull rhydd 50m, 100m a 200m.
Mae’n un o nofwyr addawol Nofio Cymru a fydd yn ceisio trechu’r Alban ac Iwerddon.
Wedi’i eni dri mis yn fuan, roedd misoedd cyntaf ei fywyd yn frwydr fawr ac roedd ei fam, Sue – sydd hefyd yn hyfforddi Rob – yn gwybod y byddai ymarfer o gymorth i sicrhau dyfodol iach iddo.
Ar y dechrau, ni allai Rob gerdded mwy na ryw ychydig droedfeddi cyn i’w wefusau droi’n las. Diffyg ocsigen oedd yn gyfrifol am hyn ond mae nofio ers mae’n ddim ond 12 mis oed wedi helpu i feithrin ei stamina.
Mae penderfyniad, talent a theulu cefnogol Rob wedi helpu i sicrhau llwyddiant parhaus iddo fel nofiwr er bod ganddo frest yn crymu am i mewn o hyd, yn dangos y man lle dylai’r ysgyfaint absennol fod.
Fel nifer o athletwyr safonol eraill, fel Paula Radcliffe a Paul Ince, mae dal yn dioddef o asthma ac mae’n rhaid iddo fod yn eithriadol ofalus er mwyn osgoi haint ar yr ysgyfaint, a allai gael effaith niweidiol iawn ar ei berfformiad.
"Dydw i ddim yn fy ystyried fy hun yn athletwr anabl," meddai Rob, a gipiodd fedal arian yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn 2008 gyda chyd-aelodau ei dîm yn y ras gyfnewid dull rhydd 4 x 200m. "Mae’n rhaid i chi ddal ati, mae llawer o bobl mewn sefyllfa waeth na fi ac maen nhw wedi cyflawni llawer mwy.
"Mae fy mam wedi bod yn dweud erioed ‘Chei di ddim byd am ddim’. Mae hi’n feistr caled iawn ond rydym yn gweithio ar sail yr egwyddor bod raid i chi weithio’n galed er mwyn cyflawni."
Yn fyfyriwr Lefel A yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, bu Rob yn chwarae rygbi rhanbarthol ac yn rhedeg ar lefel sirol cyn ymroi ei ymdrechion i nofio. Efallai fod ei amserlen ymarfer lem o gychwyn am 4.30am ar gyfer sesiynau ymarfer yn y bore, ac yna sesiynau ar ôl ysgol yn y Pwll Rhanbarthol yn Llandudno, yn swnio’n hynod lafurus ond mae Rob yn athronyddol am ei atyniad at ddisgyblaeth:
"Rwy’n hoffi tegwch y gamp – os ydych yn ddigon cyflym rydych yn ddigon da a dydi’r cloc ddim yn oddrychol. Rwy’n hoffi’r teimlad ohonof i yn erbyn y cloc."
Meddai Prif Weithredwr Nofio Cymru, Robert James, "Mae gan Rob bob cyfle i lwyddo gyda’i uchelgais o gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Delhi, yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012 a thu hwnt i hynny."
Yn y cyfamser, bydd Olympiad Beijing, Tom Haffield, sy’n arbenigo yn y ras gyfnewid gymysg 400m, hefyd yn rasio, yn ogystal â thîm cyfnewid cymysg 100m Merched Cymru, a drechodd Lloegr er mwyn hawlio arian yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Pune.
Hefyd, cipiodd Sara Lougher (Pen-y-bont ar Ogwr), Jaz Carlin (Abertawe), Georgia Davies (Abertawe), Alys Thomas a Fern Davis yr aur yn Pune, gan orfodi Lloegr unwaith eto i dderbyn yr aur, yn y 4 x 200m. Nid yw ras gyfnewid y 200m ar yr amserlen y penwythnos hwn felly bydd raid iddynt fodloni ar un cyfle’n unig i gipio medal.
Mae Carlin, 18, eisoes yn edrych ymlaen at y gystadleuaeth:
"Roedd yn grêt cipio’r aur. Dydw i erioed wedi gwneud unrhyw beth fel yna o’r blaen ond rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gystadlu yn Nhwrnament Celtaidd y Tair Gwlad gartref, yn y pwll ble rwy’n ymarfer."
Hefyd, mae tîm cyfnewid y dynion, sef Robert Parry, Gareth Keating, Tom Allen a Calum Jarvis i gyd yn gobeithio ailadrodd eu llwyddiant yn Pune ble bu iddynt lwyddo i ddal tîm Lloegr i safle’r efydd yn y 4 x 200m dull rhydd.
Bydd Gweinidog Chwaraeon Cymru, Alun Ffred Jones, yn mynychu’r Pencampwriaethau ar ddiwrnod olaf y cystadlu.
Meddai: "Roeddwn yn falch iawn o glywed am berfformiadau gwych nofwyr Cymru yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn yr India fis Hydref diwethaf ac rwy’n edrych ymlaen at eu gweld yn cystadlu fy hun, a chael cyfle i gwrdd â rhai ohonynt hefyd.
"Gyda Gemau’r Gymanwlad ar y gorwel y flwyddyn nesaf, mae’n braf iawn gweld y cystadleuwyr ieuainc hyn yn dod drwodd. Mae’n briodol hefyd bod y pencampwriaethau hyn yn digwydd yn ystod hanner tymor pan all plant a phobl ieuainc ledled Cymru nofio am ddim, diolch i’n Menter Nofio Am Ddim."
Twrnament Celtaidd y Tair Gwlad, Pwll Cenedlaethol Cymru, Abertawe
20fed tan 22ain Chwefror 2009