PENTWYN YN TROI’N BINC I FUDIAD CALON PRYDAIN
11 Chwef 2009
Bydd y rhai sy’n mynychu’r pwll ym Mhentwyn yn cael dipyn o syndod ddydd Llun nesaf pan fyddant yn mynychu eu sesiwn nofio arferol yn ystod hanner tymor – bydd y pwll wedi troi’n binc!
Ydi wir, mae Canolfan Hamdden Pentwyn am gynnal ‘Parti Pwll Pinc’ arbennig er budd Mudiad Calon Prydain. Bydd yn newid lliw y pwll yn binc llachar ac yn cynnal sesiwn hwyliog i blant, ac yn codi arian, fel rhan o’r rhaglen Nofio Am Ddim.
Cynhelir y Parti Pwll Pinc rhwng 2pm a 4pm ddydd Llun 16eg Chwefror a bydd yn cynnwys gweithgareddau hwyl fel cwisiau, cerdded distyn a disgo dŵr. Gwneir casgliad a bydd yr holl arian a gyfrennir yn mynd tuag at Fudiad Calon Prydain.
Bydd y pwll yn cael ei droi’n lliw pinc hudolus drwy ddefnyddio lliw arbenigol tryloyw. Dros gyfnod o amser, bydd y pinc yn diflannu, gyda’r clorin a roddir mewn pyllau nofio.
Meddai Alex Gdula, Uwch-Reolwr Cynorthwyol yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn:
"Bydd y sesiwn arbennig yma’n achlysur llawn hwyl ac yn ffordd wych i gadw plant yn ddiddig yn ystod dydd Llun hanner tymor. Mae’n bwysig bod pobl ieuainc yn ymwybodol o’r ffaith bod byw yn iach a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel nofio’n cyfrannu at galon iach, ac rydym yn hynod falch o allu cefnogi Mudiad Calon Prydain a chreu mwy o ymwybyddiaeth o Fis Cenedlaethol y Galon."
Mae Canolfan Hamdden Pentwyn yn gallu cynnal digwyddiadau hwyliog i blant yn ystod gwyliau’r ysgol am ei fod wedi derbyn cyllid gan Gronfa Wella Nofio Am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru. Drwy gyfrwng y Gronfa Wella, mae’r ganolfan wedi profi cyfres o welliannau’n ddiweddar, yn cynnwys system oleuo newydd ar gyfer y pwll a rhai gwelliannau pwysig i’w saernïaeth.
Meddai Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth:
"Mae’r Gronfa Wella ar gyfer Nofio Am Ddim yn cyd-fynd yn dda â’r Fenter Nofio Am Ddim drwy gefnogi prosiectau bach a mawr sy’n ceisio annog y defnyddwyr presennol a defnyddwyr newydd i fod yn fwy egnïol yn amlach.
"Rydym yn cydnabod yn llawn y cyfraniad aruthrol y mae gwasanaethau hamdden awdurdodau lleol yn ei wneud at chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru ac mae’r cyllid ychwanegol hwn yn cyfrannu at helpu i annog defnydd mwy rheolaidd o’r cyfleusterau."
Am wybodaeth bellach am Nofio Am Ddim, cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol neu ewch i www.free-swimming-wales.org.uk