LEDLEY’N MYND ATI I YSGOGI IEUENCTID
30 Ion 2009
Wrth i’r Adar Gleision baratoi ar gyfer ail gymal eu brwydr yng Nghwpan yr FA yn erbyn cewri’r Uwch-Gynghrair, Arsenal, yr wythnos nesaf, mae chwaraewr canol cae Dinas Caerdydd a Chymru, Joe Ledley, wedi bod yn annog ieuenctid i wireddu eu breuddwydion yn y byd chwaraeon.
Gyda’r ras am deitl 2008/09 yn llawn cynnwrf a bwrlwm erbyn hyn, a’r gemau rhwng y timau sy’n weddill yn poethi, mae Ledley, y llanc 22 oed a aned yng Nghaerdydd, wedi cymryd amser i ffwrdd oddi wrth ei amserlen ymarfer brysur i ddangos ei gefnogaeth i raglen Campau’r Ddraig Cyngor Chwaraeon Cymru ac i gwrdd â disgyblion o Ysgol Gynradd All Saints yn Y Barri, er mwyn eu cymell i gymryd rhan.
Mae’r fenter a gyllidir gan y Loteri’n darparu cyfleoedd gweithgarwch corfforol allgyrsiol i blant ysgolion cynradd ledled Cymru ac mae’n canolbwyntio ar wyth camp – criced, hoci, golff, athletau, pêl rwyd, rygbi, tenis a phêl droed. Mae 94% o’r ysgolion cynradd yn aelodau bellach o ymgyrch fwyaf Cymru i gael ieuenctid i fwynhau chwaraeon y tu allan i oriau ysgol.
Yn ysbrydoliaeth perffaith i ieuenctid Caerdydd, ymunodd Ledley â Chanolfan Ragoriaeth CPD Dinas Caerdydd pan oedd yn naw oed, wedi treulio ei flynyddoedd cynnar yn cefnogi tîm ei ddinas enedigol. Wedi codi drwy rengoedd y clwb, chwaraeodd yn broffesiynol am y tro cyntaf fis Hydref 2004 ac fe aeth yn ei flaen i sgorio’r gôl fuddugol a sicrhaodd le i’w dîm yn rownd derfynol Cwpan yr FA yn Wembley y llynedd.
Mae Ledley’n teimlo ei bod yn bwysig cael plant i wisgo esgidiau pêl droed o oedran mor ifanc ag y bo modd:
"Mae rhaglenni fel Campau’r Ddraig yn hanfodol i ddyfodol pêl droed Cymru, a chwaraeon yn gyffredinol. Po fwyaf o fechgyn a genethod Cymru sy’n chwarae ac yn datblygu, po fwyaf fydd ar gael i ddewis o’u plith ar gyfer sgwadiau a thimau cenedlaethol yn y dyfodol.
"Rwyf wrth fy modd yn cael cyfle i fod yn gysylltiedig â’r rhaglen ac rwy’n gobeithio y bydd pêl droedwyr ieuainc yn cael eu hysbrydoli gan yr yrfa rwyf i wedi’i dilyn hyd yma. Mae ennill 24 cap dros fy ngwlad yn fy ngwneud yn falch iawn. Mae Campau’r Ddraig yn cynnig hyfforddiant ac arbenigedd rhagorol i blant, mewn amgylchedd hwyliog. Mae’n sylfaen dda iddynt allu adeiladu arni a sicrhau llwyddiant tebyg eu hunain."
Roedd Phillip Carling, Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, yn falch o groesawu Ledley’n gefnogwr i’r cynllun:
"Mae Campau’r Ddraig yn gwneud yn llawer gwell na’r disgwyl ac rwy’n falch bod cymaint o ysgolion a chlybiau’n darparu sesiynau chwaraeon hwyliog a diogel ar gyfer plant ysgolion cynradd. Mae cael pobl ysbrydoledig o’r byd chwaraeon, fel Joe Ledley, i gefnogi’r cynllun o fudd mawr iddo, a gweithio tuag at annog mwy o blant i gymryd rhan. Rydym yn falch iawn o allu ei groesawu’n rhan o’r cynllun."
Meddai Neil Ward, Rheolwr Cyffredinol Ymddiriedolaeth Bêl Droed Cymru, a fu’n helpu Ledley i ddatblygu drwy’r strwythur sgwad cenedlaethol:
"Rydym yn hynod falch o weld Joe’n cael ei benodi’n llysgennad i raglen Campau’r Ddraig. Mae’n esiampl berffaith o dalent ifanc Cymru a ddaeth i’r amlwg o oedran cynnar ar lefel gyffredin ac sydd wedi mynd ymlaen i chwarae dros ei glwb a’i wlad ar y lefel uchaf. Mae Joe’n esiampl ragorol i holl chwaraewyr ieuainc Cymru yn y dyfodol."
Mae’r pêl droedwyr ieuainc o Ysgol Gynradd All Saints eisoes wedi cymryd cam i’r cyfeiriad iawn – gan sicrhau buddugoliaeth yn nhwrnament ysgolion Adran Pêl Droed yn y Gymuned Dinas Caerdydd cyn y Nadolig. Byddant yn mynd ymlaen yn awr i chwarae yn y rowndiau terfynol rhanbarthol ym Mryste.
Meddai James Ball, Athro AG yn Ysgol Gynradd All Saints:
"Roeddem yn ddigon ffodus i allu cynrychioli Bro Morganwg yn y Gwpan Gymunedol ac wrth ein boddau ein bod wedi trechu cystadleuwyr mor arbennig o bob cwr o Dde Cymru. Byddwn yn falch o gynrychioli CPD Dinas Caderdydd a Bro Morgannwg yn y rowndiau terfynol rhanbarthol.
"Rydym yn cefnogi ethos Campau’r Ddraig yn llwyr yn ein hysgol ac yn defnyddio ein hadnoddau i helpu i wella ein gwersi AG. Yn gefnogwyr Dinas Caerdydd, roedd y plant yn edrych ymlaen yn eiddgar iawn at gyfarfod Joe Ledley – mae’n eilun iddyn nhw."
Un o brif amcanion Campau’r Ddraig yw recriwtio a hyfforddi trefnyddion, arweinwyr a hyfforddwyr chwaraeon gwirfoddol i dreulio amser yn cyflwyno ieuenctid i chwaraeon fel pêl droed, tenis a hoci – yn arbennig rhieni ac athrawon sy’n datblygu i fod yn arbenigwyr mawr ar gael y plant i gamu allan ar y cae.
Os ydych eisiau gwybodaeth bellach am Gampau’r Ddraig yn eich ardal, cysylltwch â’ch awdurdod lleol a gofynnwch am Gydlynydd Campau’r Ddraig neu ewch i www.campau-draig.co.uk