MERCHED Y DE DDWYRAIN AR BEN EU DIGON DIOLCH I GYFLEOEDD CYNYDDOL
3 Chwef 2009
Mae merched Caerffili a Blaenau Gwent wrth eu boddau’n mwynhau eu bywyd cymdeithasol, diolch i bartneriaeth rhwng dau awdurdod lleol a Chyngor Chwaraeon Cymru.
Mae cynghrair bêl rwyd ‘gymdeithasol’ a gefnogir gan Gynghorau Bwrdeistref Caerffili a Blaenau Gwent wedi profi mor llwyddiannus fel bod nifer y timau sy’n cymryd rhan wedi dyblu, ac mae timau eraill wedi gwneud cynnydd ac wedi symud ymlaen i gymryd rhan mewn cynghreiriau mwy cystadleuol.
Ffurfiwyd Cynghrair Gymdeithasol Oedolion Caerffili / Blaenau Gwent er mwyn darparu sylfaen strwythuredig a threfnus ar gyfer cymryd rhan mewn pêl rwyd, tra’n cadw at awyrgylch braf a chwbl ymlaciol.
Cyfrifoldeb y merched yw trefnu a gweithredu’r gynghrair, gyda’r timau’n gyfrifol am drefnu eu gemau eu hunain bob pythefnos.
Sefydlwyd y gynghrair gyda phump o dimau ond bellach mae wedi ehangu i gynnwys 11, ac mae gan dri o’r timau ail garfannau, carfannau B, hyd yn oed, ac un garfan C! Mae nifer o’r merched sy’n ymwneud â’r gynghrair wedi mynychu cyrsiau hyfforddi a dyfarnu er mwyn eu cynorthwyo gyda datblygu eu clybiau ac i sicrhau eu bod yn parhau’n gynaladwy.
Meddai aelod cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros addysg a hamdden, y Cynghorydd Phil Bevan:
"Mae mor braf gweld y gynghrair newydd hon yn profi’n gymaint o lwyddiant. Rhaid croesawu unrhyw fenter sy’n annog mwy o bobl i fwynhau chwaraeon a bod yn egnïol. Byddwn yn parhau i greu cyfleoedd newydd a chyffrous er mwyn cael pobl o bob oedran i gymryd rhan mewn chwaraeon ledled yr ardal yn y dyfodol."
Ategodd y Cynghorydd Jason Owen, Aelod Gweithredol Cyngor Bwrdeistref Blaenau Gwent dros Hamdden, yr hyn a ddywedwyd gan y Cynghorydd Bevan:
"Rydym yn gweithio gyda Chyngor Chwaraeon Cymru er mwyn darparu rhagor o gyfleoedd i bobl leol fyw yn iachach. Mae ein timau yn y gynghrair bêl rwyd yn cynnig gweithgareddau chwaraeon, ffitrwydd a hwyl o’r safon uchaf i ferched."
Mae timau unigol oddi mewn i’r gynghrair wedi derbyn cyllid gan gynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru. Dyfernir grantiau o hyd at £1,000 i sefydliadau sy’n ceisio datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon ac, yn draddodiadol, mae’r cyllid hwn yn cael ei roi tuag at hyfforddi hyfforddwyr a darparu offer.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn llwyddiant mawr ac mae’n parhau i fod felly, ac mae’n gynllun hynod boblogaidd ledled Caerffili a Blaenau Gwent. Mae’r cynnydd diweddar mewn cyllid a sgôp ehangach y cynllun yn golygu y bydd yn datblygu i fod yn fwy effeithiol fyth.
"Rydym eisiau clywed am unrhyw syniadau difyr a phrosiectau newydd a fydd yn cael mwy o bobl yn ardaloedd y ddau awdurdod lleol yma i fod yn fwy egnïol yn amlach."