SIONED YN PROFI NA ALL UNRHYW RWYSTR ATAL HWYL A FFITRWYDD
13 Chwef 2009
Mae merch naw oed o Dregaron eisiau profi nad yw anabledd yn ei rhwystro rhag cael hwyl yr hanner tymor yma.
Bydd Sioned Edwards, ynghyd â’i chwiorydd Gwawr, 11, a Cara, 7, yn mynd i’r Clwb Nofio Sadwrn gyda’i gilydd y gwyliau ysgol yma, clwb sy’n sicrhau bod pobl ieuainc gydag anableddau’n gallu mwynhau gwersi gyda’u brodyr a’u chwiorydd abl.
Wedi’i leoli ym Mhwll Aberaeron, mae’r clwb nofio’n agor ei ddrysau i bobl ieuainc 16 oed ac iau am ddim yn ystod hanner tymor mis Chwefror, diolch i Fenter Nofio Am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Bydd Sioned, sy’n dioddef ychydig o barlys yr ymennydd, yn treulio ei gwyliau’n perffeithio ei sgiliau ar gyfer gala nofio i’r anabl sydd ar y gorwel.
Dechreuodd y ferch ifanc ddewr nofio pan oedd yn chwech oed, er mwyn helpu i wella hyblygrwydd ei choesau. Meddai ei mam, Sue:
"Mae nofio wedi bod yn achubiaeth i Sioned. Pan ddechreuodd nofio, roedd yn eithaf stiff, yn arbennig ei choesau, ond nawr mae’n symud o gwmpas yn llawer mwy ystwyth. Mae nofio wedi bod o gymorth i wella ei chylchrediad ac wedi gwneud byd o wahaniaeth i’w hyder.
"Yn y dŵr, mae hi yn union fel unrhyw ferch fach arall ac rwy’n meddwl mai dyna’r peth pwysicaf."
Ar adeg pan fydd llawer o rieni’n cael trafferth i gael hyd i weithgareddau i gadw eu plant yn ddiddig, dywed Sue bod Nofio Am Ddim yn amserol iawn:
"Mae Nofio Am Ddim yn wych. Mae’n anodd cael hyd i bethau i’r plant eu gwneud y gallwch chi eu fforddio. Mae’r dosbarthiadau hyn yn golygu y gallaf ollwng fy tair merch yn y pwll gyda’i gilydd am awr, gan roi awr ychwanegol i mi wneud pethau! Hefyd mae’n tynnu’r genethod allan o’r tŷ gan fwynhau amser hwyliog gyda’i gilydd, ac mae hefyd yn eu cadw’n egnïol."
Dywedodd Rheolwr Pwll Aberaeron, Martine Branford, bod y Clwb Nofio Sadwrn a’r Clwb Nofio Anabledd integredig yn golygu sicrhau bod mwy o ddrysau ar agor i bobl ieuainc o bob gallu fel eu bod yn gallu cymryd rhan yn y cynllun.
"Mae’n ffantastig gweld y plant yn dod at ei gilydd gyda’u ffrindiau a’u brodyr a’u chwiorydd i gael amser gwych heb orfod poeni a fydd eu hanabledd yn eu cyfyngu. Mae gennym enw da am annog nofwyr ieuainc yn Aberaeron a dyna pam ein bod yn awyddus i sicrhau bod plant o bob gallu’n cael cyfle i gymryd rhan.
"Diolch i gynlluniau fel Nofio Am Ddim, rydym yn derbyn cymorth i gyflogi staff ychwanegol i ddarparu ar gyfer anghenion nofwyr anabl a’u galluogi i sicrhau’r cymorth ychwanegol maent ei angen. Rydym yn eithriadol falch o allu cynnig y sesiynau arbenigol hyn yn rhad ac am ddim yr hanner tymor yma."
Meddai Gemma Cutter, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru yng Ngheredigion:
"Does dim raid i anabledd fod yn rhwystr i bobl ieuainc yn yr ardal na’u hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Mae ein rhaglen ni’n darparu ar gyfer sbectrwm o alluoedd, ar gyfer plant sydd ond eisiau ychydig o gymorth i’r rhai sydd eisiau cefnogaeth ddwysach."
Meddai Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth:
"Mae nofio’n ffordd dda o gael hwyl, cymdeithasu a bod yn egnïol. A chan ei fod am ddim, mae’n dda i’r rhieni ac yn golygu bod plant a phobl ieuainc yn gallu nofio’n rheolaidd.
"Ers ei sefydlu, mae Menter Nofio Am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn eithriadol boblogaidd ac edrychaf ymlaen at gael gwared ar fwy o rwystrau sy’n atal Cymru rhag bod yn heini ac yn iach yn y dyfodol."
Cynhelir y sesiynau blasu am ddim ym Mhwll Aberaeron ar 14 a 21 Chwefror. Mae’r sesiynau hyn yn rhan o amrywiaeth o weithgareddau a gynigir ledled Ceredigion yn ystod hanner tymor mis Chwefror.
Gall y plant sy’n cymryd rhan yn y sesiynau yma am ddim ymuno â’r clwb yn ystod y tymor hefyd, am ddim ond £2.60.
Am wybodaeth bellach am y Fenter Nofio Am Ddim, cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol neu ewch i www.free-swimming-wales.org.uk.