KAYAKING CHALLENGE FOR CHILDREN IN GWYNEDD
13 Chwef 2009
Bydd plant Gwynedd yn gallu mwynhau her gorfforol yr hanner tymor yma, drwy ddysgu sut i gaiacio dan do.
Bydd Canolfan Hamdden Glaslyn ym Mhorthmadog yn cynnal dau sesiwn blasu am ddim er mwyn cael pobl ieuainc i gymryd rhan yn y gamp fel rhan o’r Fenter Nofio Am Ddim.
Bydd cyswllt rhwng y ganolfan hamdden a chlwb caiacio lleol, Clwb Antur Glaslyn, yn golygu y bydd pobl ieuainc yn dechrau drwy ddysgu’r sgiliau sylfaenol yn y pwll ac yna’n symud ymlaen i gaiacio ar afonydd a llynnoedd lleol yn yr haf.
Meddai Rheolwr y Ganolfan, Stephen Smith:
"Mae gwella lefel y sgiliau a rheolaeth gynyddol ar ddŵr cyfarwydd yn elfen bwysig o ddysgu caiacio, ac mae hyn yn gwneud y pwll yn lleoliad delfrydol i feistroli sylfeini’r gamp."
"Mae hwn yn brosiect eithriadol gyffrous a’n nod yw rhoi cyfle i ieuenctid fwynhau’r awyr agored yn ogystal â’n cyfleusterau hamdden rhagorol ni, a ffurfio partneriaethau agosach gyda sefydliadau lleol, fel Clwb Antur Glaslyn.
Darparwyd yr offer, sy’n cynnwys wyth caiac newydd a threlar awyr agored i helpu gyda chludo’r caiacs i afonydd a llynnoedd lleol, drwy gyfrwng grant gwerth £4,800 gan Gronfa Ddatblygu Gweithgareddau Dyfrol Llywodraeth y Cynulliad.
Meddai Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth:
"Mae’r Gronfa Ddatblygu ar gyfer Gweithgareddau Dyfrol yn cyd-fynd yn dda â’r Fenter Nofio Am Ddim drwy gefnogi prosiectau bach a mawr sy’n ceisio annog y defnyddwyr presennol a defnyddwyr newydd i fod yn fwy egnïol yn amlach.
"Rydym yn cydnabod yn llawn y cyfraniad aruthrol y mae gwasanaethau hamdden awdurdoddau lleol yn ei wneud at chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru ac mae’r cyllid ychwanegol hwn yn cyfrannu at helpu i annog defnydd mwy rheolaidd o’r cyfleusterau."
Cynigir amrywiaeth o weithgareddau mewn canolfannau hamdden ledled Cymru yn ystod hanner tymor mis Chwefror.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol neu ewch i www.free-swimming-wales.org.uk.