PENWYTHNOS O HWYL AM DDIM I DEULUOEDD YN DYCHWELYD I WRECSAM
13 Chwef 2009
Bydd pedair canolfan hamdden ledled Wrecsam yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau am ddim i bobl ieuainc 16 oed ac iau y penwythnos hwn, diolch i Fenter Nofio Am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Ymhlith rhai o’r gweithgareddau fydd ar gael bydd snorcelu gyda sgwters ski-doo tanddwr, nofio cyfamserol a pholo dŵr ond hefyd bydd y penwythnos yn cynnwys lansiad dosbarthiadau Nofio a Throchi i Rieni a Phlant. Bydd y sesiwn hwn gyda chymhareb lacach ar gyfer oedolion a phlant yn galluogi i deuluoedd mwy fwynhau’r dŵr gyda’i gilydd.
Bydd y rhaglen weithgarwch yn ystod y penwythnos yn cael ei darparu yn Wrexham Waterworld a Chanolfannau Hamdden a Gweithgarwch Plas Madog, Waun a Gwyn Evans.
Meddai Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth:
"Mae cadw plant yn heini, yn egnïol ac yn ddiddig yn ystod y gwyliau’n hanfodol felly mae’n wych gweld Awdurdodau Lleol yn cynnig amrywiaeth mor eang o weithgareddau i blant.
"Mae hon yn enghraifft ragorol arall o’r modd y mae Menter Nofio Am Ddim Llywodraeth y Cynulliad yn creu mwy o gyfleoedd i bobl ieuainc o bob gallu gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol."
Hefyd, gweithredir cystadleuaeth ym mhob safle i naill ai ennill bloc o wersi nofio neu docyn nofio am dri mis, gan ddibynnu ar oedran ac anghenion yr enillydd. Bydd cystadleuaeth ychwanegol yn cael ei gweithredu ar bob safle gyda chyfle i ennill aelodaeth gym a nofio BUR.
Y cyfan sydd raid i’r nofwyr ei wneud yw cwblhau holiadur amdanynt hwy eu hunain a pham eu bod yn hoffi nofio, er mwyn cael cyfle i ennill y wobr.
Mae amrywiaeth o weithgareddau ar gael am ddim mewn canolfannau hamdden ledled Cymru fel rhan o’r Fenter Nofio Am Ddim.
Am wybodaeth bellach am y Fenter Nofio Am Ddim, cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol neu ewch i www.free-swimming-wales.org.uk.