DEIFIO AM HWYL YN YSTOD HANNER TYMOR MIS CHWEFROR!

13 Chwef 2009

Gall plant Sir y Fflint ddilyn yn ôl troed y deifiwr Olympaidd, Tom Daley, yr hanner tymor yma drwy ddeifio i mewn i’r pen dwfn a chymryd rhan mewn gwers ddeifio arbennig a gynhelir fel rhan o’r Fenter Nofio Am Ddim.

Bydd y dosbarth ‘Deifio a Thro Towlu’ yn cael ei gynnal ddydd Gwener 20 Chwefror rhwng 11am a hanner dydd ac mae’n ddilyniant i ddosbarthiadau deifio a gynhaliwyd yn flaenorol yn ystod gwyliau’r haf.

Mae’r wers yn dechrau gydag asesiad o sgiliau a galluoedd y plant yn y dŵr, fel bod yr hyfforddwr yn gallu rhannu’r grŵp yn glystyrau llai os oes angen, gan ddibynnu ar eu lefel. Yna dysgir sylfeini deifio i’r plant, gan ddefnyddio ochr y pwll neu flociau deifio arbennig. Daw’r wers i ben gyda’r grŵp yn meistroli’r tro towlu, sgil arbennig yn y byd nofio.

Meddai Hannah Roberts, Cydlynydd Nofio Am Ddim Sir y Fflint:

"Mae’r gwersi deifio wedi profi’n boblogaidd ers i Tom Daley hoelio ein sylw yng Ngemau Olympaidd Beijing ac felly rydym yn eithriadol falch o allu darparu’r cyfle hwn i roi cynnig ar y gamp anarferol hon eto yr hanner tymor yma. Mae’n braf bod y plant yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth gwahanol, gan gadw’n heini ac yn egnïol yr un pryd."

A dweud y gwir, mae’r gwersi wedi profi mor boblogaidd fel bod y ganolfan hamdden wedi penderfynu cynnwys y rhaglen ddeifio fel rhan barhaol o’r ddarpariaeth yn ystod gwyliau’r ysgol. Gobeithir hefyd y bydd y gwersi deifio’n dod yn rhan reolaidd o’r rhaglen y tu allan i wyliau’r ysgol, diolch i raglen ‘Fflip a Hwyl’ newydd gan CNA, sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd.

Meddai Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth:

"Mae cadw plant yn heini, yn egnïol ac, yn bwysicach na dim, yn ddiddig yn ystod y gwyliau’n hanfodol felly mae’n wych gweld Awdurdodau Lleol yn cynnig amrywiaeth mor eang o weithgareddau i blant.

"Mae hon yn enghraifft ragorol arall o’r modd y mae Menter Nofio Am Ddim Llywodraeth y Cynulliad yn creu mwy o gyfleoedd i bobl ieuainc o bob gallu gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol."

Am wybodaeth bellach am Nofio Am Ddim, cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol neu ewch i www.free-swimming-wales.org.uk